Skip to main content

Diwrnod Rhyngwladol dros gael gwared ar Wahaniaethu ar sail Hil

FightRacism_large

Y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf unwaith eto yn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol dros gael gwared ar Wahaniaethu ar sail Hil ar 21 Mawrth. Bwriad hyn yw meithrin diwylliant byd-eang o oddefgarwch, cydraddoldeb a gwrth-wahaniaethu, ac mae'r ymgyrch yn galw ar bawb i wneud safiad yn erbyn rhagfarn hiliol ac agweddau anoddefgar.

Mae'r Diwrnod Rhyngwladol dros gael gwared ar Wahaniaethu ar sail Hil yn cael ei nodi bob blwyddyn, a hynny ar yr un dyddiad y gwnaeth yr heddlu yn Sharpeville, De Affrica, gynnau tân a lladd 69 o bobl mewn gwrthdystiad heddychlon yn erbyn "deddfau pasio" apartheid ym 1960.

Y thema eleni yw “Pobl Ifainc yn sefyll yn erbyn hiliaeth” - dros y 12 mis diwethaf, mae nifer o ddigwyddiadau wedi ennyn rhagor o drafodaethau am wahaniaethu ac anghyfiawnder ar sail hil, ac wedi amlygu'r gwaith sydd angen ei wneud o hyd er mwyn mynd i'r afael â'r problemau yma.

Mae pobl ifainc wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o annog pawb i drafod y materion yma, a nhw fydd yn parhau i wthio'r newidiadau yn ein cymdeithas, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

Mae Diwrnod Rhyngwladol dros gael gwared ar Wahaniaethu ar sail Hil yn gyfle i ni gyd ystyried y math o gymdeithas deg a chyfartal yr hoffen ni fyw ynddi.

Mae polisi'r Cyngor yn nodi nad ydyn ni'n goddef unrhyw hiliaeth o gwbl, ac i ddangos ein cefnogaeth ymhellach, rydyn ni wedi llofnodi polisi 'Dim Goddefgarwch' Dim Hiliaeth Cymru.

Pe hoffech chi ddysgu rhagor am Ddiwrnod Rhyngwladol dros gael gwared ar Wahaniaethu ar sail Hil, ymunwch â lansiad Dim Hiliaeth Cymru ar 21 Mawrth am hanner dydd, a fydd yn cael ei ddarlledu'n fyw ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth: www.zeroracismwales.co.uk


Facebook/Twitter/Youtube: @RCCCymru #DimHiliaethCymru #ZeroRacismWales

Wedi ei bostio ar 19/03/21