Skip to main content

Rhagor o Brofion Cymunedol i 4 lleoliad arall

Bydd y rhaglen o Brofion yn y Gymuned sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws Rhondda Cynon Taf ac ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cael ei hymestyn i bedwar lleoliad arall yn RhCT o ddydd Sul, 21 Mawrth.

Bydd Canolfannau Allgymorth Profi Cymunedol yn agor yn Aberpennar, Aberdâr, Pontypridd a Threorci, a fydd modd i breswylwyr dros 11 oed sydd HEB symptomau COVID-19 ddod i'r lleoliadau yma am brawf heb wneud apwyntiad ymlaen llaw.

Dydd Sul, 21 Mawrth - Dydd Mawrth 23 Mawrth (9am - 7pm); Dydd Sadwrn, 27 Mawrth – Dydd Sul, 28 Mawrth (9am - 7pm).

  • Pontypridd - Llys Cadwyn (Adeilad B), Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TR.
  • Treorci - Theatr y Parc a'r Dâr, Heol yr Orsaf, Treorci CF42 6NL

Dydd Mercher 24 Mawrth - Dydd Gwener 26 Mawrth (9am – 7pm); 29 Mawrth – Dydd Mawrth, 30 Mawrth  (9am – 7pm).

  • Aberdâr - Theatr y Colisëwm, Bryn Hyfryd, Aberdâr CF44 8NG
  • Aberpennar - Adeilad Cymunedol Darran Las (hen Ysgol Fabanod Cwm Cynon), oddi ar Heol Harcourt, Aberpennar, CF45 3PT.

Mae'r Cyngor hefyd yn annog pob busnes lle does dim modd i'w staff weithio gartref  - yn enwedig y rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyswllt agos (fel gyrwyr bysiau neu dacsi, gweithwyr manwerthu bwyd neu'r rheini yn y diwydiannau adeiladu a gweithgynhyrchu) i annog ei weithwyr i gael prawf i amddiffyn eu cydweithwyr a'u teuluoedd.

Mae'r rhaglen Profi Cymunedol wedi bod yn llwyddiannus dros yr wythnosau diwethaf yn Nhonypandy a'r Porth, Llanhari a'r Gilfach Goch, Abercynon a Tylorstown, ac mae'r gymuned leol wedi ymateb yn galonogol i'r angen o gael eu profi. 

Mae nifer yr Achosion COVID-19 wedi cwympo dros yr wythnosau diwethaf, ond mae’n bwysig fod pawb yn cadw’n effro, yn enwedig wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio. Bydd y rhaglen nawr yn symud i'r trefi mwy o faint sydd â phoblogaeth uwch i gynnal profion ar gyfer poblogaeth fwy eang.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n falch o gadarnhau y bydd y rhaglen Profi Cymunedol yn cael ei hymestyn i bedair cymuned arall yn Rhondda Cynon Taf o ddydd Sul 21 Mawrth, yn dilyn cyfnod llwyddiannus o weithredu mewn chwe ardal leol dros yr wythnosau diwethaf.

“Er bod bod cyfraddau'r achosion dyddiol a'r ffigurau cyfartalog dros 7 diwrnod yn parhau i gwympo, mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau â'n hymdrechion i leihau lledaeniad COVID-19 yn ein cymunedau er mwyn nodi achosion asymptomatig mor gynnar â phosibl. Mae modd i bobl asymptomatig ledaenu'r feirws i bobl eraill a chynyddu nifer yr achosion lleol.

“Mae hyd at 1 o bob 3 o bobl sy'n derbyn prawf positif COVID-19 yn asymptomatig, felly rydyn ni'n annog yr holl bobl sy'n byw yn y bedair gymuned yma i fynd i gael prawf COVID-19 am ddim yn eu Canolfan Allgymorth Profi Cymunedol leol, pan fydd yn agor."

Wedi ei bostio ar 19/03/21