Skip to main content

Apêl - Gorchuddion Cwteri wedi'u dwyn

Drain

Mae trigolion yn cael eu hannog i fod yn arbennig o ofalus a gwyliadwrus wedi i orchuddion cwteri tywydd garw gael eu dwyn dros nos.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ac am wybodaeth yn dilyn nifer o achosion o ddwyn gaeadau tyllau archwilio yn ardaloedd Rhydfelen a Llanilltud Faerdref. Mae'n bosibl y bydd rhannau eraill o'r Fwrdeistref Sirol hefyd yn cael eu heffeithio.

Digwyddodd hyn nos Fercher, 17 Mawrth ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynorthwyo Heddlu De Cymru gyda'i ymchwiliad. Mae dwyn y gorchuddion yn rhoi'r cyhoedd mewn perygl gan adael tyllau draenio mawr yn y ffordd heb eu gorchuddio.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd:

“Mae hyn yn ofnadwy ac yn weithred ffiaidd o ddwyn a fandaliaeth. Mae'r Cyngor a Heddlu De Cymru yn ystyried y mater yn un difrifol ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ddod o hyd i'r troseddwyr.

“Mae'r caeadau yma yno am reswm. Mae tyllau agored, heb unrhyw orchuddion, yn hynod beryglus. Rhaid i'n carfan gwasanaethau rheng flaen weithredu'n gyflym iawn i wneud y mannau heb eu gorchuddio hyn yn ddiogel i'r cyhoedd.

“Mae'r lladradau yma ymhlith y fwyaf hunanol i ni ddod ar eu traws erioed. Nid yn unig y mae'n berygl i'r cyhoedd, mae hefyd yn gofyn am adnoddau, amser ac arian ychwanegol i ailosod y cloriau a gwneud ardaloedd yn ddiogel yn ystod cyfnod anodd a heriol dros ben wrth i'r Cyngor wneud popeth o fewn ei allu yn ystod pandemig byd-eang.

“Mae'r Cyngor yn cynorthwyo Heddlu De Cymru gyda'i ymchwiliad, sy'n cynnwys monitro'r holl luniau teledu cylch cyfyng yn yr ardaloedd llw digwyddodd hyn.”

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth am ladradau'r gorchuddion cwteri yn ardaloedd Rhydfelen a Llanilltud Faerdref nos Fercher, 17 Mawrth yn cael eu hannog i gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Crimestoppers Cymru ar 0800 555 111.

Wedi ei bostio ar 18/03/2021