Bydd y Cabinet yn ystyried Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd gwerth £25.025 miliwn ar gyfer 2021/22. Bydd y Rhaglen yn dyrannu cyllid newydd sylweddol ar gyfer Ffordd Osgoi Llanharan, gwaith deuoli'r A4119, Porth Gogledd Cwm Cynon, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw'r ffyrdd a gwaith lliniaru llifogydd.
Gallai'r Cabinet gytuno ar y Rhaglen yn ei gyfarfod ddydd Iau, 25 Mawrth. Mae gwerth £12.949 miliwn ar gael ar gyfer Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd a £12.076 miliwn ar gyfer Prosiectau Strategol. Bydd y Cabinet yn pennu'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'r arian yma hefyd yn annibynnol ar unrhyw gyllid sydd wedi dod gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.
Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd
Mae cyfanswm dyraniad o £5.69 miliwn ar gyfer gwaith gwella'r ffyrdd. Bydd £4.69 miliwn ar gael er mwyn parhau â gwaith ar garlam y Cyngor i osod wynebau newydd a chynnal gwaith adfer mewn lleoliadau penodol, a £500,000 yr un ar gyfer gwaith mân atgyweirio wynebau a gwaith atgyweirio hanfodol. Mae buddsoddiad gwerth £1.1 miliwn ar gyfer troedffyrdd, £200,000 ar gyfer goleuadau stryd newydd a £45,000 ar gyfer meysydd parcio hefyd yn rhan o gynnig y Rhaglen, yn ogystal â dyraniad o £4.99 miliwn ar gyfer strwythurau priffyrdd.
Bydd gwaith yn parhau ar brosiectau adeiladu'r bont dros Nant Cwm-parc (A4061 Ffordd yr Orsaf) yn Nhreorci a phont droed Stryd y Nant yn Ystrad, a hynny gyda gwerth £2.75 miliwn o gyllid a fydd yn cael ei gario drosodd i 2021/22. Mae un ar ddeg o gynlluniau wrth gefn eisoes wedi'u paratoi yn rhan o'r Rhaglen, yn ogystal â 36 o gynlluniau sydd wrthi'n cael eu paratoi. Mae cronfa gwerth £750,000 ar gyfer strwythurau parciau hefyd wedi'i chynnwys.
O ran Lliniaru Llifogydd, mae'r Cyngor yn aml yn gallu elwa ar gyllid gwerth 85% gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau unigol. Mae lwfans yn bodoli er mwyn darparu cyllid cyfatebol i'r Cyngor ar gyfer ceisiadau llwyddiannus. At ei gilydd, mae 10 cynllun Ardal Risg o Lifogydd Strategol wedi'u rhestru i'w datblygu yn 2021/22, ynghyd â 12 o gynlluniau lliniaru llifogydd ar raddfa fach ac 19 o gynlluniau'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth, sydd eto'n ddibynnol ar gyllid Llywodraeth Cymru.
Ym mis Chwefror 2020, achosodd tywydd garw Storm Dennis ddifrod enfawr i'r seilwaith ffyrdd, pontydd, cwlfertau a waliau. Mae'r Cyngor yn ceisio cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i gynnal ystod o waith atgyweirio ar gyfer gwaith â blaenoriaeth, fel pont Heol Berw ym Mhontypridd, pont droed y bibell gludo yn Abercynon, pont tramffordd Pen-y-darren yn Nhrecynon, Pont Myrddin yn Nhre-hopcyn a wal afon Heol Blaen-y-cwm.
Prosiectau Strategol
Mae cynigion am gyllid pellach ar gyfer sawl cynllun sylweddol sy'n ymwneud â'r seilwaith priffyrdd yn rhan o'r Rhaglen Gyfalaf, a hynny er mwyn eu cyflawni yn y dyfodol. Mae hyn yn sgil agor Ffordd Gyswllt Ar Draws y Cwm Aberpennar ym mis Hydref 2020.
Mae'r cynnydd diweddar ar Ffordd Osgoi Llanharan yn galonogol. Mae hyn yn cynnwys cwblhau ei dyluniad cychwynnol. Yn rhan o'r cynllun, bydd ffordd newydd yn cael ei hadeiladu i'r de o Lanharan a Dolau, a fydd yn ymuno â'r A473 i'r dwyrain a'r gorllewin o'r cymunedau yma. Bydd ymgynghoriad cynllunio cyn ymgeisio yn cael ei gynnal yn yr haf. Bydd y Rhaglen yn dyrannu gwerth £1.5 miliwn i'r cynllun, gan ddod â chyfanswm y dyraniad i £3.86 miliwn.
