Skip to main content

Gostwng y terfyn cyflymder mewn 22 o leoliadau gan gynnwys mannau sy'n agos i ysgolion

Speed limits hirwaun

Mae'r Cyngor yn y broses o gyflwyno terfyn cyflymder is o 20mya mewn 22 o leoliadau cymunedol, gan gynnwys mewn mannau sy'n agos i ysgolion. Mae hyn er mwyn creu amgylchedd mwy diogel lle does dim llawer o le i gadw pellter cymdeithasol.

Sicrhawyd arian grant COVID-19 Llywodraeth Cymru ar gyfer dau gynllun arbrofol tebyg mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol.  Bydd y cyntaf yn gweld parthau 20mya yn cael eu cyflwyno ar strydoedd o amgylch 16 ysgol.  Yn dilyn hysbyiad cyhoeddus, mae'r parthau'n cael eu cyflwyno fesul cam o 10 Mawrth, gan ddechrau ym mhob lleoliad pan fydd arwyddion yn cael eu codi.

Bydd yr ail gynllun yn cyflwyno'r un mesur mewn chwe chanol tref neu bentref, lle gwelwyd rhagor o gerdded a beicio yn ystod y pandemig.  Cyhoeddwyd hysbysiadau cyhoeddus ar gyfer y newidiadau yma ar 17 Mawrth, a bydd y parthau 20mya yn dod i rym fesul cam o 24 Mawrth.

Mae'r ddau gynllun yn cael eu gweithredu o dan orchymyn traffig arbrofol 18 mis, gyda'r bwriad o'u gwneud yn barhaol yn y dyfodol.  Mae'r Cyngor yn gweithio tuag at gwblhau'r arwyddion ar draws pob un o'r 22 lleoliad, a bydd yn croesawu adborth am y newidiadau yn y chwe mis cyntaf wedi iddyn nhw ddod i rym.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Trwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid grant ar gael i awdurdodau lleol. Mae'r cyllid yma i helpu awdurdodau lleol wneud newidiadau pwysig i seilwaith priffyrdd o fewn cymunedau er mwyn hwyluso cadw pellter cymdeithasol a lleihau lledaeniad y feirws - yn enwedig mewn lleoliadau prysur a chyfyng.  

“Er enghraifft, mae'r Cyngor wedi derbyn cyllid o'r blaen i newid palmentydd mewn arosfannau bysiau wedi'u targedu i greu rhagor o le i'r rhai sy'n aros i ddal bws.  Gwnaed y newidiadau mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Stryd Catrin ym Mhontypridd a Heol Pontypridd yn y Porth.  Cyhoeddodd y Cyngor hefyd ym mis Ionawr ei fod yn treialu technoleg ddi-gyffwrdd ar chwe croesfan i gerddwyr.

“Mae'r cyllid diweddaraf yn galluogi cyflwyno terfynau cyflymder yn ymyl ysgolion wedi'u targedu ac mewn canol trefi neu bentrefi - ardaloedd sydd â lle cyfyngedig ar gyfer cadw pellter cymdeithasol neu sydd wedi gweld cynnydd diweddar mewn cerdded neu feicio.  Mae hwn yn fater penodol y tu allan i rai ysgolion yn ystod amseroedd gollwng a chasglu, ac mae'r terfyn 20mya newydd yn anelu at wella diogelwch ar y ffyrdd bob bore a phrynhawn.”

Cyhoeddwyd rhestr gynhwysfawr o'r holl strydoedd sy'n cael eu heffeithio ar wefan y Cyngor, yn www.rctcbc.gov.uk/traffig.  Mae'r rhestr isod yn cynnwys crynodeb ehangach o'r ysgolion/cymunedau sydd wedi'u cynnwys yn y newidiadau.

Ysgolion (fesul cam o 10 Mawrth) 

  • Ysgol Gynradd Coed-y-lan, Pontypridd
  • Ysgol Gynradd Dolau, Llanharan
  • Ysgol Gymuned Glynrhedynog
  • Ysgol Ffynnon Taf, Ffynnon Taf
  • Ysgol Gynradd y Gelli, Ystrad
  • Ysgol Gynradd Gwauncelyn, Ton-teg
  • Ysgol Gynradd Hirwaun
  • Ysgol Gynradd Llanharan
  • Ysgol Gynradd Llwydcoed
  • Ysgol Gynradd Maes-y-bryn, Llanilltud Faerdref
  • Ysgol Gynradd Oaklands, Aberaman
  • Ysgol Gynradd Gymuned Pen-pych, Blaenrhondda
  • Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru, Cwmdâr
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Cwmdâr
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn, Y Gelli
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Llanhari 

Canol Trefi/Pentrefi (fesul cam o 24 Mawrth)

  • Glynrhedynog
  • Meisgyn, Pont-y-clun
  • Y Porth
  • Tonysguboriau
  • Tonypandy
  • Treorci
Wedi ei bostio ar 19/03/21