Skip to main content

Penodi contractwr ar gyfer gwaith atgyweirio wal afon Heol Blaen-y-Cwm

Blaen y cwm road wall 2 - Copy

Mae contractwr wedi'i benodi ar gyfer cynllun arfaethedig sy'n cynnwys gwaith i wal afon Heol Blaen-y-Cwm. Mae bwriad i ddechrau gwaith rhagarweiniol ym mis Ebrill ac atgyweiriadau llawn o fis Mai ymlaen, pan ddaw cyfyngiadau tymhorol sy'n atal gweithio yn yr afon i ben.

Cafodd rhannau helaeth o'r strwythur eu difrodi yn ystod tywydd garw Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Mae'r wal yn cynnal y briffordd ar Heol Blaen-y-Cwm, ac mae un lôn wedi'i chau er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae'r Cyngor wedi defnyddio goleuadau traffig i gadw'r llwybr ar agor, ac mae cyflwr y wal a'r ffordd yn cael eu monitro'n ofalus.

Dechreuodd cam cyntaf y gwaith ym mis Medi 2020, ac yn ystod y gwaith hwnnw, cafodd rhan sylweddol o wal yr afon ei hatgyweirio a'i hailbwyntio'n llwyddiannus. Pwysleisiodd y Cyngor y byddai angen ail gam i'r gwaith er mwyn unioni'r rhan o'r strwythur sydd wedi'i difrodi. Y bwriad yw dechrau'r ail gam yn ystod gwanwyn 2021.

Mae'r Cyngor bellach wedi penodi'r contractwr Centregreat i fod yn gyfrifol am gyflawni gweddill y cynllun. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar y safle fis nesaf ynghyd â'r cynllun atgyweirio llawn o fis Mai 2021, gan gadw at gyfyngiadau sydd ar waith yn ymwneud â gweithio yn yr afon yn ystod yr hydref a'r gaeaf.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rydyn ni wedi penodi contractwr ar gyfer cam olaf yr atgyweiriadau i Heol Blaen-y-Cwm, yn barod i weld y cynllun pwysig yma'n parhau. Pan oedd gweithwyr ar y safle ym mis Medi 2020, bu cynnydd da wrth gwblhau gwaith atgyweirio ar ran sylweddol o'r wal, ond bu raid i weddill y gwaith atgyweirio aros tan i'r cyfyngiadau ar weithio mewn afon ddod i ben.

“Mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i atgyweirio'r difrod enfawr i'r seilwaith a achoswyd gan Storm Dennis – dyma dasg y byddwn ni'n parhau i fynd i'r afael â hi ledled y Fwrdeistref Sirol yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Yn y flwyddyn wedi Storm Dennis, fe wnaeth y Cyngor ymchwilio i 2,500 achos o lifogydd a gafodd eu hadrodd ac i 48 cilomedr o asedau cwrs dŵr. Fe wnaeth hyn arwain at gael gwared ar 2,000 tunnell o falurion.

“Mae gwaith i nifer o strwythurau hefyd yn parhau i ddatblygu, ac yn ddiweddar mae’r Cyngor wedi cwblhau’r atgyweiriadau i Bont M&S ym Mhontypridd. Cafodd y bont ei hailagor i’r cyhoedd ar 19 Mawrth, gan gysylltu canol y dref â Pharc Coffa Ynysangharad. Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer cam cyntaf yr atgyweiriadau i'r Bont Wen ym Mhontypridd, a fydd yn dechrau yn ystod y misoedd nesaf. Y mis diwethaf, cafodd y Cyngor gyllid ychwanegol o £4.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gyfrannu tuag at atgyweiriadau parhaus ledled y Fwrdeistref Sirol.

“Bydd y contractwr sydd newydd gael ei benodi ar gyfer wal afon Heol Blaen-y-Cwm yn cychwyn gweithio ar y safle ym mis Ebrill. Bwriad hyn yw paratoi ar gyfer y cynllun atgyweirio llawn ym mis Mai, ac mae disgwyl i'r holl waith gael ei gwblhau ddiwedd yr haf neu ddechrau hydref 2021. Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cydweithrediad parhaus, wrth i ni weithio tuag at ailagor y ddwy lôn ar y rhan yma o Heol Blaen-y-Cwm."

Wedi ei bostio ar 22/03/21