Skip to main content

Cyllid yn helpu lleoliadau gofal plant gyda gwelliannau COVID-ddiogel

Childcare Capital Grant

Mae cyllid Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru gafodd ei sicrhau gan y Cyngor wedi helpu 31 o leoliadau lleol i fwrw ati yn ystod 2021 i wneud gwelliannau COVID-gyfeillgar. Ymhlith y gwelliannau yma mae datblygu mannau awyr agored ar gyfer y lleoliadau.

Yn ystod mis Ionawr 2021, cyhoeddodd y Cyngor ei fod wedi sicrhau £122,000 ychwanegol o Gynllun Grant Cyfalaf Bach y Cynnig Gofal Plant. Cafodd y grant ei sefydlu'n wreiddiol i alluogi lleoliadau gofal plant i wneud gwaith cyfalaf hanfodol neu brynu offer newydd i gynyddu nifer eu lleoedd Cynnig Gofal Plant.

O ganlyniad i'r pandemig, mae'r Cynllun wedi'i addasu i gydnabod yr heriau newydd y mae lleoliadau gofal plant yn eu hwynebu ac mae cyllid bellach ar gael i hyrwyddo'r angen i gadw pellter cymdeithasol ac i helpu i fodloni gofynion glanhau trylwyr.

Cafodd y Cyngor £120,000 o'r Cynllun yn 2019/20, a dyrannwyd y rhan fwyaf o'r arian i leoliadau lleol bryd hynny. Ym mis Ionawr 2021, llwyddodd 31 o leoliadau i gael cyfran o gyllid o £165,000, a oedd yn cynnwys gweddill dyraniad 2019/20 a dyraniad newydd o £122,000 a sicrhawyd gan y Cyngor wrth Lywodraeth Cymru.

Mae pob un o'r 31 lleoliad bellach wedi cwblhau'r prosiectau ynghlwm â'r cyllid yma. Mae'r prosiectau'n cynnwys prynu a gosod adlenni, gazebos neu arwynebau chwarae diogel newydd, ynghyd â gwneud gwaith garddio, prynu offer chwarae a chreu lleoedd i storio offer. Bwriad pob un yw defnyddio lleoedd awyr agored yn well. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys ehangu cyfleusterau toiled a gosod lloriau hawdd i'w golchi yn lle carpedi.

Mae'r 31 o ddarparwyr yn cynnwys 6 lleoliad yng Nghwm Rhondda, 8 yng Nghwm Cynon ac 17 yn ardal Taf-elái. Mae'r lluniau'n dangos prosiectau gorffenedig Home from Home Nursery yn y Porth (chwith uchaf), The Gingerbread House yn Aberdâr (dde uchaf), Gofal Plant Flourish Cymru Child Care yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail (chwith isaf) a Little Inspirations yn Llantrisant (chwith isaf).

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Ers i’r Cyngor gyhoeddi ei fod wedi sicrhau £122,000 ychwanegol o’r Cynllun ym mis Ionawr, rwy'n falch o weld bod pob un o’r 31 lleoliadau gofal plant a gyflwynodd cais llwyddiannus am gyllidbellach wedi gwneud gwelliannau ac yn elwa o’r ddarpariaeth newydd.

“Mae'r gwaith wedi cynnwys ystod o weithgareddau wedi'u targedu'n benodol at helpu lleoliadau addasu i bandemig COVID-19. Er enghraifft, mae rhai o'r prosiectau wedi cynnig rhagor o gyfleoedd i ofalu yn yr awyr agored trwy gyflwyno ardaloedd â chysgod sy'n galluogi'r plant i chwarae y tu allan beth bynnag fo'r tywydd. Mae eraill wedi darparu lleoedd cwbl newydd i helpu gyda chadw pellter cymdeithasol, tra bod cynlluniau eraill wedi cynnwys gwaith adnewyddu neu offer newydd, neu fesurau i helpu gyda gofynion glanhau newydd.

“Mae'n wych gweld yr ystod o brosiectau sydd wedi'u cyflawni, a hoffwn ddiolch i bob un o'r 31 o leoliadau gofal plant am weithio gyda'r Cyngor trwy'r broses ymgeisio a chyflawni'r gwelliannau yma. Bydd y gwelliannau yma'n gwneud gwahaniaeth mawr yn ystod y pandemig ac yn y dyfodol."

Wedi ei bostio ar 17/05/2021