Skip to main content

Dyddiad ailagor Pont M&S ym Mhontypridd wedi'i gadarnhau

M&S bridge - in place

Mae'r Cyngor yn falch o gadarnhau y bydd Pont Parc Ynysangharad (M&S) ym Mhontypridd yn ailagor yn ddiweddarach yr wythnos yma, gan fod y cynllun sylweddol i atgyweirio'r strwythur yn dilyn Storm Dennis bron â gorffen.

Caewyd y bont, sy'n un o dri phrif fynedfa i Barc Coffa Ynysangharad, ar unwaith ym mis Chwefror 2020 gan nad oedd hi'n ddiogel. Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i atgyweirio'r difrod, a chyhoeddodd yn yr haf y llynedd gynlluniau i gyflawni'r gwaith ar y safle gan ddefnyddio ardal yn y parc.

Yn dilyn hynny, dechreuwyd gwaith paratoi ym mis Hydref a chodwyd y bont o'i safle dros yr Afon Taf ym mis Tachwedd.  Roedd y cynllun yn cynnwys chwythellu grut, paentio ac ailosod berynnau wedi'u difrodi – cyn i'r bont gael ei chodi yn ôl i'w lle yn y flwyddyn newydd i ddechrau ar y gwaith mireinio.

Cadarnhawyd y bydd y bont yn cael ei hailagor erbyn dydd Gwener, 19 Mawrth. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol o ran pryd y bydd y bont yn barod i'w hagor, fel bod modd i drigolion ddechrau ei defnyddio.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r cadarnhad y bydd Pont M&S yn ailagor yn ddiweddarach yr wythnos yma yn newyddion gwych. Rydw i'n siŵr y bydd trigolion, busnesau ac ymwelwyr â chanol tref Pontypridd yn eu croesawu.  Bydd yn adfer mynedfa i Barc Coffa Ynysangharad ym mhen uchaf y dref, gan gynyddu mynediad i ymwelwyr. 

“Mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i atgyweirio'r difrod enfawr i'r seilwaith a achoswyd gan Storm Dennis a digwyddiadau tywydd dilynol eraill y llynedd.  Ym mis Chwefror 2021, blwyddyn yn union ers y storm, rhoddodd y Cyngor ddiweddariad manwl ar y gwaith mawr sy'n mynd rhagddo ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae gwaith pwysig ar strwythurau allweddol ar fin symud ymlaen yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnwys y Bont Wen ym Mhontypridd a wal yr afon ar Heol Blaen-y-Cwm.

“Cadarnhaodd y diweddariad hefyd yr ymchwiliwyd i fwy na 2,500 o adroddiadau am lifogydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ynghyd ag archwilio 48 cilomedr o asedau cwrs dŵr. Arweiniodd y gwaith archwilio yma at symud 2,000 tunnell o falurion. Croesawodd y Cyngor hefyd gyllid (£4.4 miliwn) gan Lywodraeth Cymru tuag at ei waith atgyweirio.

“Mae Pont M&S wedi bod yn gynllun blaenoriaeth i'r Cyngor, a chafodd ei gwblhau mewn pryd ar gyfer dechrau'r gwanwyn – gan ein bod ni'n cydnabod pwysigrwydd y fynedfa yma, sy'n cael ei defnyddio'n helaeth, i un o barciau mwyaf poblogaidd y Fwrdeistref Sirol.”

Wedi ei bostio ar 16/03/2021