Skip to main content

Haelioni Alfie tuag at Weithwyr Allweddol

Alfie Ford

Mae disgybl o Rondda Cynon Taf, Alfie Ford, yn rhoi rhywbeth yn ôl i'w gymuned yn ystod y cyfyngiadau symud, trwy ddarparu pecynnau gofal i weithwyr allweddol yn ei ardal. Yn sgil ei haelioni, mae e hefyd wedi derbyn £1,000 ar gyfer elusen o'i ddewis, sef Ysbyty Plant Arch Noa.

O staff y GIG i weithwyr Gofal y Strydoedd y Cyngor, gweithwyr swyddfa'r post, swyddogion yr heddlu a'r gwasanaeth tân ac aelodau’r Esgobaeth leol, mae Alfie - sy'n cael ei ddisgrifio fel "Arwr y Cyfnod Clo" - wedi bod yn dosbarthu parseli mewn modd diogel, gan gadw at holl reoliadau COVID-19 Llywodraeth Cymru ar bob adeg.

Mae Alfie, sy'n ddisgybl blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Aberpennar, wedi bod yn gweithio ar ei brosiect 'First Give' 'Helpu o Gartref' gyda chymorth ei athro Astudiaethau Crefyddol, David Church. Mae'n rhan o gystadleuaeth ledled y wlad a chyhoeddwyd mai Alfie yw enillydd 'My First Give' mis Mawrth.

Meddai'rCynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol: “Llongyfarchiadau i Alfie ar ei fenter wych. Gan weithio gyda'i athro, mae'n gwneud gwaith anhygoel yn ei gymuned yn ystod cyfnod sy'n anodd i bawb.

“Mae haelioni Alfie a chefnogaeth busnesau lleol yn sicr wedi cynnig rhywfaint o hapusrwydd i'n gweithwyr allweddol yn ystod y cyfnod hanfodol yma. Mae holl ymdrechion Alfie hefyd wedi bod o fudd i elusen Ysbyty Plant Arch Noa.

“Mae’r dyn ifanc rhagorol yma wir yn ysbrydoliaeth i eraill gan ei fod wedi mynd ati i ddiolch i'n gweithwyr allweddol yn bersonol am bopeth maen nhw'n parhau i'w wneud wrth ein cadw ni mor ddiogel â phosibl."

Mae gan Alfie gefnogaeth siopau fel Tesco, Farm Foods, Asda, Waitrose, Co-op a Sainsbury's, yn ogystal ag aelodau ei deulu a'i ffrindiau. Mae Alfie'n mynd ati i greu dau fath gwahanol o 'Becynnau Hapusrwydd' - un sy'n cynnwys eitemau fel bomiau bath a masgiau wyneb ac ati ac un sy'n cynnwys te, coffi, siocled poeth a bisgedi ac ati.

Mae pob eitem yn cael ei ddewis gan Alfie, gyda'r gobaith o helpu'r rhai sy'n derbyn y pecynnau i ymlacio ar ddiwedd sifft hir yn y gwaith. Mae'r holl barseli wedi'u lapio'n unigol ac yn cael eu hanfon â nodyn o werthfawrogiad personol i bwy bynnag sy'n derbyn y pecyn.

Mae Alfie, sydd bellach yn Llysgennad ar gyfer Elusen Ysbyty Plant Arch Noa, wrth ei fodd o dderbyn £1,000 ar gyfer elusen o'i ddewis. Meddai:  “Rydw i mor hapus fy mod i wedi sicrhau'r arian yma ar gyfer yr elusen.

“Dechreuon ni gyda’r syniad o wneud ychydig o barseli ar gyfer llond llaw o weithwyr allweddol, ond rydw i wedi cael cefnogaeth anhygoel gan yr archfarchnadoedd lleol a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu rhoddion caredig.

“Aeth y syniad o nerth i nerth, y tu hwnt i'm breuddwydion a hoffwn ddiolch i'm hysgol a fy athro am roi'r cyfle yma i fi. Mae'n rhywbeth fydda i byth yn ei anghofio.”

Dywedodd David Church, athro Astudiaethau Crefyddol yn Ysgol Gyfun Aberpennar: “Rydw i mor falch o’r hyn mae Alfie wedi’i gyflawni. Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint enfawr gweithio gydag ef ar ei brosiect Helpu o Gartref 'First Give'. Mae ei frwdfrydedd, ei benderfyniad, ei garedigrwydd a'i empathi wedi bod yn bleser eu gweld.

“Mae Ysgol Gyfun Aberpennar, y gymuned leol a'i deulu yn hynod o falch o lwyddiannau Alfie ac mae'n ddyn ifanc rhyfeddol. Mae dyfodol disglair o'i flaen yn sicr. Mae wedi fy ysbrydoli i a fe yw fy arwr i yn ystod y cyfnod clo."

Dywedodd mam falch Alfie, Alison: “Mae’n berson mor hyfryd ac yn annibynnol a phenderfynol iawn. Rydw i mor falch ohono a phopeth y mae'n ei wneud. Mae gan Alfie gefnogaeth wych gan ei athrawon yn yr ysgol ac mae ei 'Becynnau Hapusrwydd' wedi llwyddo i godi calon nifer o weithwyr allweddol.

“Roedd Alfie yn awyddus i ddiolch i’r holl bobl yma am yr hyn maen nhw wedi’i wneud trwy gydol y pandemig, ond nawr dyma'n tro ni i ddiolch iddo fe am bopeth mae e wedi'i wneud.”

Mae 'First Give' yn helpu disgyblion ysgolion uwchradd i gymryd rhan mewn gwaith cymdeithasol sydd o fudd i'w cymunedau lleol. Mae'r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd i ysbrydoli a helpu pobl ifainc i gymryd camau cadarnhaol er budd eu cymunedau.

Fel rhan o'r prosiect, mae disgyblion yn dysgu am faterion cymdeithasol yn eu cymunedau ac yn dewis y rhai sy'n bwysig iddyn nhw. Maen nhw hefyd yn ymchwilio i elusennau sy'n gweithredu yn eu cymuned ac yn dewis un i'w chynrychioli.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect 'First Give', ewch i'r wefan: www.firstgive.co.uk

Wedi ei bostio ar 12/03/21