Skip to main content

Gwobrau Ysgolion - Tŷ Gwyn ar y Rhestr Fer

TES Logo

Mae Canolfan Addysg Tŷ Gwyn yn Aberdâr wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Ysgolion TES 2021, sy'n cydnabod yr unigolion a'r sefydliadau mwyaf rhagorol yn sector addysg y DU.

Mae pawb yng Nghanolfan Addysg Tŷ Gwyn wrth eu boddau o gael eu cydnabod yn y categori gwobr llesiant ac iechyd meddwl. Dim ond dwy ysgol yng Nghymru sydd ar y rhestr fer yn y categori yma.

Uned Cyfeirio Disgyblion yw Canolfan Addysg Tŷ Gwyn, sy'n cael ei rheoli gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'r uned yn darparu cymorth ar sail dosbarth bach, pwrpasol ac arbenigol i ddisgyblion oedran uwchradd sydd wedi'u heffeithio gan drawma a ddim yn gallu mynd i ysgol brif ffrwd.

Mae Gwobrau Ysgol TES 2021 yn cael eu cynnal yn fyw ac ar-lein ddydd Gwener, 25 Mehefin.

Meddai'rCynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Rwy’n falch iawn bod Canolfan Addysg Tŷ Gwyn wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Ysgolion TES 2021. Mae'n dyst i'r holl waith caled, ymroddiad a chymorth y staff i gyd.

“Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i ni i gyd, ac yn arbennig i'r rheiny sy'n gweithio yn y sector addysg, ac i'n holl disgyblion.

“Mae gan bob un o'n hysgolion fecanweithiau rhyfeddol ar waith i sicrhau gofal, iechyd a lles yr holl staff a disgyblion ac mae'n braf gweld hyn yn cael ei gydnabod ar blatfform cenedlaethol.”

Meddai Victoria Cox-Wall, Pennaeth Canolfan Addysg Tŷ Gwyn: “Dyma gyflawniad gwych i Ganolfan Tŷ Gwyn ar ei thaith i wella ac yn adlewyrchiad o’r cymorth a’r buddsoddiad ledled yr Awdurdod Lleol a’r Consortiwm.

“Mae ein carfan therapiwtig ni, dan arweiniad dau Seicolegydd Addysg dan hyfforddiant, wedi gweithio gyda grwpiau a disgyblion unigol ar eu sgiliau perthynas, eu hunan-barch a'u gallu i reoleiddio eu hemosiynau. Mae hyn er mwyn iddyn nhw gael mynediad at brofiadau dysgu a chymdeithasol gan ddefnyddio therapïau siarad traddodiadol a sesiynau creadigol dan do ac yn yr awyr agored, gan gynnwys adeiladu fferm morgrug.

“Mae cyfyngiadau'r pandemig byd-eang wedi effeithio ar iechyd meddwl ein disgyblion. Ein blaenoriaeth ni oedd i fynd i'r afael â hyn trwy gynnal cyfarfodydd ar-lein gyda'r rheiny oedd yn bresennol yn yr ysgol a'r rheiny oedd yn dysgu oddi cartref ac anfon llythyrau personol.

“Rydyn hefyd wedi defnyddio gwefan ein hysgol i sefydlu adran 'Hoffwn i Fy Athro Wybod' fel bod modd i ddisgyblion sydd ddim wedi bod yn yr ysgol ofyn am help neu gymorth ar unrhyw adeg.

“Rwy’n falch iawn o ddweud bod profiad uniongyrchol, barn ein staff a’n disgyblion, a’r data a sydd wedi'i gasglu yn ystod y flwyddyn ysgol, yn dangos bod y dull yma'n gweithio ar draws yr Uned Cyfeirio Disgyblion, gan sicrhau gwelliannau cynaliadwy ac effeithio’n sylweddol ar y cyfleoedd mae'n disgyblion ni'n eu cael mewn bywyd.”

Meddai Golygydd TES, Jon Severs,: “Mae'n bwysicach eleni nag erioed i ddathlu'r gwaith gwych y mae ysgolion yn ei wneud, oherwydd yn ystod y 12 mis diwethaf maen nhw wedi mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir i sicrhau bod modd i ddisgyblion gael eu haddysgu a theimlo'n ddiogel mewn amgylchiadau anghyffredin.

“Cawson ni ein boddi gan gynigion a oedd yn dangos pa mor anodd oedd gwaith ysgolion oherwydd y pandemig, a pha mor anhygoel oedd ymateb y staff.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at arddangos, fel rydyn ni'n ei wneud bob blwyddyn, pa mor hanfodol yw ein gweithwyr addysg proffesiynol i bob agwedd ar y wlad yma.”

I gael rhestr lawn o'r holl ysgolion ar y rhestr fer yng Ngwobrau Ysgolion TES 2021 ewch i www.tesawards.co.uk

Wedi ei bostio ar 08/06/21