Mae'r artist o Gymru, Nathan Wyburn, yn dymuno tynnu sylw at y gwaith y mae rhieni maeth Rhondda Cynon Taf yn ei wneud, drwy oleuo Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty yn oren yn ystod Pythefnos Gofal Maethu.
Mae nifer ohonom ni wedi derbyn cymorth gan ein teuluoedd a'n ffrindiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae angen y cymorth yna yn fwy nag erioed ar nifer o blant a phobl ifainc ym mhob rhan o Gymru.
Wrth i ni ddathlu Pythefnos Gofal Maethu - ymgyrch recriwtio genedlaethol sy'n codi ymwybyddiaeth o faterion gofal maeth, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn galw ar ragor o bobl yn RhCT i feddwl am ddod yn rhieni maeth.
Thema eleni yw '#PamRydynNinMaethu' ac mae Nathan Wyburn, yr artist o Gymru, sy'n adnabyddus am ei ddulliau unigryw o greu gwaith celf, wedi creu darn o waith gan ddefnyddio goleuadau LED i ddangos sut mae modd i unrhyw dŷ ddod yn gartref diogel, llawn cariad.
Meddai Nathan, “Anfonwyd cerdd ataf a oedd yn cwmpasu popeth y mae rhieni maeth yn ei wneud wrth ddarparu dyfodol mwy disglair i blant ledled Cymru. Roeddwn i eisiau creu rhywbeth sy'n dathlu'r ffordd y maen nhw'n agor y drysau i'w cartrefi - a'u calonnau.
“Dewisais droi’r geiriau hynny yn gelf gyda darn o waith sy’n dangos mai cartref yw’r golau llythrennol ym mhen draw'r twnnel i blant a phobl ifanc.
“Un o'r camsyniadau mwyaf ynghylch maethu yn fy marn i yw bod yn rhaid i chi gael tŷ mawr gyda gardd fawr i fod yn rhiant maeth - a dyw hynny ddim yn wir."
Mae geiriau'r gerdd wedi'u gosod ar ben fideo treigl sy'n dangos y darn o gelf yma'n dod at ei gilydd. Mae'n dangos sut mae cyd-destun y gelf yn aneglur, “Dim ond pan fydd y goleuadau'n cael eu troi ymlaen y mae modd gweld y neges yn glir,” ychwanegodd Nathan.
"Mae'n ddarn o waith cadarnhaol iawn sy'n tynnu sylw at bosibiliadau!"
Rydyn ni'n gofyn i bobl ledled RhCT ddangos eu cefnogaeth ar gyfer Pythefnos Gofal Maethu drwy osod lamp yn eu ffenestr flaen nos Iau nesaf (20 Mai) i 'daflu goleuni' ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan Rieni Maeth yr Awdurdod Lleol, a dathlu'u hymdrechion wrth iddyn nhw drawsnewid bywydau plant a phobl ifainc. Bydd adeiladau ledled Cymru, gan gynnwys Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn dathlu'r gwaith arbennig sy'n cael ei wneud drwy oleuo'r adeiladau'n oren.
Meddai'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant. y Cynghorydd Christina Leyshon, "Mae rhieni maeth yn darparu cartrefi diogel i gannoedd o blant a phobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf sydd ddim yn gallu byw gyda'u teuluoedd biolegol".
Mae'r cartrefi hynny'n cynnig cariad, diogelwch a'r tawelwch meddwl sydd wir ei angen ar blant a phobl ifainc sydd yng ngofal Rhondda Cynon Taf. Mae ein rhieni maeth yn gwneud gwaith gwych wrth sicrhau bod modd i'r plant a phobl ifainc lwyddo."
Mae angen cannoedd o deuluoedd maeth newydd bob blwyddyn yng Nghymru er mwyn rhoi gofal i blant o bob oed, yn enwedig brodyr a chwiorydd, plant hŷn a phobl ifainc, plant ag anghenion ychwanegol, a phlant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches.
“Mae yna lawer o gamsyniadau ynglŷn â maethu.” ychwanegodd y Cynghorydd Leyshon:
"Er enghraifft, mae rhai pobl yn meddwl bod angen i chi berchen ar eich cartref eich hun neu fod mewn perthynas - a dydy hyn ddim yn wir.
“Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, ethnigrwydd, crefydd neu rywioldeb. Os oes gennych ystafell wely sbâr a'r amser i'w rhoi i blentyn sydd ei angen fwyaf, yna rydym am glywed gennych. Gallech chi gynnig cartref a gwneud y gwahaniaeth sy'n trawsnewid bywyd plentyn ac sy'n eu helpu nhw i gyflawni'u potensial."
“Bydd gan lawer o bobl yn Rhondda Cynon Taf ystafelloedd sbâr a gall yr ystafelloedd yma ddod yn lloches, gan drawsnewid bywyd plentyn a sicrhau'u bod nhw'n llwyddo.”
Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhannu cynnwys ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy gydol Pythefnos Gofal Maeth i helpu rhagor o bobl i ddeall a gwerthfawrogi gofal maeth a'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae modd i'r gofal yma'i wneud i fywydau pobl ifanc. Os ydych chi'n meddwl bod modd i chi wneud gwahaniaeth trwy ddod yn rhiant maeth yn RhCT, ewch i: www.fostercwmtaf.co.uk
Wedi ei bostio ar 18/05/21