Yn dilyn ystyriaeth ddiweddar gan Aelodau'r Cabinet, mae'r Cyngor wedi darparu diweddariad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud tuag at gyflawni buddsoddiad Ysgolion yr 21ain Ganrif sylweddol ar gyfer ardal ehangach Pontypridd.
Yn ystod cyfarfod ar 17 Mehefin, derbyniodd y Cabinet adroddiad yn ymwneud â buddsoddiad arfaethedig mewn addysg ar draws Cilfynydd, y Ddraenen Wen, Rhydfelen a'r Beddau. Bu’r cynigion cychwynnol yn destun ymgynghoriad manwl ac fe gawson nhw eu cymeradwyo gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019, yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Fodd bynnag, yn unol â'r cod yma, cafodd gynlluniau ar gyfer chweched dosbarth Ysgol Gyfun y Cardinal Newman Eglwys Gatholig Rhufain eu hatgyfeirio i Lywodraeth Cymru.
Ers i'r Cabinet gymeradwyo'r cynlluniau, mae her gyfreithiol i'r cynlluniau wedi bod ar ffurf Adolygiad Barnwrol. Ar 21 Rhagfyr 2020, canfu'r Llys Apêl o blaid y Cyngor, gan ganiatáu i'r cynigion fynd yn eu blaenau.
Amlinellodd adroddiad i gyfarfod diweddar y Cabinet bod rhaid atal datblygiadau i gyflawni'r buddsoddiad yn ystod yr her gyfreithiol - a bu 17 mis rhwng penderfyniad gwreiddiol y Cabinet a dyfarniad y Llys Apêl. O ganlyniad i'r amser a gollwyd, mae'r Cabinet wedi cytuno i ohirio'r amserlen gyflawni o fis Medi 2022 i fis Medi 2024. Mae'r Cyngor wedi ysgrifennu at Weinidogion Cymru yn gofyn am gymeradwyaeth i oedi newidiadau i'r chweched dosbarth.
Yn ogystal â hynny, amlinellodd adroddiad y Cabinet bod lefel y buddsoddiad wedi’i ddiwygio, gan ystyried yr oedi, effeithiau’r pandemig a Brexit, anhawster wrth ddod o hyd i ddeunyddiau fel dur ar hyn o bryd, gwelliannau sydd wedi'u gwneud trwy ailedrych ar agweddau ar y cynigion a thargedau carbon sero net. Bellach, amcangyfrifir mai cyfanswm yr arian bydd yn cael ei fuddsoddi gyda chymorth Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru fydd £56 miliwn.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd ar gyfer pob un o'r pedwar buddsoddiad, gan ystyried yr amserlen gyflawni newydd sydd wedi’i chytuno, sef mis Medi 2024, wedi'i chynnwys isod.
Ysgol newydd 3 i 16 oed ar safle Ysgol Uwchradd Pontypridd
Fydd dim gwaith adeiladu newydd yn digwydd yn sgil y cynllun yma felly mae’r gwaith yn parhau i gael ei reoli'n fewnol. Bydd rhywfaint o waith ategol yn digwydd dros yr haf yma, cyn i gynlluniau adnewyddu mwy sylweddol fynd yn eu blaenau dros ddau wyliau haf (2022 a 2023), a fydd wedyn yn caniatáu ail strwythuro'r adran gynradd. Bydd gwelliannau traffig helaeth a chae chwaraeon 3G newydd sbon yn cwblhau'r buddsoddiad sydd â gwerth amcangyfrifedig o £7.5 miliwn.
Ysgol newydd 3-16 ar safle Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen
Mae proses dendro gystadleuol wedi bod ar waith, a bydd contractwr dylunio ac adeiladu yn cael ei benodi cyn bo hir. Bydd gwaith dylunio manwl yn mynd rhagddo, gyda'r bwriad o gyflwyno cais cynllunio erbyn diwedd 2021. Mae'r cynllun yma'n cynnwys bloc addysgu newydd, dymchwel dau floc o ansawdd gwael, gwelliannau traffig ar y safle, maes parcio newydd, ac adnewyddu ac ailfodelu'r ysgol gynradd bresennol. Amcangyfrif o gyfanswm y buddsoddiad yw £21 miliwn.
Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen
Yn dilyn proses dendro gystadleuol, cafodd ISG ei benodi’n gontractwr dylunio ac adeiladu. Eto, y gobaith yw y bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd 2021. Bydd y cynllun, a fydd yn costio £13 miliwn yn darparu Ysgol yr 21ain Ganrif newydd sbon, ardaloedd chwarae allanol ac Ardaloedd Gemau Amlddefnydd, gwelliannau traffig lleol, maes parcio ac ardal i fysiau ollwng disgyblion ar y safle.
Chweched dosbarth newydd yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog
Cyn bo hir, bydd contractwr yn cael ei benodi i fwrw ymlaen â'r cynllun yn dilyn y broses dendro, er mwyn cyflwyno cais cynllunio erbyn diwedd y flwyddyn galendr. Amcangyfrif o gost y cynllun yw £15 miliwn, a bydd yn cynnwys creu bloc chweched dosbarth newydd sbon a darparu cyfleusterau chwaraeon newydd, dymchwel dau floc addysgu o ansawdd gwael a darparu maes parcio a mynediad newydd i'r ysgol.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Yn ddiweddar, derbyniodd y Cabinet ddiweddariad gan Swyddogion ar fuddsoddiad cyffrous mewn cyfleusterau Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer ardal ehangach Pontypridd. Cytunon nhw ag argymhellion i adolygu dyddiad cyflwyno'r prosiectau yma i fis Medi 2024. Cafodd ei nodi mai cyfanswm cyfredol y buddsoddiad ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yw £56 miliwn erbyn hyn.
“Nod y cynigion yw darparu cyfleusterau ysgol o'r radd flaenaf a chyfleoedd newydd i bobl ifainc yn eu haddysg. Mae gan y Cyngor brofiad rhagorol o gyflawni cynlluniau Ysgolion 21ain Ganrif yn ystod y blynyddoedd diwethaf - gan gynnwys yn y Porth, Hirwaun, Treorci, Glynrhedynog, Tonyrefail, Pont-y-clun, Tonypandy a Chwmaman ers 2018.
“Fe wnaeth adroddiad y Cabinet hefyd ddarparu diweddariad pwysig ar sut mae pob un o’r pedwar cynllun yn ardal ehangach Pontypridd wedi datblygu yn hanner cyntaf 2021, gyda’r cynlluniau yn y Ddraenen Wen, Rhydyfelen a'r Beddau i gyd bellach yn gweithio tuag at gyflwyno’r ceisiadau cynllunio yn hwyrach eleni.
“Mae contractwr bellach wedi'i benodi i ddylunio ac adeiladu Ysgol yr 21ain Ganrif yn Rhydfelen, a fydd yn cynyddu darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn sylweddol yn lleol - targed allweddol yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor, mewn meysydd lle mae'r galw yn uwch na'r capasiti. Yn y cyfamser, mae'r Cyngor hefyd yn agos at benodi contractwyr ar gyfer cynlluniau'r Ddraenen Wen a'r Beddau. Bydd y cynllun ar safle presennol Ysgol Uwchradd Pontypridd yn mynd rhagddo gyda gwaith yn digwydd dros yr haf, gan ddechrau yn ystod gwyliau'r ysgol eleni.
"Rydw i wedi cael y pleser o ymweld ag ysgolion a gweld staff a disgyblion yn mwynhau llawer o gynlluniau Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystod y blynyddoedd diwethaf - yn fwyaf diweddar yn Ysgol Gynradd Hirwaun - ac maen nhw wir wedi trawsnewid bywyd yr ysgol mewn ffordd gadarnhaol. Rwy'n falch bod y cynlluniau ym Mhontypridd yn gwneud cynnydd da tuag at yr amserlen gyflawni sydd wedi’i chytuno, sef blwyddyn academaidd 2024/25, pan fydd y cyfleusterau presennol yn cael eu disodli gan amgylcheddau dysgu ysgogol sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.”
Wedi ei bostio ar 25/06/21