Skip to main content

Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned – Yr Wybodaeth Ddiweddaraf

Ydych chi'n bwriadu mynd i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned dros y penwythnos?

Wrth i'r tywydd braf agosáu, bydd llawer o drigolion RhCT yn treulio'u penwythnosau a'u nosweithiau yn clirio eu garejis, eu gerddi a'u mannau eraill yn barod i fwynhau nosweithiau hir y gwanwyn sydd ar ddod. Yn aml, bydd y gweithgareddau hyn yn arwain at daith i un o'r nifer o safleoedd ailgylchu ledled RhCT. 

Ar hyn o bryd, mae'r holl Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ledled Rhondda Cynon Taf ar agor rhwng 8am a 5.30pm ac yn gweithredu o dan reolau llym COVID-19.

Mae rheolau COVID-19, sydd ar waith i ddiogelu staff a thrigolion, yn cyfyngu ar nifer y cerbydau sy'n gallu mynd i mewn i'r safle ac mae uchafswm o 10 munud fesul pob cerbyd i gael gwared ar eitemau.   Yn ystod cyfnodau eithriadol o brysur, mae modd i giwiau dyfu'n gyflym ac rydyn ni'n gofyn i drigolion fod yn amyneddgar a dod yn ôl i'r safle ar adeg arall os oes modd iddyn nhw wneud hynny.

Ar hyn o bryd mae chwe Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf:

  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0BX
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Glynrhedynog, Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Dinas, Heol y Cymer, Dinas, CF39 9BL
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Glantaf, Heol Ffynnon Taf, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
  • Canolfan Ailgylchu 100% Llantrisant, Ffordd Pant-y-Brad ger Heol-y-Sarn, Ystad Ddiwydiannol Llantrisant, CF72 8YT
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ 

Bydd yr holl ganolfannau hyn yn diwallu eich anghenion o ran ailgylchu gwastraff, gan gynnwys nwyddau gwynion, cardfwrdd, dillad, plastig, hen oleuadau, pren, gwydr, metel, olew injan, tiwbiau fflworolau, plastrfwrdd, hen deganau, paent, teiars, hen setiau teledu a llawer yn rhagor.

Mae staff wrth law ym mhob un o'r canolfannau ac mae'r cynorthwywyr yn hapus i roi cyngor i drigolion am ailgylchu. Serch hynny, o dan ganllawiau COVID-19 does dim modd iddyn nhw helpu i godi eitemau ac rydyn ni'n atgoffa trigolion i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr ar bob adeg ar y safle.

O ddydd Llun 29 Mawrth, bydd amseroedd agor Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn newid i oriau estynedig yr haf, sef 8am-7.30pm. Bydd hyn yn caniatáu rhagor o amser i drigolion gael gwared ar eu heitemau gyda'r nosweithiau goleuach. Bydd oriau agor y gaeaf (8am-5.30pm) yn dychwelyd ddiwedd mis Hydref / Tachwedd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

“Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn helpu i ddarparu mynediad dyddiol at wasanaethau ailgylchu i’n trigolion ac mae’n wych gweld bod ein trigolion yn parhau â’u hymdrechion ailgylchu.

“Mae'r canolfannau bob amser yn boblogaidd adeg yma'r flwyddyn, a hyd yn oed yn fwy eleni. Byddwn i'n gofyn i drigolion fod yn amyneddgar gan fod y staff yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynorthwyo pawb yn ddiogel.” 

I gael rhagor o wybodaeth am y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned a'r rheolau presennol sydd ar waith, ewch i www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu.

Wedi ei bostio ar 12/03/21