Skip to main content

Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd

housing generic

Mae cynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd, y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi'i arwain trwy'r Gwasanaeth Strategaeth Tai a Buddsoddi, bellach wedi dod i ben yn llwyddiannus.

Mae'r Awdurdodau Lleol yn Ardal Tasglu'r Cymoedd hefyd yn cynnwys Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerfyrddin, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Thorfaen.

Yn ystod haf 2019, buddsoddodd Tasglu'r Cymoedd £10 miliwn er mwyn ariannu'r gwaith o adfer Cartrefi Gwag. Cafodd Cyngor RhCT ei benodi'n awdurdod arweiniol ar ran ardal Tasglu'r Cymoedd yn sgil ei arbenigedd yn dilyn menter a model Grant Cartrefi Gwag llwyddiannus blaenorol y Cyngor. Yn dilyn llwyddiant y rhaglen ar ôl Cam 1, cafodd £2 filiwn arall ei ymrwymo i'r cynllun.

Cafodd Cynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd ei gyflwyno er mwyn adfer cartrefi gwag trwy roi grantiau o hyd at uchafswm o £20,000 i berchnogion tai, ynghyd â £5,000 pellach posibl ar gyfer mesurau ynni adnewyddadwy yn ystod Cam 2, i drawsnewid eiddo'n gartrefi diogel y mae modd byw ynddyn nhw.

Mae'r ymateb i'r grant a'r nifer a dderbyniodd y grant wedi bod yn gadarnhaol dros ben. Cafodd 680 o geisiadau eu prosesu a chafodd £10.3 miliwn o arian grant ei ymrwymo ar draws holl Awdurdodau Lleol y Cymoedd.

O'r ffigur yma, daeth 358 cais i law gan berchnogion tai yn Rhondda Cynon Taf, sef 53% o gyfanswm y ceisiadau, gydag ymrwymiad o £5.06 miliwn, neu 49% o'r cyllid grant ar draws RhCT.

Mae buddion y grant yn bellgyrhaeddol, o helpu pobl sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf i gymryd eu cam cyntaf ar yr ysgol eiddo, cael gwared ar bethau sy'n hagru cymunedau lleol, darparu cyfleoedd tai fforddiadwy i drigolion, a chreu gwaith i nifer o gontractwyr lleol. Er gwaethaf yr heriau rydyn ni wedi'u hwynebu o ganlyniad i argyfwng cenedlaethol y Coronafeirws, rydyn ni wedi gwneud cynnydd da ac wedi cyflawni'n deilliannau.

Gan adeiladu ar y llwyddiant uchod, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i barhau gyda'i gynllun Grant Cartrefi Gwag ei hun, gan gynnig cymorth ariannol i drigolion ledled y Fwrdeistref Sirol er mwyn parhau i adfer cartrefi gwag.

Bydd Grant Cartrefi Gwag RhCT yn agor ac yn derbyn ceisiadau ar 1 Ebrill 2021. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, e-bostiwch GrantiauCartrefiGwag@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 25/03/21