Skip to main content

Gwaith allanol gwerth £10.2 miliwn i Ysgol Gynradd Hirwaun wedi'i gwblhau

Hirwaun Primary

Mae'r Cyngor yn hapus i gyhoeddi, yn sgil buddsoddiad Ysgolion 21ain Ganrif, fod y contractwr Morgan Sindall wedi gorffen gwaith allanol gwerth £10.2 miliwn ar dir Ysgol Gynradd Hirwaun.

Symudodd staff a disgyblion i'w hadeilad newydd sbon yn ystod mis Tachwedd 2020. Maen nhw'n mwynhau amgylchedd dysgu modern ac ysgogol, sy'n dra wahanol i hen adeiladau'r ysgol. Bydd y newidiadau i ddalgylch yr ysgol ar waith ym mis Medi 2021. Bryd hynny, bydd disgyblion o ardal Penderyn yn cael eu croesawu i Ysgol Gynradd Hirwaun. Mae'r Cyngor wedi elwa o gyfraniad o 62% o gynllun Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, gan roi ei gyllid ei hun hefyd er mwyn cyflawni'r cynllun.

Ar ôl i'r adeilad ysgol newydd gael ei gwblhau ym mis Tachwedd 2020, dechreuodd contractwr y Cyngor ganolbwyntio ar fannau allanol tir yr ysgol. 

Roedd hyn yn cynnwys dymchwel hen adeiladau'r ysgol a chreu dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwaraeon, ardal ddysgu mewn coetir, cysgodfa beiciau, buarth a maes parcio. Mae'r gwaith wedi'i gwblhau i raddau helaeth, a rhoddodd y contractwr y safle yn ôl i ddwylo'r Cyngor ddydd Gwener, 30 Ebrill.

Mae rhywfaint o waith heb ei gwblhau eto, er hyn. Rhaid gosod marciau ar lawr yr Ardal Gemau Aml-ddefnydd, ond bydd hyn yn cael ei wneud yn ystod gwyliau hanner tymor. Mae'r cae chwaraeon newydd wedi'i hadu a bydd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol.  Ar ôl cwblhau'r ysgol newydd, mae Morgan Sindall wedi cyfrannu gwisgoedd pêl-droed a phêl-rwyd newydd i Ysgol Gynradd Hirwaun i ategu'r cyfleusterau chwaraeon newydd.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Rwy’n falch iawn bod ardaloedd awyr agored Ysgol Gynradd Hirwaun bellach wedi’u cwblhau. Diolch i fuddsoddiad gwerth £10.2 miliwn mae'r contractwr Morgan Sindall wedi cwblhau'r gwaith a'i roi i'r Cyngor. Heb os, bydd y gwaith o fudd i'r ysgol a'r gymuned ehangach.

“Cefais y pleser o ymweld â staff a disgyblion a'u gweld yn defnyddio eu cyfleusterau newydd ym mis Tachwedd 2020 ac roedd yn wych gweld y modd mae'r hen adeiladau wedi'u gweddnewid, gan gynnig cyfleoedd cyffrous ac amgylchedd dysgu arbennig i ddisgyblion. Dyma gynllun diweddaraf Prosiect Ysgolion 21ain Ganrif sydd wedi'i gwblhau â chymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru – wrth i'r Cyngor barhau i fuddsoddi ym myd Addysg, sy'n faes blaenoriaeth.

“Mae cynlluniau eraill Ysgolion 21ain Ganrif hefyd ar y gweill – YGG Aberdâr yng Nghwmdâr, Ysgol Gyfun Rhydywaun ym Mhen-y-waun ac Ysgol Gynradd Ffynnon Taf yn Ffynnon Taf – yn ogystal â phrosiectau gwerth £38 miliwn ar draws ardal Pontypridd ym mis Medi 2024. Ein bwriad yw cynnig y cyfleusterau gorau i'n pobl ifainc a'n cymunedau.

“Hoffwn ddiolch i holl aelodau carfan prosiect Morgan Sindall am gyflawni'r gwaith yma yn Ysgol Gynradd Hirwaun. Maen nhw wedi gweithio'n agos iawn gyda'r ysgol a'r Cyngor i ddarparu'r cyfleusterau newydd arbennig ar amser, heb darfu fawr ddim, ac o dan amgylchiadau anodd yn sgil pandemig COVID-19. Maen nhw wedi sicrhau bod cyfnod cyffrous ar droed i'r ysgol, gyda chyfleusterau bydd cenedlaethau'r dyfodol yn elwa ohonyn nhw'n fawr.”

Wedi ei bostio ar 12/05/2021