Mae parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd o hyd ac ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb mewn amgylchiadau heriol wedi helpu Bethany Mason i ddatblygu'n “swyddog rhagorol gyda'r Gwasanaethau Profedigaethau” yn ogystal â chyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
Ers ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel clerc mewnbynnu data dan brentisiaeth yn 2016, mae Bethany, sy'n 21 oed, wedi delio â chyfres o heriau anodd. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i staff Amlosgfa Glyn-taf, yn ogystal â chynnig cefnogaeth i deuluoedd sy'n galaru.
Mae Bethany, sydd wedi ymrwymo i ddatblygu'n bersonol, wedi cyflawni Prentisiaeth Sylfaen ac mae bellach ar fin cwblhau NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes. Mae'r cyrsiau yma yn cael eu cynnal gan Goleg y Cymoedd ar Gampws Nantgarw.
Mae Bethany wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
Meddai'rCynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n dymuno pob hwyl i’n prentis ni, Bethany, yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
“Mae Cynllun Prentisiaethau a Rhaglen i Raddedigion y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn dros nifer o flynyddoedd, gan helpu pobl i ennill sgiliau a phrofiad pwysig ac i lwyddo mewn gyrfa o'u dewis.
“Fel cynifer o brentisiaid y Cyngor, mae Bethany yn gwneud gwaith anhygoel yn ystod cyfnod hynod heriol yn rhan o Wasanaethau Profedigaethau, gan weithio gyda theuluoedd o dan yr amgylchiadau mwyaf anodd.”
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn ddathliad blynyddol o gyflawniad rhagorol o ran hyfforddiant a phrentisiaethau. Bydd 35 o brentisiaid yn cystadlu am wobrau mewn 12 categori. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 29 Ebrill.
Mae'r seremoni'n uchafbwynt y flwyddyn o ran dysgu seiliedig ar waith, ac mae'n dangos y busnesau a'r unigolion hynny sydd wedi rhagori yn rhan o Raglenni Prentisiaethau a Swyddi dan Hyfforddiant Llywodraeth Cymru, ac sydd wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail yma.
Mae'r seremoni wedi'i threfnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Mae'r Cynllun Prentisiaethau yng Nghymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Gan weithio'n agos gyda'i rheolwr, Ceri Pritchard, mae Bethany wedi datblygu sgiliau arwain ac wedi sicrhau bod Amlosgfa Glyn-taf yn rhedeg yn ddi-dor trwy gynnal gwaith i wneud cofnodion claddu a chynlluniau mynwentydd RhCT yn ddigidol.
Mae hi hefyd wedi helpu i sefydlu porth digidol er mwyn cadw cerddoriaeth sy'n cael ei defnyddio mewn gwasanaethau amlosgi i'r teulu, ynghyd â gweddarllediadau a theyrngedau gweledol, sydd wedi bod yn hynod bwysig ar gyfer angladdau sy wedi'u cynnal yn ystod cyfyngiadau symud y pandemig.
Mae'r mesurau wedi gwella effeithlonrwydd ac wedi helpu trefnwyr angladdau, yn ogystal â phobl sy'n dymuno olrhain hanes eu teulu.
Yn fuan ar ôl cael ei secondio i garfan y Gwasanaethau Profedigaethau yn Amlosgfa Llwydcoed, aeth dau o gydweithwyr Bethany yn sâl, gan ei gadael i ddysgu sgiliau newydd yn gyflym er mwyn rheoli'r llwyth gwaith cymhleth gyda'i rheolwr, a chynnal gwasanaeth o safon uchel, oedd yn addas i deuluoedd.
MeddaiBethany Mason, o ardal Llantrisant: “Mae fy mhrentisiaeth wedi rhoi’r sgiliau i mi gyflawni fy rôl yn broffesiynol ac yn ddiwyd, ac mae hefyd wedi caniatáu i fi ddatblygu fy sgiliau personol a fy ngallu i ddelio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd.
“Mae fy hyder, hunan-barch a chyflawniad yn y gwaith wedi cynyddu'n fawr ac rwy'n ymfalchïo yn yr hyn rwy'n ei wneud."
Wedi ei bostio ar 10/03/2021