Mae'r Cyngor wedi derbyn £13 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau Priffyrdd a Thrafnidiaeth. Bydd hefyd yn elwa ar gyllid newydd sydd wedi'i ddyrannu i Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Daeth cadarnhad i law o'r grantiau canlynol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 ar 19 Mawrth:
- Y Gronfa Trafnidiaeth Leol (£1.47 miliwn) - cynlluniau seilwaith economaidd sylweddol ledled y Fwrdeistref Sirol, gwaith gwella'r coridor bysiau ar hyd Pontypridd-Pentre'r Eglwys-Tonysguboriau-Brynna a Phorth-Tonyrefail-Y Gilfach-goch, a gwaith dylunio a datblygu cyfleoedd Parcio a Theithio a chynlluniau seilwaith pellach.
- Y Gronfa Ffyrdd Cydnerth (£2.75 miliwn) - datblygu gwaith draenio wedi'u targedu i wneud ffyrdd lleol yn fwy cydnerth pan fydd glaw trwm mewn 19 o leoliadau wedi'u nodi yng Nghwm Cynon a Chymoedd y Rhondda.
- Y Gronfa Teithio Llesol (£3.76 miliwn) - dyraniad craidd o £1.12 miliwn, ynghyd â chyllid ar gyfer adlinio Llwybr Taith Taf, Llwybr Teithio Llesol Treorci (cam un) a chynllun adeiladau pont droed newydd yn Stryd y Nant. Bydd cyllid craidd yn cael ei ddyrannu i ystod o fentrau a chynlluniau gwella gan gynnwys llwybr ar gyfer Cwm Rhondda Fach a gwaith pellach mewn perthynas â Thwnnel Aber-nant.
- Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (£341,000) - dylunio a datblygu cynllun i greu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr/beicwyr yn Nhon-pentre.
- Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd (£93,500) - er mwyn gorfodi cyflymder cyfartalog ar Heol Penrhys, y B4512, a phrynu dyfeisiau sy'n nodi a chofnodi cyflymder.
- Grant Refeniw Diogelwch ar y Ffyrdd (£101,000) - er mwyn parhau i gyflenwi'r cwrs Pass Plus, ynghyd â sesiynau Safon Genedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Beicio a sesiynau Kerbcraft sy'n cael eu cynnal mewn ysgolion lleol.
Yn ogystal â hyn, cafodd £8 miliwn o'r Gronfa Drafnidiaeth Leol ei ddyfarnu i Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer gwaith gwella Metro De Cymru yn 2021/22. Yn rhan o hyn mae cyllid i ddatblygu Cyfnewidfa Drafnidiaeth Porth, a chyllid penodol ar gyfer y Metro i fwrw ymlaen â chynlluniau sy'n berthnasol i Rondda Cynon Taf. Y gwaith yma fydd Coridor Trafnidiaeth Gyhoeddus Gogledd-orllewin Caerdydd, ymestyn gwasanaethau rheilffordd i Hirwaun, gwasanaeth Parcio a Theithio ar gyfer gorsaf newydd Glan-bad/Trefforest a chynlluniau i gysylltu'r cymoedd.
Mae dros £4.8 miliwn hefyd wedi'i ddyrannu i roi seilwaith gwefru cerbydau trydan ar waith ac annog pobl i brynu a defnyddio cerbydau trydan. Mae'r Cyngor wedi cefnogi hyn yn rhan o Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Yn olaf, mae'r Cyngor hefyd wedi cadarnhau gwerth £5.2 miliwn o gyllid newydd, ychwanegol y mis yma ar gyfer y flwyddyn 2020/21, gan gynnwys dyraniadau tuag at gynlluniau priffyrdd, Teithio Llesol, Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a Ffyrdd Cydnerth.
Wedi ei bostio ar 25/03/2021