Skip to main content

Y Newyddion diweddaraf am gaeau chwaraeon â glaswellt yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, mae modd i'r Cyngor gadarnhau y bydd modd defnyddio caeau agored o yfory, dydd Sadwrn, 27 Mawrth - gyda phob cae chwarae â glaswellt yn ailagor ar gyfer sesiynau hyfforddi i dimau iau yn unig o ddydd Llun, 29 Mawrth.

Mae'r Cyngor yn disgwyl arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru, felly bydd y trefniadau oedd ar waith yn ystod y cyfyngiadau symud diwethaf yn cael eu rhoi ar waith unwaith eto am y tro:

  • Timau Dan 6 oed - Dan 11 oed - Uchafswm o 2 grŵp o 35 o bobl (gan gynnwys chwaraewyr a hyfforddwyr) ar gae llawn neu 1 grŵp o 35 (gan gynnwys chwaraewyr a hyfforddwyr) ar hanner cae.
  • Timau Dan 12 oed - Dan 18 oed - Uchafswm o 40 o bobl (gan gynnwys chwaraewyr a hyfforddwyr) ar gae llawn neu 20 (gan gynnwys chwaraewyr a hyfforddwyr) ar hanner cae.
  • Nid yw Cynorthwywyr Cymorth Cyntaf a Swyddogion Covid wedi'u cynnwys yn y niferoedd yma.
  • Rhaid i dimau gyrraedd y sesiwn yn barod i hyfforddi.  Ni fydd ystafelloedd newid na chawodydd ar gael i'w defnyddio, ond bydd modd cael mynediad iddyn nhw (ble'n bosibl) er mwyn defnyddio'r toiledau'n unig. Rhaid i'r clwb lanhau'r cyfleusterau yma cyn eu defnyddio ac ar ôl gan weithredu trefniadau un i mewn/un allan.
  • Ni chaniateir unrhyw wylwyr.

Bydd caeau pob tywydd yn ailagor nes ymlaen a gofynnir i glybiau chwaraeon gysylltu â'r Cyngor i ddarparu manylion eu gofynion penodol.

Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n gyson a bydd y Cyngor yn rhannu'r newyddion diweddaraf gyda chi unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu newidiadau pellach gyda ni.

Wedi ei bostio ar 26/03/21