Skip to main content

Dyrannu Grant Refeniw Cynnal a Chadw Ffyrdd i Gyngor Rhondda Cynon Taf

Resurfacing pic 2

Mae'r Cyngor wedi derbyn cyllid newydd o dros £750,000 gan Lywodraeth Cymru i gyfrannu tuag at gynnal a chadw ffyrdd ledled y Fwrdeistref Sirol.

Dyfarnwyd y cyfraniad sylweddol, o Grant Refeniw Cynnal a Chadw Ffyrdd Llywodraeth Leol 2020/21, ar 15 Mawrth. Cafodd cyllid ei ddyrannu i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn rhan o'r Grant, a bydd y £756,621 i Rondda Cynon Taf yn ategu buddsoddiad cynnal a chadw ffyrdd pwysig y Cyngor ei hun yn rhan o’i Raglen Gyfalaf y Priffyrdd flynyddol.

Roedd Rhaglen eleni (ar gyfer 2020/21) yn cynnwys Rhaglen Buddsoddi mewn Priffyrdd gwerth £7.6 miliwn, gan gynnwys £6.3 miliwn ar gyfer y ffyrdd ac £1.3 miliwn ar gyfer llwybrau cerdded. Daw hynny o fuddsoddiad cyffredinol o £25.02 miliwn ar gyfer y gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

Mae buddsoddi parhaus yn y maes yma wedi lleihau canran y ffyrdd yn Rhondda Cynon Taf sy'n galw am waith cynnal a chadw, gan gymharu'n ffafriol ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Yn ôl ffigyrau’r llynedd, roedd angen buddsoddiad ar 4.7% o ffyrdd 'A' lleol o gymharu â 16.2% naw mlynedd yn ôl. Mae tuedd debyg i'w gweld gyda'r ffyrdd 'B' (15.2% i 6.2%) a ffyrdd 'C' (15.3% i 3.5%).

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch bod y Cyngor wedi derbyn cymorth ychwanegol pwysig gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn cyfrannu at gynnal a chadw a diogelu ffyrdd lleol yn y dyfodol. Dyma faes buddsoddi sy'n parhau i gael ei flaenoriaethu gan y Cyngor yma.

“Bydd swyddogion yn parhau i fynd ar drywydd cyllid allanol ar gyfer prosiectau cynnal a chadw ffyrdd a phrosiectau trafnidiaeth strategol, i ategu ein Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd sylweddol. Yn eu cyfarfod ym mis Mawrth 2021, bydd Aelodau'r Cabinet yn trafod y Rhaglen ddiweddaraf, sy'n cynnig buddsoddiad o £25.025 miliwn ar draws y gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, 2021/22.

“Mae’r cymorth diweddaraf yma gan Lywodraeth Cymru yn dilyn dyraniad o £4.4 miliwn y mis diwethaf, blwyddyn union ar ôl Storm Dennis, ar gyfer ymdrechion parhaus y Cyngor i atgyweirio'r seilwaith yn dilyn y llifogydd mwyaf ers y 1970au a effeithiodd ar bron i 1,500 o eiddo.”

Wedi ei bostio ar 22/03/21