Skip to main content

Rhaglen Gwella Gwyliau'r Ysgol wedi'i chytuno ar gyfer haf 2021

Porth Community School - Sept 2018-26 generic

Mae'r Cyngor bellach wedi cytuno ar ei Raglen Gwella Gwyliau'r Ysgol estynedig ar gyfer pobl ifainc mewn 15 lleoliad dros yr haf. Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithgareddau dyddiol a phrydau bwyd iach.

Bydd y Rhaglen, sy'n cael ei hadnabod hefyd fel y 'Rhaglen Bwyd a Hwyl', yn cael ei chynnal mewn 13 o ysgolion prif ffrwd a dwy ysgol arbennig rhwng 21 Gorffennaf a 5 Awst. Mae rhestr lawn o'r lleoliadau wedi'i chynnwys isod. Bydd y Rhaglen yn cael ei chynnal rhwng 9.30am a 1.15pm bob dydd, a bydd yn darparu prydau bwyd iach, addysg bwyd a maeth, gweithgareddau corfforol a sesiynau cyfoethogi.

Mae'r Rhaglen Gwella Gwyliau'r Ysgol wedi'i thargedu yn rhai o gymunedau mwyaf cymdeithasol ddifreintiedig y Fwrdeistref Sirol, ac mae'n cael ei chynnal yn ystod gwyliau haf yr ysgol pan does dim brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd na phrydau ysgol ar gael. Mae'n gyfnod pan fydd rhai teuluoedd yn wynebu caledi ariannol i fforddio neu i gael gafael ar y bwyd sy'n ofynnol ar gyfer diet iach.

Bydd gan bob lleoliad prif ffrwd le i uchafswm o 40 disgybl (5-11 oed), ac 20 disgybl (7-19 oed) mewn ysgolion arbennig. Mae modd gwneud cais am le trwy'r broses cadw lle ar-lein, ac mae'r lleoedd yn amodol ar argaeledd. Bydd lleoedd yn cael eu blaenoriaethu ar sail angen.  Cafodd y 15 lleoliad eu dewis yn sgil y canran uchel o ddisgyblion sy'n cael darpariaeth prydau ysgol am ddim mewn rhannau o'r Fwrdeistref Sirol, a'r mynediad at gyfleusterau ar y safle.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi cymorth i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim trwy gydol gwyliau'r ysgol tan ddiwedd y flwyddyn academaidd gyfredol. Bydd cyllid ar gyfer Rhaglen Gwella Gwyliau'r Ysgol hefyd ar gael ledled Cymru, a bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydlynu'r broses o'i gyflwyno.  Rydyn ni'n rhagweld mai cost y Rhaglen yn Rhondda Cynon Taf yr haf yma fydd £178,000.

Bellach mae Swyddogion wedi cytuno ar fanylion y Rhaglen Gwella Gwyliau'r Ysgol y Cyngor, a hynny trwy Benderfyniad Dirprwyedig gan Swyddogion.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Rwy’n falch iawn bod y Cyngor wedi cytuno ar ei Raglen Gwella Gwyliau'r Ysgol ar gyfer 2021 - i ddarparu cymorth mawr ei angen i bobl ifainc agored i niwed yn ystod gwyliau’r haf, a all fod yn amser heriol i deuluoedd. Bydd yn rhoi nifer o gyfleoedd ar gyfer dysgu estynedig, rhyngweithio cymdeithasol a gweithgareddau corfforol pan does dim cyswllt gwerthfawr yn ystod y tymor gan ysgolion ar gael.

“Mae'r Cyngor wedi cymryd rhan yn llwyddiannus yn y Rhaglen am y pedair blynedd diwethaf, ac mae'n arbennig o bwysig yn ystod y pandemig i helpu rhieni a chynhalwyr (gofalwyr) i fodloni costau ychwanegol gwyliau'r ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau â’i chymorth ar gyfer prydau ysgol am ddim hyd at ddiwedd tymor yr ysgol, a rhan allweddol o'r Rhaglen Gwella Gwyliau'r Ysgol yw ei darpariaeth o frecwast a phryd bwyd iach amser cinio i’r disgyblion hynny sydd mewn angen yn ystod cyfnod gwyliau’r haf.

“Cafodd y 15 lleoliad ysgol eu dewis ar sail y ganran uchel o ddarpariaeth prydau ysgol am ddim sy'n bodoli'n lleol, ac eraill ar gyfer y cyfleusterau sydd ar gael. Bydd y Rhaglen o fudd sylweddol i 560 o bobl ifainc a'u teuluoedd yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig ein Bwrdeistref Sirol. Bydd y broses cadw lle yn cael ei chyfleu i rieni a chynhalwyr maes o law.”

Mae'r 15 ysgol a fydd yn cynnal y Rhaglen Gwella Gwyliau'r Ysgol dros haf 2021 yn cynnwys y canlynol:

  • Ysgol Gynradd Craig yr Hesg (disgyblion o ardal Glyn-coch)
  • Ysgol Gynradd Parc y Darren (disgyblion o ardal ehangach Glynrhedynog)
  • Ysgol Gynradd Gymuned Glenbói
  • Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen (disgyblion o Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen ac ardal ehangach Rhydfelen)
  • Ysgol Gynradd Llanharan
  • Ysgol Gyfun Aberpennar
  • Ysgol Gynradd Pen-rhys
  • Ysgol Gynradd Perthcelyn
  • Ysgol Gynradd Gymuned Pen-y-waun (disgyblion o ardal ehangach Pen-y-waun)
  • Ysgol Gymuned Porth (disgyblion o ardal ehangach Porth)
  • Ysgol Gymuned Tonyrefail (disgyblion o ardal ehangach Tonyrefail)
  • Ysgol Gynradd Ynys-boeth
  • Ysgol Nantgwyn (disgyblion o ardal ehangach Tonypandy).
  • Ysgol Hen Felin
  • Ysgol Tŷ Coch
Wedi ei bostio ar 21/06/21