Bydd tri adeilad blaenllaw yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu hailddatblygu er mwyn i'w cymunedau lleol eu defnyddio unwaith eto, gan ddarparu cyfleoedd unigryw i fusnesau lleol.
Mae'r tri phrosiect yn bosibl diolch i fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru a'i mentrau Trawsnewid Trefi a Thasglu'r Cymoedd, sy'n gweithio ar y cyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf a'i ddatblygwyr.
Mae'r cyllid yn gymorth i ddatblygu a gwella adeiladau nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio ddigon, neu sy'n wag, er mwyn gwneud defnydd ohonyn nhw unwaith eto, a hynny at ystod o ddibenion gan gynnwys rhannu mannau gwaith.
Mae hen Neuadd y Dref, Aberpennar, Llys Ynadon Llwynypia a swyddfeydd presennol Cymdeithas Tai Rhondda yn cael eu hadfywio er budd eu cymunedau lleol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Er gwaethaf y ffaith ein bod ni'n parhau i wynebu heriau a phwysau’r pandemig byd-eang, mae’n newyddion da gweld bod y tri adeilad blaenllaw yma, yn ein Bwrdeistref Sirol, yn cael eu hailddatblygu wrth i’r Cyngor barhau â’i raglen fuddsoddi uchelgeisiol.
“Bydd pob un o’r tri adeilad, sy'n rhan o'r prosiect ailddatblygu, yn darparu swyddfeydd ar gyfer darpar fusnesau lleol, yn ogystal â busnesau lleol presennol. Mae cyllid yn cael ei ddarparu gan Dasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru a’r Cyngor.
“Mae newid amlwg wedi bod o ran patrymau gwaith o ganlyniad i'r pandemig byd-eang, gyda llawer o bobl yn gweithio gartref a llawer o bobl eraill yn gweithio mor agos i'r cartref â phosibl. Bydd ailddatblygu'r tri adeilad yma, mewn lleoliadau canolog, yn cynnig cyfle i fusnesau addasu i'r ffyrdd newydd yma o weithio.”
Mae Neuadd y Dref, Aberpennar, sy'n Adeilad Rhestredig Gradd II, mewn lleoliad delfrydol oddi ar yr A5059. Cafodd ei hadeiladu yn 1904 gan gostio £5,000. Yn wreiddiol, roedd yn gartref i swyddfeydd Cyngor Dosbarth Trefol Aberpennar, ac wedi parhau i fod yn eiddo i'r awdurdod lleol priodol.
O ganlyniad i'w bensaernïaeth a'i ddyluniad, mae'r adeilad wedi'i restru gyda Cadw. Trwy brydles hirdymor, bydd yn cael ei ailddatblygu'n fan gwaith bywiog sy'n cael ei rannu, a fydd yn darparu gweithle hyblyg i fusnesau newydd o bob math.
Mae hyn yn bosibl diolch i gyllid, sef £250,000, gan Dasglu'r Cymoedd a £100,000 arall o Gronfa Buddsoddi Prosiectau Mawr y Cyngor.
Mae cyllid hefyd wedi'i sicrhau fel bod modd i'r Cyngor fwrw ymlaen â Phrosiect Ailddatblygu'r Hen Lys Ynadon yn Llwynypia. Bydd yr hen lys yn cael ei drawsnewid yn adeilad amlbwrpas mewn lleoliad delfrydol i fusnesau newydd, yn ogystal â chynnig mannau gwaith sy'n cael eu rhannu.
Bydd addasiadau o ran strwythur megis tynnu waliau mewnol a gosod ffenestri ychwanegol mewn waliau allanol yn creu amgylchedd mwy golau, mwy eang a mwy creadigol a fydd yn llifo'n hawdd. Yma, bydd modd i weithwyr proffesiynol a pherchnogion busnesau bach weithio a sefydlu perthynas fusnes ragorol.
Mae cynlluniau'r prosiect i Ailddatblygu'r Llys yn bosibl diolch i gyllid, sef £250,000, gan Dasglu'r Cymoedd a £50,000 arall o Gronfa Buddsoddi Prosiectau Mawr y Cyngor. Bydd yr adeilad newydd hefyd yn cynnwys caffi a champfa llawn offer ar gyfer defnyddwyr yr adeilad.
Gan weithio gyda'r Cyngor, mae Cymdeithas Tai Rhondda hefyd yn datblygu cynllun peilot, 'Desg', sef mannau gwaith sy'n cael eu rhannu yn ei swyddfeydd yng nghanol Tonypandy ar ôl sicrhau £49,400 gan Dasglu'r Cymoedd.
Mae disgwyl i'r mannau gwaith sy'n cael eu rhannu fod ar y llawr gwaelod, gyda staff Cymdeithas Tai Rhondda ar y lloriau uchaf. Bydd y datblygiad yn cynnwys 12 man gwaith o ansawdd uchel, band eang cyflym iawn, ystafelloedd cyfarfod preifat, cyfleusterau cegin, mynediad i'r anabl a derbynfa.
Wedi ei bostio ar 04/03/2021