Skip to main content

Gwaith yn dechrau ar ddymchwel hen safle Neuadd Bingo ym Mhontypridd

Bingo Hall Pontypridd

Cyn bo hir bydd y Cyngor yn dechrau ar waith i ddymchwel yr hen Neuadd Bingo a chlwb nos Angharad's ym Mhontypridd. Bydd y gwaith sylweddol yma ar y safle strategol yng nghanol y dref yn golygu bydd modd ei ailddatblygu yn y dyfodol.

Mae'r Cyngor eisoes wedi cyhoeddi bod yr adeiladau – sy'n adfeilion erbyn hyn – bellach yn ei feddiant er mwyn datblygu'r ardal yn rhan o'i Gynllun Adfywio Pontypridd ehangach. Yn yr un modd ag y mae safle Canolfan Siopa Cwm Taf wedi'i drawsnewid yn Llys Cadwyn, nod y Cyngor yw defnyddio safle'r hen Neuadd Bingo unwaith yn rhagor, a hynny ar ôl iddo sefyll yn wag ers sawl blwyddyn.

Erbyn hyn, gall y Cyngor gadarnhau ei fod yn archwilio'r posibilrwydd o adeiladu gwesty ar hen safle'r Neuadd Bingo yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae Swyddogion y Cyngor yn ymgysylltu â'r sector masnachol mewn perthynas â'r gobaith yma.

O fis Awst 2020, cafodd gwaith paratoi ar gyfer y broses ddymchwel ei gynnal y tu mewn i'r adeiladau. Cafodd y dasg yma ei chwblhau yn ystod y gaeaf. Mae'r Cyngor bellach wedi penodi Walters yn gontractwr i gynnal y cam dymchwel llawn. Mae cadarnhad y bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 22 Mawrth 2021.

Ddechrau'r broses, daeth arian Llywodraeth Cymru i law'r Cyngor er mwyn ei helpu i brynu'r safle. Erbyn hyn mae'r Cyngor wedi cael cefnogaeth bellach gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith dymchwel.

Mae disgwyl cwblhau'r gwaith dymchwel i lefel y stryd erbyn diwedd haf 2021. Bydd y safle'n cael ei gau i'r cyhoedd, a bydd arwyddion i gyfeirio cerddwyr yng nghyffiniau'r safle. Bydd modd cael mynediad i'r holl adeiladau cyfagos yng nghanol y dref o hyd.

Dylai trigolion a defnyddwyr y ffordd nodi y bydd y lôn tua'r de sydd ar gau ar hyn o bryd ar yr A4058 (Heol Sardis) – yn union wrth ymyl yr hen Neuadd Bingo – yn parhau fel y mae trwy gydol y gwaith dymchwel, a hynny er diogelwch.

Mae'n debygol y bydd angen cau'r rhan yma o Heol Sardis tua'r de yn llawn am un penwythnos, a hynny er mwyn gosod craen ar y ffordd i helpu gyda'r gwaith dymchwel. Mae disgwyl y bydd hyn yn digwydd yn ystod wythnosau cynnar y cyfnod dymchwel, a bydd y Cyngor yn rhannu manylion maes o law. Bydd modd i'r holl draffig sy'n teithio drwy'r Stryd Fawr, gan gynnwys bysiau, wneud hynny yn ôl yr arfer.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Mae cynllun y Cyngor ar gyfer hen adeiladau'r Neuadd Bingo a chlwb nos Angharad's yn rhan o'i weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Pontypridd. Y nod yw sicrhau adfywio, buddsoddi a thwf sylweddol drwy brosiectau allweddol ledled canol y dref. Rydyn ni am gyflawni hyn drwy wella'r hyn sydd gyda'r dref i'w gynnig o safbwynt siopau a chyfleusterau masnachol, a chynyddu nifer yr ymwelwyr bob dydd.

“Ar hyn o bryd mae cyflwr adeilad yr hen Neuadd Bingo yn wael. Mae'n adfail, ac yn sicr nid dyna'r argraff gyntaf rydyn ni am i'r rheiny sy'n cyrraedd Pontypridd ar y trên ei chael – yn enwedig gyda datblygiad Metro De Cymru yn cynnig 24 o drenau bob awr yn y blynyddoedd sydd i ddod.

“Mae'n gyfnod cyffrous iawn i Bontypridd, gyda nifer o brosiectau pwysig yn cael eu datblygu. Cafodd Llys Cadwyn ei gwblhau ym mis Hydref ac mae'n barod i gael ei ddefnyddio pan fydd y pandemig yn caniatáu. Drwy'r gwaith yma, rydyn ni wedi profi bod y prosiectau ailddatblygu uchelgeisiol yma'n bosibl, a bod y Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod y dyheadau tymor hir yma yn cael eu gwireddu.

“Mae cynnydd da hyd yma hefyd ar ddatblygiad cyfleuster Gofal Ychwanegol Pontypridd, Cwrt yr Orsaf, gwaith ailddatblygu'r YMCA yn y dref, a’r gwaith adfer ar Lido Ponty yn dilyn stormydd y llynedd. Hefyd, mae gwaith cynllunio gwerth £4.5 miliwn yn mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni i adnewyddu ac ailagor Canolfan Gelf y Miwni.

“Bydd gwaith dymchwel yr hen Neuadd Bingo yn cychwyn yn fuan, a hoffwn i ddiolch i drigolion a busnesau am eu cydweithrediad wrth gynnal y gwaith yma. Bydd swyddogion yn gweithio'n agos ar y cyd â'r contractwr Walters i sicrhau bod y gwaith yn tarfu cyn lleied â phosib a bod modd i ganol y dref barhau i weithredu yn ôl yr arfer. O ran tarfu ar draffig, bydd y trefniant presennol yn Heol Sardis yn parhau. Bydd manylion terfynol cau'r ffordd dros benwythnos i osod craen yn cael eu cyhoeddi yn y man."

Wedi ei bostio ar 17/03/21