Mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith ar gynllun peilot draenio cynaliadwy yn Stryd y Felin, Pontypridd, sydd wedi cyflwyno nodweddion gwyrdd er mwyn helpu i leihau llifogydd dŵr wyneb a'i ddargyfeirio o’r systemau draenio traddodiadol yn ystod cyfnodau o law trwm.
Mae'r cynllun peilot, sy'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, wedi cyflwyno pwll coed a gardd law i gynnig dull addasol o liniaru llifogydd sy'n gwella estheteg a bioamrywiaeth yr ardal, ac sydd hefyd yn gydnerth ar gyfer y dyfodol.
Maint yr ardd law newydd yw 35 metr sgwâr, a bydd hwn yn darparu draeniad ar gyfer y dŵr ffo wyneb o'r maes parcio concrit cyfagos, sy'n 1,085 metr sgwâr. Cyn i'r gwaith gael ei gynnal, byddai dŵr ffo o'r ardal yma'n llifo'n uniongyrchol i'r systemau draenio. Y gobaith yw y bydd hyn yn cael ei leihau hyd at 50% ar ôl cyflawni'r cynllun peilot.
Bydd y Cyngor nawr yn monitro ac yn profi'r cynllun gan ddefnyddio siambrau archwilio. Bydd hyn yn cynnig cymhariaeth rhwng dŵr sy'n rhedeg i'r ardd law, a'r llwybr draenio traddodiadol bob ochr iddo. Mae gobaith hefyd y bydd ansawdd y dŵr yn gwella wrth gael ei drin wrth iddo hidlo trwy'r ardd law, o'i gymharu â llifo'n uniongyrchol i'r system ddraenio ac yn y pen draw i'r afon.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch bod y cynllun peilot draenio cynaliadwy yma yng Nghanol Tref Pontypridd bellach wedi’i gyflawni, diolch i gyllid wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru. Mae'n cynnig datrysiad arloesol i'r llifogydd dŵr wyneb parhaus sy'n digwydd yn y lleoliad yma yn ystod cyfnodau o law trwm, ac mae'n cydymffurfio â strategaeth ac ymrwymiadau Newid Hinsawdd ehangach y Cyngor.
“Mae modd i’r cynllun gynnig buddion ychwanegol, gan gynnwys lleihau’r pwysau ar y system ddraenio ar adegau allweddol a gwella ansawdd dŵr. Bydd y Cyngor nawr yn monitro’r agweddau yma i weld a yw’r buddion posibl wedi’u gwireddu. Mae’r cynllun hefyd yn cynnig manteision ychwanegol o ran cynyddu bioamrywiaeth a gwella'r strydoedd lleol yn weledol.”
Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, y bwriad yw datblygu manylion safonol fel bod modd cynnwys y math yma o seilwaith gwyrdd mewn ystod eang o brosiectau ar draws ystod o wasanaethau'r Cyngor - o Adfywio i Briffyrdd a Pharciau - gan sicrhau ei fod yn cael ei ystyried a'i ddefnyddio'n ehangach.
Wedi ei bostio ar 18/06/2021