Skip to main content

Y Cabinet i drafod manylion Rhaglen Gyfalaf Addysg gwerth £7.17miliwn

school generic 2

Gallai'r Cabinet gymeradwyo manylion Rhaglen Gyfalaf Addysg ar gyfer 2021/22 gwerth £7.17miliwn. Bydd y rhaglen yn sicrhau bod eiddo ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol yn parhau i gael eu cynnal ac yn cynnig buddsoddiad wedi'i dargedu gwell ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae'r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Iau, 25 Mawrth, yn nodi manylion y rhaglen waith sy'n mynd rhagddo er mwyn cynnal eiddo ysgolion o safon, gan sicrhau bod adeiladau'n ddiogel, yn ddwrglos ac yn gynnes.  Cafodd cyllid gwerth £7.17miliwn ei gymeradwyo ar gyfer gwaith yn rhan o’r rhaglen, a fydd yn para tair blynedd, ei gymeradwyo yn ystod cyfarfod o'r Cyngor ar 10 Mawrth.

Mae angen ystyried nifer o elfennau wrth lunio'r rhaglen waith bob blwyddyn, mae hyn yn cynnwys arolygon, ymchwiliadau ac adroddiadau Estyn, ynghyd â gofynion iechyd a diogelwch, lleihau ôl troed carbon, creu mannau addysgu hyblyg a buddsoddi mewn addasiadau i helpu disgyblion sydd ag anghenion symudedd neu anghenion o ran hygyrchedd.

Mae adroddiad y Cabinet yn cynnig dyraniadau ar gyfer elfennau allweddol y rhaglen, megis gwaith adnewyddu ceginau (£360,000), gwaith hanfodol (£1.5miliwn), gwaith gosod drysau a ffenestri newydd (£230,000), gwaith diweddaru larymau tân (£108,000), gwaith adnewyddu'r toiledau (£400,000), gosod boeleri newydd (£250,000) a gosod toeon newydd (£745,000). Mae rhai o'r buddsoddiadau sylweddol arfaethedig ar gyfer y meysydd yma'n cynnwys:

  • Ysgol Gynradd Coed-y-Lan - cael gwared ar y ganolfan fwyta a darparu cegin newydd (£80,000).
  • Ysgol Gyfun Treorci - adnewyddu'r gegin (£100,000).
  • Ysgol Gynradd Alaw - gosod llwybr allanol newydd (£120,000).
  • Ysgol Gyfun Aberpennar - ffenestri newydd (£50,000).
  • Ysgol Gymuned Glynrhedynog - adnewyddu'r ystafelloedd newid (£60,000) a chreu ystafell hylendid (£50,000)
  • Ysgol Llanhari - llwybr diogel newydd a fydd yn arwain at adran y Blynyddoedd Cynnar (£70,000) a gosod to newydd, cam 2 (£250,000).
  • YGG Evan James - gwaith ailfodelu mewn perthynas â'r ystafelloedd dosbarth (£50,000).
  • Ysgol Gynradd y Santes Fererid Eglwys Gatholig Rhufain - creu ystafell hylendid (£15,000).
  • Ysgol Gynradd Cwm Clydach - gosod to newydd, cam 2 (£175,000).
  • Ysgol Gynradd Llantrisant - gosod to newydd, cam 3 (£150,000).
  • Ysgol Gyfun Treorci - gosod to newydd (£100,000).

Ar ben hyn oll, bydd gwaith newid gwifrau trydanol yn cael ei gynnal mewn pum ysgol (Ysgol Gynradd Coed-y-Lan, Ysgol Gynradd Llanhari, Ysgol Gynradd Llwydcoed, Ysgol Gynradd Tref-y-Rhug ac Ysgol Gynradd Trehopcyn), bydd gwaith diweddaru'r system larwm tân yn cael ei gynnal mewn tair ysgol (Ysgol Gyfun Bryncelynnog, Ysgol Gyfun Treorci ac YGG Ynys-wen) a bydd gwaith adnewyddu toiledau yn cael ei gyflawni mewn wyth ysgol (Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn, Ysgol Gynradd Meisgyn, Ysgol Gyfun Aberpennar, Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain, Ysgol Babanod Tonpentre, Ysgol Llanhari ac YGG Abercynon).

Nodwch, nid yw'r rhestr uchod yn cynnwys yr holl waith sydd wedi'i nodi yn y rhaglen gyfalaf arfaethedig - mae'r rhestr gyfan i'w gweld yn rhan o'r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Iau. Bydd modd i Aelodau gymeradwyo'r cynigion yma yn ystod y cyfarfod. Byddai hyn yn golygu bod modd i'r gwaith gwella ysgolion gael ei gwblhau yn ystod 2021/22.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: "Mae'r Cyngor yn cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Ysgolion i gynnal a gwella eiddo ysgolion cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, gan gynnig buddsoddiad wedi'i dargedu er mwyn diwallu anghenion ysgolion unigol. Bydd swm mawr o'r gwaith yma'n cael ei gyflawni yn ystod gwyliau'r haf, er mwyn i staff a disgyblion elwa o'r gwaith ar ôl dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi.

“Mae'r Rhaglen Gyfalaf yn rhan bwysig o Raglen Moderneiddio Ysgolion ehangach y Cyngor ac mae'n sefyll ar wahân i'n Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sy'n cael ei darparu ar y cyd â Llywodraeth Cymru - mae gan y rhaglen yma hanes cryf o fuddsoddi yn y cyfleusterau gorau posibl ar gyfer ein pobl ifainc. Cafodd adeilad newydd Ysgol Gynradd Hirwaun gwerth £10.2miliwn ei gwblhau ar ddiwedd 2020, ac mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer YGG Aberdâr, Ysgol Rhydywaun, Ysgol Gynradd Ffynnon Taf ac mae cyfres o gynlluniau ar y gweill ar gyfer ardal ehangach Pontypridd hefyd.

“Rwy’n falch bod y Cyngor wedi dyrannu £7.17miliwn ar gyfer Rhaglen Gyfalaf y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n hysgolion ac yn eu helpu nhw i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm newydd yng Nghymru. Bydd modd i Aelodau'r Cabinet ddewis i gymeradwyo'r cynigion yn ystod cyfarfod ddydd Iau, ac o ganlyniad i hynny bydd modd i'r gwelliannau yma gael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n dechrau 1 Ebrill, 2021."

Wedi ei bostio ar 22/03/21