Skip to main content

Cau Ffordd Mynydd y Rhigos am 2 noson yr wythnos yma

Rhigos Mountain Road -12

Dyma roi gwybod i drigolion a defnyddwyr y ffordd y bydd angen cau ffordd yr A4061, Ffordd Mynydd y Rhigos ar nos Iau a nos Wener yr wythnos yma er mwyn lleihau aflonyddwch.

Bydd y llwybr prysur yma, rhwng Hirwaun a Threherbert, ar gau i holl ddefnyddwyr y ffordd rhwng 7pm a 5am nos Iau, 25 Mawrth a nos Wener, 26 Mawrth - bydd y gwaith ar yr ail noson yn dod i ben am 5am, fore Sadwrn.

Mae angen cau'r ffordd yma ar frys er mwyn mynd i'r afael â phroblem sydd wedi datblygu ar ran fach o'r ffordd gerbydau.

Nodwch, byddwn ni ond yn cau'r ffordd os bydd y tywydd yn caniatáu hynny, a bydd arwyddion clir yn dangos y llwybr amgen i ddefnyddwyr y ffordd. Fodd bynnag, bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd ymlaen llaw am eu cydweithrediad, wrth i ni gynnal gwaith i ddatrys y broblem yma dros nos.
Wedi ei bostio ar 24/03/2021