Yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, mae modd i'r Cyngor gadarnhau bod pob un o'i ganghennau Llyfrgell bellach wedi dychwelyd i'r un lefelau o ddarpariaeth gwasanaeth â chyn y cyfyngiadau symud diweddaraf yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu bod modd i drigolion ddefnyddio'r gwasanaeth Archebu a Chasglu, defnyddio cyfrifiaduron sydd ar gael i'r cyhoedd (ar gael trwy apwyntiad ac am gyfnodau amser penodol o 50 munud yn unig), a defnyddio'r cyfleusterau llungopïo. Yn ogystal, mae'r Gwasanaeth Llyfrgell Gartref a Gwasanaeth y Llyfrgelloedd i Ysgolion hefyd yn cael eu darparu yn Rock Grounds. Bydd sesiynau cyngor ar y Cyfrifiad hefyd yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd penodol yn unol â rota.
Ar yr amod bod y sefyllfa o ran COVID-19 yn parhau i wella, bydd Cam 2 y broses o ailagor yn cychwyn ddydd Llun, 12 Ebrill. Bydd y tair llyfrgell Ardal yn Aberdâr, Pontypridd (Llys Cadwyn) a Threorci ar agor i’r cyhoedd i ganiatáu pori, er y bydd hyn ond yn cael ei ganiatáu gyda mesurau rhagofalon diogelwch cyhoeddus ychwanegol ar waith.
Dylai fod modd i'r holl lyfrgelloedd cangen sy'n weddill ailagor o ddydd Llun, 26 Ebrill (Cam 3), a bydd holl wasanaethau'r Llyfrgell (gan gynnwys y Llyfrgell Deithiol a'r gwasanaethau 'e-Teens') yn ailddechrau yn unol â'r lefelau cyn COVID yn ddiweddarach yn ystod Cam 4. Unwaith eto, bydd mesurau rhagofalon diogelwch ar waith i leihau'r risg o drosglwyddo COVID-19.
Mae'r Cyngor yn gobeithio y bydd cynnydd pellach yn y daith tuag at gynnig ystod gynyddol o wasanaethau Llyfrgell dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i gydnabod y rôl allweddol sydd gan Lyfrgelloedd wrth frwydro yn erbyn rhai o effeithiau cymdeithasol negyddol y cyfyngiadau symud a'r cyfnodau ynysu. Bydd y Cyngor yn rhannu'r trefniadau ar gyfer y camau dilynol hyn ar yr adegau priodol yn unol â'r canllawiau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Cam 1: O 29 Mawrth, bydd pob Llyfrgell yn dychwelyd i'r lefelau gwasanaeth a oedd ar waith cyn y cyfyngiadau symud. Bydd pob Cangen Llyfrgell yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
- Gwasanaeth Archebu a Chasglu
- Gwasanaeth Llungopïo
- Ailddechrau gwerthu bagiau gwastraff y byd masnach
- Bydd modd trefnu apwyntiad er mwyn defnyddio cyfrifiaduron sydd ar gael i'r cyhoedd am gyfnod penodol (50 munud)
- Bydd sesiynau cyngor ar y Cyfrifiad ar gael mewn llyfrgelloedd penodol yn unol â rota, fel y cytunwyd gan Good Things Foundation.
- Bydd ystafelloedd cyfarfod ar gyfer y gymuned ar gael ar gyfer y gwasanaethau cyflogaeth a'r gwasanaethau addysg pan fyddwch chi wedi trefnu apwyntiad ymlaen llaw.
Yn ogystal â hyn, byddwn ni hefyd yn darparu'r gwasanaeth canlynol yn Rock Grounds:
- Gwasanaeth Gartref
- Gwasanaeth y Llyfrgelloedd i Ysgolion
Cam 2: O 12 Ebrill, bydd y tair llyfrgell Ardal yn Aberdâr, Pontypridd (Llys Cadwyn) a Threorci ar agor i'r cyhoedd er mwyn caniatáu pori a bydd y mesurau rhagofalon ychwanegol canlynol yn cael eu rhoi ar waith.
- Gwasanaeth Archebu a Chasglu.
- Uchafswm nifer o fenthycwyr yn y llyfrgell ar unrhyw un adeg. Bydd y nifer uchaf o fenthycwyr sy'n cael dod i mewn i lyfrgell yn amrywio o safle i safle a bydd y rhif yma'n cael ei bennu cyn ailagor.
- Rhaid i bob benthyciwr wisgo mwgwd wyneb (oni bai bod rhesymau meddygol yn atal hyn) a diheintio eu dwylo wrth fynd i mewn i'r adeilad.
- Caiff yr amser yn y llyfrgell ei gyfyngu i 30 munud a chaiff benthycwyr eu hannog i ddefnyddio ciosgau hunanwasanaeth lle bo hyn ar gael.
- Bydd gweithdrefnau ar waith er mwyn i staff fonitro'r mesurau cadw pellter cymdeithasol.
- Mae sgriniau perspex wedi'u gosod mewn mannau lle y bydd cyswllt wyneb yn wyneb o bosibl yn digwydd.
- Seddi / dodrefn i'w symud o'r ardal.
- Bydd silffoedd y llyfrgell yn cael eu haildrefnu lle bo hynny'n bosibl i annog cadw pellter cymdeithasol a chreu systemau unffordd. Os yn bosibl, dylid defnyddio gwahanol bwyntiau mynediad ac allanfa.
- Bydd defnydd cyfyngedig o ystafelloedd cyfarfod cymunedol yn cael ei ganiatáu hefyd.
- Bydd modd trefnu apwyntiad er mwyn defnyddio ardaloedd Cyfeirio. Bydd sesiynau awr o hyd ar gael ar gyfer hyd at 2 berson yn unig. Bydd unrhyw ddeunyddiau hanes lleol sy'n cael eu defnyddio yn cael eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr.
- Bydd Canolfannau iBobUn yn ailagor o dan yr un amodau â chyn y cyfyngiadau symud - Trefnu trwy apwyntiad yn unig a fydd ciosgau talu ddim ar gael.
Cam 3: O 26 Ebrill, bydd yr holl lyfrgelloedd cangen sy'n weddill yn ailagor yn unol â'r Llyfrgelloedd Ardal yn ystod Cam 2.
Cam 4: Bydd pob gwasanaeth llyfrgell yn ailddechrau ac yn cael eu darparu yn unol â'r lefelau cyn Covid, a bydd oriau agor yn dychwelyd i'r amserlen wreiddiol. Bydd hyn yn cynnwys y Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol a'r llyfrgell 'e-Teens' yn Nhreorci. Efallai na fydd yn bosibl symud ymlaen yn uniongyrchol o Gam 3 i Gam 4 os bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio dros gyfnod estynedig, ac felly bydd y sefyllfa o ran Covid yn cael ei monitro'n rheolaidd a bydd camau ailagor ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith pe bai angen.
Wedi ei bostio ar 31/03/21