Skip to main content

Ffordd Osgoi Llanharan - diweddariad ar y cynnydd trwy gydol 2020/21

Llanharan-Bypass-WELSH-2021

Mae'r Cyngor wedi rhannu'r newyddion diweddaraf ar y cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf wrth weithio tuag at gyflwyno Ffordd Osgoi Llanharan yn y dyfodol - a'r garreg filltir fawr nesaf fydd ymgysylltu â'r cyhoedd dros yr haf.

Mae Ffordd Osgoi Llanharan yn gynllun sylweddol i adeiladu ffordd newydd i'r de o Lanharan, wedi'i rhannu'n dair rhan (fel yr amlinellir ar y map). Cafodd rhan orllewinol y ffordd osgoi ei hadeiladu ger cylchfan Dragon Studios, yn rhan o ddatblygiad Llanilid. Bydd rhan ganol y ffordd yn cael ei hadeiladu gan y datblygwyr tai cyn i rywun symud i mewn i dŷ rhif 801 allan o 1,840.

Bydd darn dwyreiniol y ffordd, sydd 1.6km o hyd, ynghyd â llwybr teithio llesol, yn cael ei adeiladu gan y Cyngor - i gysylltu rhan ganol y ffordd osgoi â'r A473 i'r dwyrain o Lanharan. Yn 2019, cytunodd y Cabinet ar lwybr terfynol ar gyfer y rhan yma, a fydd yn cysylltu â'r A473 i'r dwyrain o Orsaf Betrol Llanharan.

Cliciwch yma i weld fersiwn mawr o'r map uchod

Yn ogystal, bydd y Cyngor yn addasu Heol Llanhari er mwyn ei chysylltu â'r ffordd osgoi newydd trwy'r gylchfan ar ben Ffordd y Fenter. Bydd hen lwybr Heol Llanhari yn cael ei ddefnyddio fel llwybr teithio llesol pwrpasol.

Mae'r Cyngor hefyd yn ymgynghori ar welliannau pellach i'r gorllewin o'r ffordd osgoi newydd, rhwng cylchfan Dragon Studios a'r ffin â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y cynigion yn cael gwared ar y troadau (a elwir yn lleol yn Cow Corner) gan wneud y ffordd yn syth a darparu gwell cysylltiadau cerdded a beicio rhwng Llanharan a Phencoed.

Yn dilyn ymchwiliadau cychwynnol i'r tir ddiwedd 2019, mae gwaith ar y safle wedi parhau trwy gydol 2020/21. Gwnaeth y Cyngor waith ymchwilio ychwanegol yn ystod gwanwyn 2020, gan gadw at gyfyngiadau COVID-19 ar ddechrau'r pandemig. Dilynwyd hyn gan arolygon ecolegol pellach gafodd eu cynnal trwy gydol y flwyddyn. Mae'r cynllun rhagarweiniol ar gyfer y prosiect bron wedi'i gwblhau.

Mae swyddogion wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid arwyddocaol dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys datblygwyr tai, Dragon Studios, Cadw (mewn perthynas â Thŷ Llanharan), Cyfoeth Naturiol Cymru, Network Rail (ynghylch croesi'r brif reilffordd) ac Wales & West Utilities (ynghylch prif bibell nwy yn y cyffiniau). Mae cynllun y ffordd osgoi wedi'i ddatblygu ynghyd â chydlynu darpariaeth Teithio Llesol mewn perthynas â mentrau cerdded a beicio lleol eraill.

Mae camau nesaf y cynllun yn cynnwys Strategaeth Amgylcheddol, i'w chwblhau yn ystod gwanwyn 2021, a lansio Ymgynghoriad y Cais Cyn-Gynllunio dros yr haf sydd i ddod. Bydd yr ymgynghoriad ar gyfer y cynllun yn gofyn am adborth gan y cyhoedd, fydd maes o law yn llywio'r broses gynllunio.

Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, mae'r Cyngor yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio ffurfiol i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ei ystyried.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r adroddiad cynnydd yma'n cynnwys y datblygiadau diweddaraf i drigolion ynghylch cynllun Ffordd Osgoi Llanharan, gyda gwaith yn mynd yn ei flaen y tu ôl i’r llenni er mwyn cyflawni'r cynllun yn y dyfodol. Ar ôl cwblhau'r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar ym mis Hydref 2020, mae'r Cyngor wedi dangos ei fod wedi ymrwymo i gyflawni prosiectau seilwaith mawr, a dyma weld datblygu Ffordd Osgoi Llanharan ochr yn ochr â deuoli'r A4119 o Goed-elái i Ynysmaerdy a Phorth Gogleddol Cwm Cynon.

“Bydd gan Ffordd Osgoi Llanharan nifer o fanteision i'r ardal - lleihau tagfeydd traffig yn Llanharan, Dolau a Bryn-cae a lleihau amseroedd teithio i yrwyr a'r rhai sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd yn rhan annatod o'r rhwydwaith priffyrdd strategol sy'n cysylltu gorllewin Rhondda Cynon Taf â'r M4, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae hefyd wrth wraidd Ardal Cyfleoedd Strategol Llanilid/M4, a nodwyd gan y Cabinet yn lleoliad sydd â photensial ar gyfer twf economaidd. 

"Dros yr haf yma, bydd y Cyngor yn cynnal ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd, sy’n ail gyfle i drigolion ddweud eu dweud yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar yn 2019. Yn ystod y broses, fe wnaeth dros 500 o bobl lenwi'r arolwg gan y Cyngor a dangosodd 95% o ymatebion ysgrifenedig bod cefnogaeth i'r cynllun. Unwaith eto, bydd yr Ymgynghoriad ar y Cais Cyn-Gynllunio yn rhoi cyfle i drigolion fynegi'u barn. Bydd sylwadau trigolion yn cyfrannu at gais gynllunio terfynol y Cyngor."

Wedi ei bostio ar 04/03/21