Skip to main content

Cyngor RhCT yn cefnogi Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd

food-waste

Yn ystod yr Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd eleni (1-7 Mawrth), mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn i drigolion feddwl cyn iddyn nhw siopa am fwyd bob wythnos. 

Mae bwyd coll neu wastraff bwyd yn cyfrif am 8-10% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu hachosi gan bobl. 

Bydd Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd gyntaf erioed y DU yn rhedeg o ddydd Llun 1 Mawrth i ddydd Sul 7 Mawrth 2021. Bydd yn dod â dinasyddion a sefydliadau o feysydd manwerthu, gweithgynhyrchu, llywodraeth leol, lletygarwch ac ar draws y byd diwydiant, ynghyd i ddangos effaith gwastraffu bwyd ar bobl, ar fusnes, ac ar y blaned. 

Mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion brynu'r hyn sydd ei angen yn unig wrth archebu neu brynu bwyd bob wythnos, yn ogystal â meddwl ymlaen llaw i leihau'r bwyd y maen nhw'n ei wastraffu. Does dim modd bwyta rhai eitemau bwyd e.e. pilion llysiau, plisg wyau, esgyrn ac ati. Mae modd ailgylchu'r eitemau yma'n rhan o gynllun casglu gwastraff bwyd ymyl y ffordd wythnosol y Cyngor.  

Mae'r rhan fwyaf o drigolion RhCT bellach yn ailgylchu eu bwyd dros ben. Ers mis Ionawr mae dros 1800 tunnell o wastraff bwyd wedi'i gasglu a'i ailgylchu. Mae hyn, wrth ei droi'n ynni yn y safle ailgylchu gwastraff bwyd ym Mryn Pica, Llwydcoed, yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer dros 180 o gartrefi.

Os dydych chi ddim wedi cofrestru eto, mae modd i chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd.

Diolch i gynllun ailgylchu gwastraff bwyd y Cyngor a'r biniau ar wahân ar gyfer gwastraff bwyd, mae'n hawdd gweld faint o fwydydd rydyn ni'n eu taflu.

Drwy gadw golwg ar faint o fwyd rydyn ni'n ei wastraffu, gallwch chi ystyried maint dognau a'r rhestr siopa wythnosol, cyfyngu ar faint o fwyd rydych chi'n ei brynu a'r gwastraff, ac arbed arian.

Yn y DU, rydyn ni'n taflu bwyd gwerth o leiaf £10 biliwn bob blwyddyn y gallen ni fod wedi'i fwyta –

  • Rydyn ni'n taflu rhyw 1.6 miliwn o fananas heb eu cyffwrdd bob blwyddyn.
  • 1.3 miliwn o iogyrtiau heb eu hagor bob dydd.
  • 600,000 o wyau heb eu coginio bob dydd.
  • 1.2 miliwn o selsig heb eu bwyta.
  • 20 miliwn o dafellau o fara bob dydd.

Dyna lawer o frechdanau selsig ac wyau!

Pe bai pawb yn y Fwrdeistref Sirol yn ailgylchu gwastraff bwyd, byddai'n atal 30% o wastraff rhag mynd yn eu bagiau du. Mae traean o'r hyn mae trigolion yn ei daflu yn wastraff bwyd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

"Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy o drigolion nag erioed yn cymryd rhan yn y cynllun ailgylchu gwastraff bwyd! Rydyn ni wrth ein bodd bod cynifer o bobl yn gweld pa mor hawdd yw hi i ailgylchu'ch gwastraff bwyd.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas i ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl. Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod cerbydau o safon uchel a chyfleusterau sy'n hawdd eu defnyddio ar gael er mwyn cynnal gwasanaeth ailgylchu dibynadwy.

“Mae gyda ni safle ailgylchu gwastraff bwyd penodol ym Mryn Pica, Llwydcoed, sy'n gweld mwy o wastraff nag erioed yn cael ei droi'n ynni ar gyfer cartrefi.

“Rydyn ni eisiau llwyddo mewn partneriaeth â'n cymunedau ni, a dyna pam rydyn ni'n darparu cynllun casglu gwastraff ailgylchu a gwastraff bwyd wythnosol ymyl y ffordd sy'n rhad ac am ddim, yn ogystal â chyfleusterau yn y gymuned a mentrau addysg a chodi ymwybyddiaeth.

Hoffech chi ragor o wybodaeth am gynllun ailgylchu gwastraff bwyd y Cyngor? Hoffech chi ofyn am gadi bach i'r gegin? Ewch i www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd

Wedi ei bostio ar 03/03/21