Skip to main content

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – Adroddiad ar gynnydd wedi pum mlynedd

City Deal grid

Mae'r Aelodau'r Cabinet wedi derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy'n amlinellu'r cynnydd wedi pum mlynedd mewn perthynas â chynllun Metro De Cymru a'r buddsoddiad ehangach i helpu i ddatblygu prosiectau cyffrous fel Hwb Trafnidiaeth y Porth a Zip World, a hynny drwy adroddiad a ddaeth i law ddydd Iau, 25 Chwefror.

Mae'r Fargen Ddinesig yn gytundeb rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r deg Awdurdod Lleol yn Ne Ddwyrain Cymru. Daeth y cynllun i fodolaeth ym mis Mawrth 2016. Bydd yn creu buddsoddiad ar y cyd gwerth £1.2 biliwn mewn seilwaith lleol trwy gronfa fuddsoddi 20 mlynedd o hyd. Rhai o'i brif nodau yw creu 25,000 o swyddi erbyn 2036 a sbarduno gwerth £4 biliwn o fuddsoddiad yn y sector preifat.

Mae dwy elfen i'r buddsoddiad o £1.2 biliwn sy'n rhan o'r Fargen Ddinesig. Y cyntaf yw cynllun Metro De Cymru, gwerth £734 miliwn. Mae hyn yn canolbwyntio ar drydaneiddio a gwella Rheilffyrdd Cymoedd De Cymru. Yr ail yw'r Gronfa Buddsoddi Ehangach gwerth £495 miliwn, i'w buddsoddi mewn seilwaith, tai, sgiliau a hyfforddiant, arloesi, twf busnes a chynigion trafnidiaeth y cynllun 'Metro a mwy' (gan ddefnyddio £375 miliwn gan Lywodraeth y DU a £120 miliwn ar fenthyg gan y 10 Awdurdod Lleol dros y cyfnod o 20 mlynedd).

Metro De Cymru – crynodeb o'r cynnydd

Cafodd Rheilffyrdd craidd y Cymoedd eu trosglwyddo o gwmni Network Rail i Trafnidiaeth Cymru yn 2020, ac mae'r gwaith  trydaneiddio 170 cilomedr o'r traciau wedi cychwyn. Ers y flwyddyn newydd, mae gwaith sylweddol wedi'i gynnal ar linellau Aberdâr, Treherbert, Merthyr Tudful a Rhymni, ac erbyn hyn mae disgwyl cwblhau'r gwaith cyffredinol yn 2024 oherwydd y pandemig. Ar ôl cwblhau'r gwaith, bydd trenau cyflym yn teithio'n fwy aml - bedair gwaith yr awr yn Aberdâr a'r Porth, a 12 gwaith yr awr o Gaerdydd i Bontypridd. Hefyd, bydd gwaith gwella gorsafoedd a chyfleusterau yn cael ei gynnal.

Mae cynnydd da o ran adeiladu'r depo rheilffordd newydd gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf. Ar hyn o bryd, ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru, mae'r Cyngor yn archwilio opsiynau i ddatblygu gorsaf reilffordd newydd sy'n gwasanaethu Ystad Ddiwydiannol Trefforest. Yn unol â'r amserlen, bydd gwaith adeiladu'r Hwb Trafnidiaeth modern newydd ar gyfer Y Porth yn dechrau ar y safle yn ystod y misoedd nesaf a bydd yn cael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2022. Bydd yn creu cyfnewidfa bysiau/trenau yn yr orsaf reilffordd bresennol.

Yn ystod misoedd olaf 2020, cafodd yr adeilad swyddfa mwyaf ei faint yn natblygiad newydd Llys Cadwyn ym Mhontypridd ei drosglwyddo o'r Cyngor i Trafnidiaeth Cymru. Dyma fydd eu pencadlys a bydd yn denu swyddi ac ymwelwyr i ganol y dref.

O ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae astudiaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd i archwilio cyfres o brosiectau pwysig eraill er budd Rhondda Cynon Taf. Mae'r rhain yn cynnwys ymestyn gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr o Aberdâr i Hirwaun, datblygu coridor trafnidiaeth gyhoeddus o ogledd-orllewin Caerdydd i'r Beddau a Phont-y-clun, cyfleuster parcio a theithio strategol i wasanaethu pen dwyreiniol coridor yr A473 ger Glan-bad, a chysylltu'r dwyrain i'r gorllewin yn well ar draws y cymoedd canol.

