Skip to main content

Cefnogi ein Cynhalwyr Ifainc

Young Carer ID card logo

Mae cynhalwyr ifainc ar draws Rhondda Cynon Taf yn gwneud rôl hanfodol ar gyfer nifer fawr o unigolion trwy gydol y flwyddyn. I gyd-fynd â Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc eleni (dydd Mawrth, 16 Mawrth), mae'r Cyngor yn lansio ei Gerdyn Adnabod newydd a chyffrous ar gyfer Cynhalwyr Ifainc.

Gan weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, mae'r Cyngor yn cefnogi prosiect cenedlaethol Llywodraeth Cymru i ddarparu cardiau adnabod ar gyfer cynhalwyr ifainc. Bydd hyn yn helpu pob un o'n cynhalwyr ifainc i gael eu hadnabod, teimlo eu bod wedi'u dilysu, a derbyn y gefnogaeth y maen nhw'n ei haeddu.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf ymhlith y grŵp cyntaf o awdurdodau lleol yng Nghymru i lansio Cerdyn Adnabod ar gyfer Cynhalwyr Ifainc yn rhan o'r prosiect cenedlaethol.  Bydd y cerdyn yma'n helpu athrawon, meddygon teulu, fferyllwyr a gwasanaethau eraill, adnabod cynhalwyr ifainc a rhoi cefnogaeth briodol iddyn nhw. 

Bydd cerdyn adnabod cynhalwyr ifainc RhCT yn cynnwys llun o'r cynhaliwr ifanc, dyddiad dod i ben, ynghyd â gwybodaeth gyswllt ar gyfer yr awdurdod lleol a gwasanaeth cynhalwyr ifainc.  Mae pob cerdyn yn arddangos logo cerdyn adnabod Cynhalwyr Ifainc cenedlaethol a ddyluniwyd gan ddau gynhaliwr ifanc, yn dilyn cystadleuaeth genedlaethol yn 2019.

Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Faterion Plant:

“Mae'n rhan o fywyd teuluol arferol i lawer o blant helpu gyda thasgau domestig yn y cartref ac o'i gwmpas a gyda gofal plant iau. 

“Serch hynny, mae gan rai plant a phobl ifainc ymrwymiadau llawer mwy na rhai eraill.  Mae pobl ifanc sy'n gofalu am rieni neu frodyr a chwiorydd sâl neu anabl yn gwneud hynny allan o gariad wrth gwrs, ac yn aml maen nhw'n cael y rôl yn werth chweil, ond i rai, heb gefnogaeth gall eu rôl gael effaith negyddol arnyn nhw.

“Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi a rheoli gweithgareddau beunyddiol ei holl gynhalwyr ifainc wrth i ni gydnabod y rôl hanfodol y maen nhw'n ei chwarae yn ein cymunedau, yn enwedig yn ystod yr amseroedd heriol yma.

“Hoffwn ddiolch i'n holl gynhalwyr ifainc, sy'n aml yn gwneud eu gwaith gofalu tra hefyd yn ymgymryd â'u gwaith ysgol neu goleg eu hunain.  Rydw i wedi cwrdd â llawer o'r bobl ifainc yma - maen nhw'n wirioneddol ysbrydoledig ac yn gwbl ymroddedig i'w rolau.”

Cardiau adnabod ar gyfer cynhalwyr ifainc - Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Mae pob cynhaliwr ifanc sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf bellach yn gymwys i gael Cerdyn Adnabod ar gyfer Cynhalwyr Ifainc. Mae hyn yn ychwanegiad gwerthfawr at y gwasanaethau cymorth presennol sydd ar gael iddyn nhw gan yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol a sefydliadau eraill, gan gynnwys ysgolion. 

Meddai Julie Morgan, AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

“Hoffwn ddiolch i bob un cynhaliwr ifanc a'r holl gynhalwyr sy'n oedolion ifainc am y gefnogaeth wych y maen nhw ei rhoi i deulu a ffrindiau yn ystod yr amseroedd anodd yma. 

“Hyd yn oed cyn i'r pandemig ddechrau, roedden ni'n gwybod bod cynhalwyr ifainc a chynhalwyr sy'n oedolion ifainc yn wynebu llawer o bwysau wrth ofalu am rywun.  Mae'r 12 mis diwethaf wedi dangos i ni, yn anffodus, bod llawer o bobl ddim yn gwybod sut i adnabod, helpu na chefnogi cynhalwyr ifainc. 

“Bydd y cerdyn adnabod cenedlaethol yma'n rhoi ffordd gyflym i gynhalwyr ifainc roi gwybod i'w hathrawon, staff archfarchnadoedd, fferyllfeydd neu eu meddygfa, eu bod yn edrychar ôl rhywun.  Bydd hefyd yn eu helpu i gael mynediad at eu hawliau o dan ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gynnwys eu hawl i asesiad o'u hanghenion fel cynhalwyr.

“Rydw i'n falch ein bod ni'n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i sicrhau bod pob ardal yng Nghymru yn cynnig cerdyn adnabod i’w cynhalwyr ifainc erbyn 2022.   Trwy gydweithio gallwn ni i gyd ddarparu gwell cefnogaeth a chydnabyddiaeth i gynhalwyr ifainc ledled Cymru.”

Cynhalwyr ifainc yw plant a phobl ifainc sy'n gofalu am rywun oherwydd ei fod yn sâl, yn anabl, yn oedrannus, yn cael ei effeithio gan broblemau iechyd y meddwl neu'n camddefnyddio sylweddau. Gall cynhalwyr ifainc fod yn bobl ifainc sy'n cymryd cyfrifoldeb sylweddol trwy helpu i ofalu am frawd neu chwaer sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth hefyd.

Meddai Kate Cubbage, Pennaeth Materion Allanol ar gyfer Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:

“Mae cynhalwyr ifainc ledled Cymru wedi galw ers amser maith am gerdyn adnabod i’w helpu i gael y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.  Rydyn ni'n falch iawn bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn lansio ei gerdyn adnabod yn rhan o'r model cenedlaethol newydd y Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc yma. Edrychwn ymlaen at weld cerdyn adnabod ar gyfer pob ardal yng Nghymru erbyn 2022.

“Bydd y cerdyn a’r adnoddau ategol ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn helpu i rymuso cynhalwyr ifainc i siarad yn agored â gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg am eu hanghenion. 

“Rydyn ni'n falch ein bod ni wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff proffesiynol ledled Cymru i wneud cynnydd mor gadarnhaol i gynhalwyr ifainc.”

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, wedi ymrwymo i gefnogi cynhalwyr ifainc. I gael rhagor o wybodaeth am gymorth i gynhalwyr ifainc yn Rhondda Cynon Taf, ewch i'n gwefan

 

Wedi ei bostio ar 15/03/21