Bydd cynllun deuoli'r A4119 yn uwchraddio rhan 1.5 cilomedr o'i hyd i ffordd ddeuol o gylchfan Coed-elái i Barc Busnes Llantrisant yn Ynysmaerdy. Mae gwaith dylunio manwl y cynllun yma'n mynd rhagddo. Mae caniatâd cynllunio ar gyfer pont droed ar gylchfan Coed-elái wedi'i gymeradwyo, a chafodd Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer y prosiect ei gyflwyno ym mis Tachwedd 2020. Mae £5.45 miliwn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i'r cynllun, gan ddod â chyfanswm y dyraniad i £7.81 miliwn.
Bydd cynllun Porth Gogledd Cwm Cynon, yr A465 yn ychwanegu 1.2 cilomedr at yr A4059, o fan rhwng Trecynon a Hirwaun tua'r gogledd i greu ffordd gyswllt newydd â Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465. Mae'r gwaith dylunio cychwynnol wedi'i gwblhau, a chafodd ymgynghoriad cynllunio cyn ymgeisio ei gynnal cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y cynllun ddiwedd mis Chwefror 2021. Mae £1.78 miliwn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i'r cynllun, gan ddod â chyfanswm y dyraniad i £4.03 miliwn.
Yn ychwanegol at hyn, mae'r Rhaglen Gyfalaf yn dyrannu £568,000 ar gyfer cynllun Parcio a Theithio, ac £1.8 miliwn i ymestyn cynllun Gwneud Defnydd Gwell y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cytuno ar Raglen Gyfalaf atodol ar gyfer Priffyrdd a Thrafnidiaeth, sy'n darparu buddsoddiad ar gyfer pob maes sy'n rhan o'r gwasanaeth. Mae hyn yn amrywio o waith cynnal a chadw ar ein ffyrdd a'n strwythurau i sicrhau eu bod yn addas at y dyfodol, i waith lliniaru llifogydd a datblygu prosiectau seilwaith priffyrdd sylweddol.
“Mae nifer o agweddau cadarnhaol i'r Rhaglen arfaethedig gwerth £25.025 miliwn y bydd Aelodau'r Cabinet yn ei hystyried ddydd Iau, a bydd pawb yn elwa arni hi. Os caiff ei chytuno gan y Cabinet, bydd £6.79 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwaith gosod wynebau newydd ar ffyrdd a throedffyrdd. Bydd hyn yn parhau â'n buddsoddiad ar garlam dros nifer o flynyddoedd. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yng nghanran y ffyrdd sydd angen eu cynnal a'u cadw yn Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn ychwanegol at ddyraniad gwerth £756,621 gan Lywodraeth Cymru tuag at waith cynnal a chadw ffyrdd, a gafodd ei gadarnhau ar 15 Mawrth.
“Mae gwaith adfer y difrod a gafodd ei achosi gan Storm Dennis yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r gwasanaeth, ac mae’r Cyngor yn gweithio’n galed i ddylunio a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau strwythurau ledled y Fwrdeistref Sirol. Roeddwn i'n falch o weld Pont Parc Ynysangharad (Marks and Spencer) yn ailagor ar 19 Mawrth ar ôl i waith atgyweirio sylweddol gael ei gwblhau. Mae'r Rhaglen Gyfalaf hefyd yn blaenoriaethu gwaith lliniaru llifogydd rhagweithiol, gan amlinellu rhestr o gynlluniau i'w datblygu.
“Mae'r Rhaglen hefyd yn cynnig buddsoddiad o fwy na £8.5 miliwn i'w rannu rhwng tri o'n prif gynlluniau seilwaith priffyrdd yn y dyfodol, sef Ffordd Osgoi Llanharan, deuoli'r A4119 o Goed-elái i Ynysmaerdy, a Phorth Gogledd Cwm Cynon, yr A465. Wrth agor Ffordd Gyswllt Ar Draws y Cwm Aberpennar ym mis Hydref 2020, roedden ni yn y Cyngor wedi pwysleisio ein hymrwymiad a'n gallu i wireddu'r dyheadau uchelgeisiol, hirdymor yma. Bydd y cyllid arfaethedig ar gyfer y tri chynllun yn caniatáu cynnydd pellach tuag at allu cychwyn ar y safle yn y dyfodol."
Mae rhestr lawn o gynlluniau sy'n rhan o'r Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd arfaethedig ar gyfer 2021/22 wedi'i chynnwys yn rhan o adroddiad i'r Cabinet yn ystod ei gyfarfod ddydd Iau.
Wedi ei bostio ar 23/03/2021