Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi cyflwyno'r rhaglen frechu genedlaethol yn erbyn Covid-19, ac mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae'n darparu tair Canolfan Brechu yn y Gymuned, un yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant, un yng nghanolfan Chwaraeon Rhondda, ac un arall yng Nghanolfan Bowlio Dan Do Cwm Cynon.
Yn dilyn llwyddiant cam cyntaf y rhaglen hyd at 14 Chwefror, mae Canolfannau Hamdden Llantrisant a Chwaraeon Rhondda, sy'n eiddo i'r Cyngor, wedi'u hailfodelu i helpu i ddarparu cyfleusterau ar gyfer gweithredu'r rhaglen.
Mae Cyngor Taf Rhondda Cynon hefyd wedi cyfrannu at ailfodelu Canolfan Bowls Dan Do Cwm Cynon i'w defnyddio fel Canolfan Brechu yn y Gymuned. Mae hyn yn disodli'r Ganolfan Brechu yn y Gymuned a oedd yn swyddfeydd Tŷ Trevithick y Cyngor.
Ym mhob un o'r safleoedd, mae'r Cyngor yn darparu cymorth staffio i sicrhau diogelwch y bobl sy'n mynd ar gyfer brechlyn, sy'n cynnwys rheoli safle, rheoli ciw, croedawu a chyfarch a materion gweinyddol.
Ddylai pobl ddim mynd i'r canolfannau brechu oni bai bod ganddyn nhw apwyntiad brechu. Mae hyn oherwydd bod y brechlyn Covid-19 yn cael ei gyflwyno yn ôl blaenoriaeth ar hyn o bryd sy'n seiliedig ar lefel y risg y mae gwahanol grwpiau yn ei hwynebu yn sgil Covid-19.
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn penderfynu ar y grwpiau sydd i'w blaenoriaethu ar lefel y DU. Dyma'r rhestr o flaenoriaethau:
- preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn a'u cynhalwyr
- pawb sy'n 80 oed ac yn hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- pawb sy'n 75 oed ac yn hŷn
- pawb sy'n 70 oed ac yn hŷn ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol
- pawb sy'n 65 oed ac yn hŷn
- pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes sy'n wynebu risg uwch o salwch difrifol a marwolaeth, a chynhalwyr (gofalwyr) di-dâl
- pawb sy'n 60 oed ac yn hŷn
- pawb sy'n 55 oed ac yn hŷn
- pawb sy'n 50 oed ac yn hŷn
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n falch iawn ein bod ni'n gallu cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gael tair Canolfan Brechu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf.
“Trwy gydol argyfwng cenedlaethol Covid-19, mae Cyngor RhCT wedi gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i arafu lledaeniad heintiau Covid-19 yn ein cymunedau.
“Yn ogystal â chefnogi sefydlu Canolfannau Brechu yn y Gymuned Covid-19 yn ein safleoedd, mae ein staff yn cefnogi gwaith trefnu brechlynnau ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Byddwn ni'n hyfforddi rhagor o staff cyn bo hir i roi'r brechlyn fel bod modd cyflwyno'r rhaglen frechu hyd yn oed yn gyflymach.
“Mae'r brechlyn yn cynnig cyfle i ni droi'r llanw yn erbyn y feirws marwol yma. Serch hynny, wrth i ni barhau i frechu'r grwpiau hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf yn sgil y feirws, mae rhaid i ni i gyd barhau i ddilyn y mesurau a roddwyd ar waith i amddiffyn ein hiechyd ein hunain ac iechyd y rhai o'n cwmpas. Mae hyn yn cynnwys parhau i gadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo mwgwd pan fo'n ofynnol i chi wneud hynny neu mewn mannau lle mae pobl eraill.
“Rydyn ni wedi cyrraedd adeg wirioneddol dyngedfennol yn yr argyfwng iechyd hwn, rydyn ni'n dechrau troi'r llanw yn erbyn COVID-19. Mae'r rhaglen frechu yn cael ei chyflwyno fel y cynlluniwyd ac mae cyfraddau heintiau yn gostwng oherwydd y cyfyngiadau cyfredol. Fodd bynnag, mae angen i ni i gyd barhau i ddilyn y rheolau cyfredol ac unrhyw fesurau yn y dyfodol. Allwn ni ddim bod ag agwedd hunanfodlon yn y mater yma, ac allwn ni ddim gadael i'r feirws ennill tir eto.
“Rydyn ni'n gwybod pa mor gyflym y gall COVID-19 ymledu o lefelau isel iawn yn ein cymunedau, ac mae'n hanfodol bwysig bod pob un ohonom ni'n chwarae ein rhan i leihau lledaeniad y firws hwn.
“Mae ein cydweithwyr yn y GIG dan bwysau sylweddol oherwydd Covid-19. Rydyn ni'n benderfynol o’u cefnogi mewn unrhyw ffordd bosibl fel bod modd iddyn nhw barhau i ganolbwyntio ar roi triniaeth i'r rhai sydd ei hangen fwyaf.
Mae'r brechlyn yn cynnig gobaith i ni, ond mae angen i ni barhau i atal y feirws yma rhag achosi marwolaethau ychwanegol hyd nes y bydd y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned yn cael eu hamddiffyn.”
Wedi ei bostio ar 02/03/21