Skip to main content

Gyrfa yn cadw pobl yn ddiogel i brentis gyrhaeddodd Rhestr Fer Gwobrau Prentisiaeth Cymru

Owen Lloyd

Gobaith y prentis Owen Lloyd yw dod yn beiriannydd sifil heb ei ail, ac mae e wrthi bellach yn ceisio cynnig datrysiadau llifogydd i bobl Rhondda Cynon Taf.

Mae Owen, 23 oed, yn aelod o Garfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor ac mae e wedi cyrraedd rhestr fer  Gwobr Prentis y Flwyddyn Gwobrau Prentisiaeth Cymru 2021.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n dymuno pob hwyl i’n prentis ni, Owen, yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Ers ymuno â'r Cyngor yn 2018, mae e wedi chwarae rhan allweddol yng Ngharfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn hynod heriol i bawb, gyda’r pandemig byd-eang a'r tywydd garw wedi effeithio ar gynifer o gartrefi a busnesau.

“Fel nifer o’n prentisiaid, mae Owen yn parhau i wneud gwaith gwych yn ystod hyn i gyd ac rwy’n siŵr bod ganddo yrfa lwyddiannus o’i flaen.”

Cwblhaodd Owen, o Goed y Cwm, Pontypridd, gwrs BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil) gyda rhagoriaeth yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, gan orffen ei brentisiaeth o fewn blwyddyn - hanner yr amser disgwyliedig. Mae bellach wedi cychwyn HNC Lefel 4 ac yn anelu at gymhwyso'n Beiriannydd Sifil Siartredig.

Mae'n gobeithio dod yn dechnegydd cymwys (EngTech) gyda'r Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) ar ôl derbyn Ysgoloriaeth Quest ICE ac ennill gwobr Prentis Priffyrdd a Goleuadau Stryd y Flwyddyn y Gymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus fis Hydref y llynedd.

Nod Gwobrau Prentisiaeth blynyddol Cymru yw dathlu'r cyflawniad rhagorol y rhai sy'n dilyn hyfforddiant a phrentisiaethau ac eleni bydd 35 yn y rownd derfynol yn cystadlu mewn 12 categori am wobrau.

Mae'r gwobrau'n arddangos y busnesau a'r unigolion hynny sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaeth Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail yma.

Dechreuodd Owen ei brentisiaeth gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf ym mis Medi 2018, gyda’r bwriad o fynd i weithio gyda gwahanol adrannau. Fodd bynnag, fe wnaeth gymaint o argraff yn ei swydd gyntaf nes iddo gael ei benodi'n dechnegydd amser llawn gyda'r Garfan Rheoli Perygl Llifogydd mewn ychydig fisoedd yn unig.

Gan ddefnyddio sgiliau dylunio ar gyfrifiadur, mae Owen wedi darparu datrysiadau i lawer o beryglon posib yn sgil llifogydd, gan gynnwys datrysiad sy'n cynnwys cwlfer yn Nhreherbert. Mae wedi profi 25 achos o lifogydd, gan gynnwys Storm Dennis, ac mae wedi goruchwylio carfanau sy'n gweithio ar gamau sy'n ymateb i lifogydd ac atgyweirio yn ardal Pentre.

Dywedodd Owen Lloyd, y Prentis: “Rwy’n gwneud fy ngwaith i’r safon uchaf er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl, nid yn unig i’m cyflogwr ond hefyd i aelodau’r cyhoedd sy’n dibynnu ar fy ngwaith i’w cadw nhw a’u teuluoedd yn ddiogel yn ystod stormydd.

“Mae cael y cyfle i ddysgu wrth ennill cyflog trwy'r Rhaglen Brentisiaeth wedi magu fy hyder yn aruthrol ac wedi fy annog i weithio i gael y canlyniad gorau posibl yn fy addysg ac ar gyfer fy ngyrfa.”

Dywedodd Owen Griffiths, rheolwr carfan perygl llifogydd, dŵr a thomenni Cyngor Rhondda Cynon Taf, fod Owen yn gaffaeliad i'r garfan sy'n rhagori yn ei swydd, a'i fod bob amser yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd.                              

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaeth a Hyfforddiant yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau o ran gyrfa ac rwy'n falch iawn ein bod eisoes wedi cyrraedd ein targed o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor cyfredol y Senedd.

“Mae hyn wedi bod yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ddysgu sgiliau ac ennill profiad pwysig sydd wir eu hangen ar fusnesau ar draws pob sector o’r economi yng Nghymru. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o'r pandemig.”

Mae Gwobrau Prentisiaeth Cymru yn rhoi cyfle gwych i ddathlu ac arddangos cyflawniadau pawb sy'n cymryd rhan, o brentisiaid dawnus i ddarparwyr dysgu medrus.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 29 Ebrill eleni. Mae'r Cynllun Prentisiaethau yng Nghymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Wedi ei bostio ar 11/03/2021