Skip to main content

Gwaith i wella'r system ddraenio sydd ar ddod yn Ty'n-y-Wern a Threm y Faner

Tyn-y-Wern image - Copy

Ty'n-y-Wern

Bydd y Cyngor yn cyflawni dau gynllun draenio sydd wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf - gan ddechrau ddydd Llun yn Nhy'n-y-Wern yn Tonyrefail, i'w ddilyn yn gan gynllun yn Nhrem y Faner yn Ynys-hir y mis nesaf.

DT Contracting fydd yn cynnal y cynllun gwerth £125,000 yn Nhy'n-y-Wern, a bydd y Cyngor yn elwa o gyfraniad o 85% gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynllun yn cynnwys gwaith leinio i rwydwaith draenio presennol, i wella ei gyflwr a sicrhau ei fod mor effeithlon â phosibl yn ystod cyfnodau o law trwm.

Bydd y gwaith yn cychwyn o Ddydd Llun, 21 Mehefin, gan bara oddeutu mis yn gyfangwbl. Dydyn ni ddim yn disgwyl bydd llawer o darfu ar drigolion lleol yn ystod y gwaith. Fodd bynnag, efallai y bydd angen signalau traffig dros dro ar y contractwr ar gyfer elfennau o'r cynllun er mwyn cynnal llif traffig dwy ffordd. Fydd dim angen cau ffyrdd.

Cafodd DT Contracting ei benodi hefyd ar gyfer cynllun tebyg gwerth £100,000 yn Nhrem y Faner yn Ynys-hir - gan ddefnyddio cyfraniad o 85% hefyd wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru. Mae disgwyl i'r cynllun ddechrau erbyn diwedd Gorffennaf 2021 er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar Ysgol Gynradd Gymuned Ynys-hir, a bydd manylion pellach yn cael eu cyfleu i drigolion maes o law.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch bod y Cyngor wedi penodi contractwr ar gyfer y cynlluniau draenio sydd ar ddod yn Nhonyrefail ac Ynys-hir, i’w cyflawni'n olynol dros yr haf. Bydd y gwaith cyntaf yn dechrau ddydd Llun. Mae'r cynlluniau'n cynrychioli buddsoddiad cyfun gwerth £225,000, gyda chyfraniad o 85% wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru a'r 15% sy'n weddill yn cael ei ddarparu gan y Cyngor.

“Mae cyflawni gwelliannau draenio wedi'u targedu yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Mae cynnydd pwysig wedi'i wneud trwy grant Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru, a sicrhaodd £4.9miliwn yn 2020/21 a £2.75miliwn ychwanegol ym mis Mawrth 2021. Mae gwaith pwysig wedi'i gyflawni yn Ffordd Liniaru'r Porth, Heol y Gamlas yng Nghwm-bach a'r A4059 o Ben-y-waun i Drecynon - tra bod cynllun sylweddol yn dod yn ei flaen yn dda ar hyn o bryd ar yr A4059 Ffordd Osgoi Aberdâr.

“Mae gwelliannau cwlfert hefyd wedi’u targedu mewn sawl lleoliad yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf - gan gynnwys yn Nheras Bronallt yn Abercwmboi, Teras Granville, Heol y Fforest, Strtyd Kingcraft a Theras Campbell yn Aberpennar, ynghyd â chynllun peilot draenio cynaliadwy yn Stryd y Felin, Pontypridd. 

"Bydd y gwaith sydd ar ddod yn Nhy'n-y-Wern yn Nhonyrefail yn cychwyn ddydd Llun ac efallai y bydd angen rhywfaint o fesurau rheoli traffig yn lleol - er dydyn ni ddim yn disgwyl bydd llawer o darfu.  Bydd y Cyngor yn rhannuu rhagor o fanylion am y cynllun yn Nhrem y Faner yn Ynys-hir maes o law, a bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal yn ystod gwyliau haf yr ysgol er mwyn tarfu cyn lleied â phosib.”

Wedi ei bostio ar 17/06/2021