Mae'r Cyngor wedi penodi contractwr i gyflawni cynllun sylweddol ar yr A4059 rhwng cylchfannau Asda a Tinney yn Aberdâr. Bwriad y gwaith, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw sicrhau bod y ffordd yn fwy cydnerth yn ystod cyfnodau o law trwm.
Mae'r cynllun gwerth £500,000 yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl gan Grant Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru, a bydd y grant yn caniatáu gwaith ar ran 400 metr o'r ffordd ger yr Afon Cynon sydd wedi bod yn dueddol o orlifo dros y 30 mlynedd diwethaf. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal o'r gogledd i'r groesfan anffurfiol i gerddwyr rhwng Teras Glancynon a chaeau’r Ynys, i'r bont droed agosaf at gylchfan Asda.
Bydd y cynllun yn cynnwys codi lefel a phroffil y ffordd gerbydau, tynnu cyrbau a chyflwyno pantiau bas wrth ochr y ffordd. Diben y gwaith yw sicrhau bod y ffordd yn llai tebygol o ddioddef llifogydd, ac os bydd llifogydd, bydd yn sicrhau bod dŵr yn llifo o'r briffordd yn gyflymach.
Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat yn gontractwr ar gyfer y cynllun yma. Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle yn yr wythnos sy'n cychwyn ddydd Llun, 15 Mawrth, a phara hyd at 8 wythnos. Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd yn ystod y dydd, a bydd y ffordd yn parhau i fod ar agor yn ystod y cyfnodau yma, gyda therfyn cyflymder o 30mya ar waith i sicrhau diogelwch gyrwyr a gweithwyr.
Bydd yr elfennau o'r gwaith sy'n gofyn am oleuadau traffig dros dro neu'n gofyn i gau'r ffordd yn cael eu trefnu er mwyn gwneud y gwaith dros nos i leihau tarfu ar ddefnyddwyr y ffordd. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod ymlaen llaw os bydd y ffordd yn cau.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid sylweddol o hanner miliwn o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r cynllun pwysig yma. Mae stormydd yn dod yn fwy rheolaidd oherwydd newid yn yr hinsawdd, ac mae'r rhan yma o'r A4059 ger canol tref Aberdâr wedi cael ei heffeithio gan lifogydd o dro i dro ers y 1990au, gydag Afon Cynon yn agos iawn ati. Bu'r llifogydd diweddaraf yno yn ystod oriau mân y bore ar 20 Chwefror, pan fu rhybudd ambr mewn grym. Bu'r heol ar gau tan ganol dydd.
“Er ei bod hi'n anodd iawn osgoi llifogydd yn yr ardal yma yn ystod cyfnodau o law trwm, bydd y gwaith yma'n cyfrannu at liniaru llifogydd. Prif fwriad y gwaith yw sicrhau bod y ffordd yn fwy cydnerth ar ôl llifogydd er mwyn i'r dŵr allu llifo'n fwy effeithlon ac i'n galluogi i ailagor y ffordd yn gynt.
“Mae'r Cyngor wedi croesawu cyllid pwysig gan y grant Ffyrdd Cydnerth am nifer o gynlluniau yn ystod y misoedd diwethaf. Ym mis Mehefin 2020, fe wnaeth y Cyngor sicrhau gwerth £3 miliwn o'r cymorth yma gan Lywodraeth Cymru, a hynny er mwyn ariannu cynlluniau draenio ar y briffordd mewn 16 lleoliad yng Nghwm Rhondda a Chwm Cynon. Hyd yma, mae prif waith y cynllun wedi cynnwys Ffordd Lliniaru Porth yn Ynys-hir yn ystod yr haf y flwyddyn ddiwethaf a'r gwaith ar yr A4059 rhwng Pen-y-waun a Threcynon, a ddechreuodd yn y Flwyddyn Newydd."
Mae'r Cyngor yn rhybuddio pobl o'r gwaith sydd i ddod ar yr A4059 ger Aberdâr ymlaen llaw. Dyma roi gwybod i'r rhai sy'n defnyddio'r ffordd y bydd terfyn cyflymder o 30mya mewn grym trwy gydol y gwaith, a bydd angen gosod goleuadau traffig a chau ffyrdd dros nos er mwyn osgoi tarfu ar ddefnyddwyr y ffordd.
Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'i gontractwr i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl, a byddwn ni'n rhannu gwybodaeth am drefniadau ar gyfer unrhyw waith dros nos unwaith y byddan nhw wedi'u cadarnhau."
Wedi ei bostio ar 15/03/2021