Cronfa Buddsoddi Ehangach – crynodeb o'r cynnydd

Ymhlith y gwaith allweddol hyd yma, mae buddsoddiad gwerth £15 miliwn tuag at gynlluniau'r 'Metro a Mwy'. Mae hyn yn cynnwys cyllid gwerth £5.33 miliwn ar gyfer Hwb Trafnidiaeth y Porth, £40 miliwn tuag at ailddatblygu Gorsaf Caerdydd Canolog, £31.5 miliwn ar gyfer y Gronfa Buddsoddi Tai (gan gynnwys safleoedd yn Rhondda Cynon Taf) a benthyciad o £4.4 miliwn i Zip World, a fydd yn agor eu safle newydd yn Hirwaun yn fuan.

Cyfanswm y cyllid hyd yma yw £148.3 miliwn. Mae cyllid cyfatebol gwerth £250.4 miliwn eisoes wedi dod i law. Yn fras, dyma fuddsoddiad gwerth £2.84 biliwn yn y rhanbarth. Felly, am bob £1 sydd wedi'i buddsoddi hyd yma, mae wedi galluogi gwerth £18 arall o fuddsoddiad arall yn y rhanbarth. Yn ôl yr amcangyfrif, bydd 2,500 o swyddi cychwynnol yn cael eu creu, ynghyd â 22,000 yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol o ganlyniad i gynllun Metro De Cymru. Mae disgwyl i Zip World greu 58 o swyddi amser llawn ac 20 o swyddi rhan-amser. Mae potensial i dri safle'r Gronfa Buddsoddi Tai leol greu 190 o swyddi uniongyrchol a 250 o swyddi anuniongyrchol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae’r adroddiad diweddaraf ar gynnydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi pum mlynedd wedi dod i law'r Cabinet. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar elfennau’r buddsoddiad a fydd o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i Rondda Cynon Taf. Rydyn ni bob amser wedi bod yn hyderus y byddai'r Fwrdeistref Sirol yn elwa'n fwy ar ein buddsoddiad yn y Fargen Ddinesig na'r hyn y byddai'r cyllid yma yn ei gyflawni ar ei ben ei hun, ac rwy'n falch bod hyn yn wir wrth i lawer o brosiectau lleol fynd rhagddynt.

“Bydd Metro De Cymru a thrydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd o fudd enfawr i’r economi ac o ran cysylltu Rhondda Cynon Taf yn well. Mae'r gwaith gan Trafnidiaeth Cymru yn y maes yma'n mynd rhagddo ers y flwyddyn newydd. Mae cynnydd ar safle'r depo rheilffordd newydd yn Ffynnon Taf yn mynd rhagddo, ac mae'n wych clywed y bydd gwaith adeiladu Hwb Trafnidiaeth y Porth yn cychwyn yn fuan. Mae cyllid sylweddol hefyd ar gael drwy elfen Cronfa Buddsoddi Ehangach y Fargen Ddinesig. Yn ei blith roedd benthyciad i Zip World i'w galluogi i gyflawni'r gwaith ar yr atyniad newydd yn Hirwaun a fydd o fudd mawr i'r hyn y gallwn ni gynnig ym maes twristiaeth.

“Mae'r newyddion diweddaraf am y Fargen Ddinesig yn gadarnhaol iawn, ac mae'n dangos sut mae’r 10 Awdurdod Lleol wedi defnyddio’r pum mlynedd diwethaf i wella’r ffordd maen nhw'n gweithio gyda’i gilydd. Yn yr un modd, mae'r bartneriaeth yn rhoi llais llawer mwy pwerus i ranbarth De-ddwyrain Cymru wrth ddenu buddsoddiad, ac mae hyn yn ychwanegu at werth Cynghorau unigol.”

Yn y cyfarfod ddydd Iau, gofynnodd Aelodau'r Cabinet am osod ger eu bron ganlyniadau Adolygiad Gateway annibynnol yn un o'u cyfarfodydd yn y dyfodol. Bydd yr Adolygiad yn gwerthuso effeithiau buddsoddiadau'r Fargen Ddinesig hyd yma.

Wedi ei bostio ar 01/03/2021