Skip to main content

Gwobr Diana 2021

Brad Williams

Mae un o drigolion Rhondda Cynon Taf wedi derbyn Gwobr Diana 2021 i gydnabod ei waith parhaus i greu a chynnal newid cadarnhaol.

Dywedodd Brad Williams, sy'n 22 ac yn byw yn Aberpennar, ei fod yn hynod falch o dderbyn y wobr yn ystod y seremoni wobrwyo rithwir fyd-eang a gynhaliwyd ddydd Llun, 28 Mehefin. Ymunodd Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Jill Bonetto, â'r rhai a fu'n canmol ei waith.

Dechreuodd Mr Williams ymwneud â newyddiaduraeth materion gweithgarwch cymdeithasol pan oedd yn 14 oed ac yn astudio yn Ysgol Gyfun Aberpennar. Mae ei gariad at newyddiaduraeth yn parhau hyd heddiw ac mae'n treulio'i amser hamdden yn gwirfoddoli yng ngorsaf radio gymunedol GTFM yn Rhondda Cynon Taf.

Meddai Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Bonetto: “Ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf, a’i holl drigolion,  hoffwn longyfarch Brad Williams ar gael ei anrhydeddu yng Ngwobrau Diana 2021 i gydnabod ei waith cymunedol rhagorol.

“Mae pob un o'n pobl ifainc yn haeddu defnyddio'u lleisiau. Mae gan bobl ifainc gyfle i'n helpu ni i gyd i newid y byd ac mae Gwobr Diana yn caniatáu i'n pobl ifainc ddweud eu dweud ar y lefel uchaf.”

Mae'r wobr, a gafodd ei sefydlu er cof am Diana, Tywysoges Cymru - a fyddai wedi bod yn 60 oed eleni - yn cael ei rhoi gan yr elusen â'r un enw ac mae wedi'i chefnogi gan ei dau fab, Dug Caergrawnt a Dug Sussex.

Cenhadaeth elusen Gwobr Diana yw mabwysiadu, datblygu ac ysbrydoli newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifainc ledled y DU. Dyma'r unig elusen a gafodd ei sefydlu er cof am Diana, Tywysoges Cymru, a'i chred bod gan bobl ifainc y grym i newid y byd.

Meddai Brad Williams, derbynnydd Gwobr Diana 2021: “Mae'n anrhydedd mawr i mi dderbyn y wobr yma, ac rwy'n falch iawn. Rwyf wedi derbyn y gydnabyddiaeth fwyaf arwyddocaol y mae modd i bobl ifainc ei derbyn am weithred gymdeithasol neu waith dyngarol.

“Yn ogystal â fy nheulu a ffrindiau, hoffwn ddiolch i Mr David Church yn Ysgol Gyfun Aberpennar, am ei gefnogaeth a'i arweiniad anhygoel tra roeddwn i'n ddisgybl yno, ac ar ôl i mi adael yr ysgol."

Meddai llefarydd ar ran Ysgol Gyfun Aberpennar: “Mae Brad Williams yn arbennig o angerddol am helpu ei gymuned leol. Mae'n newyddiadurwr uchelgeisiol sy'n defnyddio ei sianel newyddion ei hun, Cynon Valley News, cylchgronau dan arweiniad pobl ifainc a'i waith gwirfoddol ar radio cymunedol i ennyn diddordeb pobl ifainc mewn gweithredoedd cymdeithasol a chyfleoedd i wirfoddoli.

Mae hyn wedi helpu i godi miloedd o bunnoedd i elusennau ac wedi ysbrydoli ei gyfoedion i wneud yr un peth. Mae gwaith Brad yn dal i fynd rhagddo - yn ddiweddar, defnyddiodd ei lwyfan i alw ar yr awdurdod lleol i wella diogelwch ar y ffyrdd ger ysgol gynradd.

Meddai Tessy Ojo, Prif Swyddog Gweithredol Gwobr Diana: “Rydyn ni'n llongyfarch pawb o bob cwr o'r DU a'r byd sydd wedi llwyddo i ennill Gwobr Diana am eu gwaith arbennig i annog newidiadau er gwell.

“Rydyn ni'n gwybod y bydd derbyn yr anrhydedd yma yn eu helpu nhw i ysbrydoli rhagor o bobl ifainc i gymryd rhan yn eu cymunedau a chychwyn ar eu taith eu hunain fel dinasyddion gweithgar. 

“Am dros 20 mlynedd mae Gwobr Diana wedi gwerthfawrogi pobl ifainc a buddsoddi ynddyn nhw, gan eu hannog i barhau i wneud newid cadarnhaol yn eu cymunedau ac i fywydau pobl eraill.”

Wedi ei bostio ar 29/06/21