Skip to main content

Gwaith i'w gyflawni ledled Llantrisant i wella diogelwch ar y ffyrdd

llantrisant safe routes 2

Cyn bo hir, bydd y Cyngor yn dechrau ar ei waith i ddarparu cynllun Llwybrau Diogel yn Llantrisant. Bydd y cynllun yn cyflwyno mesurau diogelwch newydd ar y ffyrdd gyda'r nod o fynd i'r afael â phryderon trigolion ynghylch cyflymder y traffig lleol a faint ohono sydd.

Bydd y gwaith, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn cychwyn ddydd Llun, 15 Mawrth. Mae hyn yn dilyn proses ymgysylltu â'r cyhoedd y mis diwethaf i roi gwybod i drigolion am y cynlluniau a'u gwahodd i gael dweud eu dweud. Bydd y cynllun yn:

  • Gwella troedffyrdd, palmentydd cyffyrddol a chyrbau isel mewn sawl lleoliad ledled y dref.
  • Gweithredu cyfres o fesurau arafu traffig, gan gynnwys terfyn cyflymder 20mya newydd ar hyd y B4595 a therfyn cyflymder o 30mya ar Gomin Llantrisant.
  • Gosod llwyfandir cyffordd newydd rhwng y B4595 a Dan Caerlan.
  • Gosod terfyn pwysau 7.5 tunnell newydd ar gyfer pob cerbyd sy'n teithio trwy'r dref - ar wahân i'r rhai sydd angen mynediad i adeiladau lleol.

Mae'r Cyngor wedi penodi Alun Griffiths (Contractors) Ltd. yn gontractwr sydd â chyfrifoldeb am gyflawni'r gwaith - a fydd yn para tua chwe wythnos. Er mwyn cwblhau'r cynllun a gwneud gwelliannau'n ddiogel, bydd angen mesurau rheoli traffig lleol mewn lleoliadau gwahanol ac yn ystod cyfnodau gwaith gwahanol. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i aflonyddu cyn lleied â phosibl ar y gymuned leol.

Bydd angen cau'r ffordd er mwyn gosod llwyfandir y gyffordd yn Dan Caerlan. Unwaith y bydd y trefniadau terfynol wedi'u cadarnhau, bydd contractwr y Cyngor yn ysgrifennu at drigolion lleol i roi rhybudd ymlaen llaw iddyn nhw am y ffordd fydd yn cael ei chau, ac i amlinellu'r manylion mewn perthynas â llwybrau amgen i yrwyr.

Mae'r gwaith yma a fydd yn cael ei gyflawni mewn sawl lleoliad yn Llantrisant, wedi'i gynllunio o ganlyniad i bryderon a ddaeth i sylw'r Cyngor ynghylch lefel uchel y traffig yn y dref a'r cyflymder y mae gyrwyr yn teithio. Mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid llawn gan gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r newidiadau hyn.

Mae’n dilyn nifer o gynlluniau Llwybrau Diogel sydd wedi'u cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf - gan gynnwys y rheiny yng Nghwmaman, Tonypandy, Tonyrefail a Threorci sydd wedi digwydd ochr yn ochr â gwelliannau yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yr ardaloedd hynny yn 2018/19. Cafodd gwaith tebyg i wella diogelwch ar y ffyrdd a hyrwyddo cerdded a beicio lleol, hefyd ei gwblhau yn Llwynypia ac Abercynon yn 2020. Mae gwaith i gyflawni gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd trwy Gilfynydd hefyd wedi cychwyn yn ddiweddar, ac mae hwnnw'n cael ei gyflawni ochr yn ochr â chynllun Llantrisant dros yr wythnosau nesaf.

Bydd y gwaith yn Llantrisant yn cychwyn ddydd Llun. Bydd y gwaith yn gofyn am gyfnodau lleol o reoli traffig wrth i’n contractwr symud rhwng pob lleoliad. Yn rhan o'r gwaith, bydd angen cau ffordd ac fe fydd trigolion lleol yn cael gwybod am hyn trwy lythyr maes o law. Hoffai’r Cyngor ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd ymlaen llaw am eu cydweithrediad wrth i ni gyflawni'r cynllun pwysig yma.

Wedi ei bostio ar 15/03/21