Skip to main content

Cynnal gwaith ar Bont Ynysmeurig yn Abercynon yr haf yma

Ynys Meurig Bridge 1 - Copy

Mae'r Cyngor yn rhoi rhybudd ymlaen llaw o waith ar Bont Ynysmeurig yn Abercynon yn ddiweddarach yr haf yma. Yn rhan o'r gwaith, bydd raid cau'r brif ffordd a gwyro traffig yn sylweddol.

Mae'r bont yn cefnogi'r B4275 ger Rhes yr Afon, ac mae angen gwaith atgyweirio sylweddol arni. Does dim modd cwblhau'r gwaith yma'n ddiogel heb gau'r ffordd. Felly, er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar y gymuned, mae’r cam yma o'r gwaith wedi'i amserlennu ar gyfer gwyliau'r haf. Mae disgwyl y bydd y gwaith yn dechrau ddydd Mercher, 21 Gorffennaf ac yn para chwe wythnos tan 1 Medi.

Yn rhan o'r gwaith bydd angen ailosod parapetau'r bont ac atgyweirio ac ail-bwyntio sylfeini'r bont ble mae wedi'i herydu. Hefyd, bydd raid ail-bwyntio ac ailadeiladu rhannau o wal yr afon sy'n cynnal Rhes yr Afon, yn ogystal â chlirio llystyfiant ymhellach i lawr yr afon o'r bont.

Mae'r Cyngor wedi penodi cwmni Walters Ltd yn gontractwr i gynnal y gwaith, a bydd y naill a'r llall yn gweithio'n galed i sicrhau bod y gwaith yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned. Bydd mynediad i gerddwyr o hyd a fydd y gwaith ddim yn effeithio ar gludiant i ysgolion oherwydd amser y flwyddyn. Fydd dim mynediad ar gyfer y gwasanaethau brys.

Bydd llwybr amgen i draffig o Heol yr Orsaf, Stryd Margaret, Stryd Edward, Heol Ynysmeurig, Heol Abercynon, Heol Penrhiwceibr, Heol Meisgyn, Pont Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, yr A4059, Cylchfan Abercynon, yr A472, Cylchfan Fiddler's Elbow, yr A4054 a'r B4275 i Bont Ynysmeurig.

I'r cyfeiriad arall, bydd y llwybr o'r B4275, yr A4054, yr A472, Cylchfan Abercynon, yr A4059, Pont Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, Heol Meisgyn, Heol Penrhiwceibr, Heol Abercynon a Heol Ynysmeurig i Bont Ynysmeurig.

Mae'r Cyngor yn gofyn i fodurwyr ddefnyddio'r llwybrau dargyfeirio yma lle bo hynny'n bosibl. Mae llwybrau lleol eraill ar gael, ond bydd defnydd helaeth ohonyn nhw'n cael effaith negyddol ar strydoedd cyfagos a'u trigolion.

Bydd mynediad i gerbydau i eiddo Rhes yr Afon ac i gefn Teras Gwendoline a Theras Glancynon o hyd.

Rydyn ni'n gwerthfawrogi y bydd y cynllun yma'n tarfu ar drigolion a defnyddwyr y ffyrdd lleol. Bydd y Cyngor yn cadarnhau'r trefniadau terfynol yn agosach at ddyddiad dechrau'r gwaith.

Diolch i'r gymuned ymlaen llaw am eich cydweithrediad. Mae'n hanfodol cwblhau'r gwaith â blaenoriaeth yma ar y bont bwysig yma sy'n cynnal y brif ffordd trwy Abercynon er mwyn sicrhau bod modd ei defnyddio am y blynyddoedd sydd i ddod.

Wedi ei bostio ar 22/06/21