Skip to main content

Y Cyngor wedi cyflwyno 21 o Hysbysiadau Cosb Benodedig am faw cŵn a thipio anghyfreithlon yr wythnos diwethaf

Aberdare Park - Dog Foling Rules - Enforcement - Bikes - Park Supervisor-8

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r newyddion diweddaraf am ei waith parhaus i gael gwared ar faw cŵn a thipio anghyfreithlon ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol - gyda 21 o Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi'u cyflwyno am droseddau yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Mae tirwedd hardd Rhondda Cynon Taf yn destun balchder i nifer ohonon ni - a bydd y Cyngor yn mynd i'r afael ag unrhyw un sy'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd hardd yma ar unwaith. Mae ein carfan Gofal y Strydoedd yn cynnal archwiliadau ledled y Fwrdeistref Sirol, ac yn parhau i gyflwyno hysbysiadau gorfodi i bobl sy'n ymddwyn yn anghyfrifol, megis perchnogion cŵn, neu'r sawl sy'n cael eu dal yn taflu sbwriel/tipio'n anghyfreithlon.

Rydyn ni'n dal ati i annog ein trigolion i gymryd balchder yn eu hardal drwy godi baw eu cŵn, cadw'r ymgyrch Yn y Bag, Yn y Bin mewn cof, a dilyn y rheolau sydd wedi bod ar waith ers mis Hydref 2017. Mae cŵn wedi'u gwahardd o dir ysgolion, ardaloedd chwarae i blant a chaeau chwaraeon sydd wedi'u marcio. Yn ogystal â hynny, rhaid eu cadw ar dennyn mewn mynwentydd.

Yn yr wythnos yn cychwyn ddydd Llun, 15 Mawrth, cymerwyd y camau canlynol yn erbyn perchnogion cŵn anghyfrifol a'r bobl hynny a gafodd eu dal yn tipio'n anghyfreithlon:

  • 18 o Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer perchnogion cŵn anghyfrifol, gan gynnwys naw ar gyfer cŵn mewn ardaloedd dan gyfyngiadau, chwech am beidio â chodi baw cŵn a thri am adael cŵn oddi-ar eu tennyn mewn mynwent.
  • Cyhoeddwyd tri Hysbysiad Cosb Benodedig am dipio anghyfreithlon, a chafodd pum cyfweliad eu cynnal o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 ynghylch achosion a amheuir o dipio anghyfreithlon yn ein cymunedau.

Yn ogystal â hynny, mae modd cadarnhau bod gwrandawiad llys wedi'i gynnar yr wythnos ddiwethaf, lle cafodd trigolyn ei ddyfarnu'n euog o dipio sbwriel yn anghyfreithlon. Cafodd ddirwy o £120 yn ogystal â gorchymyn i dalu costau werth £241.40 ac Iawndal o £30 i'r Dioddefwr.

Meddai Nigel Wheeler, Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r Cyngor yn gwneud ymdrech ddifrifol i sicrhau bod ein mannau agored yn ddiogel ac yn ddymunol i bawb, a byddwn ni'n rhannu diweddariadau cyson ynghylch ein gwaith gorfodi yn y gymuned er mwyn mynd i'r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol a phobl sy'n tipio'n anghyfreithlon.

“Mae llawer yn rhagor o bobl wedi bod yn defnyddio'r ardaloedd yma i wneud ymarfer corff yn ystod pandemig Covid-19, felly rydyn ni'n awyddus i atgoffa ein trigolion am eu cyfrifoldebau i godi baw eu cŵn a dilyn y rheolau o ran caeau chwaraeon, tir ysgol a mynwentydd. Mae'r rhain bellach wedi bod ar waith er tair blynedd a hanner. Dydy tipio sbwriel yn anghyfreithlon ddim yn dderbyniol o dan unrhyw amgylchiadau, ac mae'r Cyngor yn parhau i ddatgan na fyddwn ni'n goddef hyn o gwbl.

“Mae'r rhan helaeth o'n trigolion yn dilyn y rheolau yma, ac mae hi'n annheg bod ein mannau agored yn cael eu hagru gan nifer fach o bobl anghyfrifol. Cyflwynon ni 21 o Hysbysiadau Cosb Sefydlog yr wythnos diwethaf, ynghyd ag erlyniad llwyddiannus yn y llys am dipio anghyfreithlon, sy’n dangos dull gorfodaeth gadarnhaol y Cyngor ar waith.”

Wedi ei bostio ar 26/03/21