Skip to main content

Y Cyngor yn Cadarnhau ei fod am Gynyddu Nifer yr Ardaloedd Bioamrywiaeth

Mae'r Cyngor wedi cadarnhau y bydd unwaith eto yn cyfyngu ar dorri glaswellt ar ymylon ffyrdd ac mewn mannau agored ledled y Fwrdeistref Sirol yn rhan o'i strategaeth barhaus i hybu bioamrywiaeth.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Cafodd y cyhoeddiad a wnaed yr haf diwethaf ynghylch gadael y glaswellt ar ymylon ffyrdd ac mewn ardaloedd â blodau gwyllt i dyfu lle bo modd i wneud hynny ei groesawu’n fawr. Mae’n amlwg bod y cyhoedd yn awyddus i weld hyn yn parhau ac yn ehangu.

“Mae bioamrywiaeth yn agwedd allweddol ar agenda gwyrdd ehangach y Cyngor. Rydyn ni wedi cynyddu nifer yr ardaloedd sydd yn cael eu cadw at y dibenion yma dros y blynyddoedd diwethaf wrth i ni gydnabod eu pwysigrwydd o ran gwella ansawdd aer a hyrwyddo ffyniant bywyd gwyllt lleol. Yn rhan o'r ymgyrch yma, byddwn ni unwaith eto yn hau rhagor o hadau blodau gwyllt ac yn parhau gyda'r dull cyfeillgar i wenyn. Bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn y lleoliadau yma i nodi'n glir pa ardaloedd sy'n cael eu gadael at y dibenion hyn.

“Yn ogystal â’r buddion gweledol ac amgylcheddol y bydd yr ardaloedd yma yn eu cynnig, bydd hyn hefyd yn lleihau costau, gan fod modd defnyddio adnoddau i gyflawni blaenoriaethau eraill a chefnogi gwasanaethau rheng flaen.  

"Serch hynny, bydd angen i'r Cyngor barhau i dorri a chynnal a chadw'r glaswellt yn rheolaidd mewn rhai ardaloedd er budd diogelwch y cyhoedd, yn enwedig ar gylchfannau a lleoliadau wrth ymyl ffyrdd lle mae modd i ordyfiant amharu ar allu gyrwyr i weld yn glir.  

“Gydag effeithiau newid yn yr hinsawdd eisoes yn weladwy iawn yn ein cymunedau, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i barhau i roi dull gweithredu ar waith o ran lleihau ei ôl troed carbon. Rydyn ni eisoes wedi cyflawni gostyngiad o 37% dros y pum mlynedd diwethaf ac mae gyda ni gynlluniau i ehangu a datblygu hyn ymhellach er mwyn cyrraedd ein targed o fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.”

Wedi ei bostio ar 23/03/2021