Y Cynghorydd Jill Bonetto yw Maer newydd Rhondda Cynon Taf, ar ôl cael ei phenodi yn 26ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher, 26 Mai 2021.
Dywedodd y Cynghorydd Bonetto, sydd wedi'i hethol i gynrychioli Ward Ffynnon Taf ei bod hi'n edrych ymlaen at fod yn Faer ar Rondda Cynon Taf, bwrdeistref sirol sydd wedi goddef cryn dipyn yn ddiweddar o ganlyniad i effaith y llifogydd difrifol ar drigolion a busnesau, yn ogystal â'r pandemig byd-eang.
Consort y Maer am y flwyddyn i ddod yw Lawrence Bonetto ac Nicola Charlesworth.
Bydd y Maer, y Cynghorydd Jill Bonetto bod yn cefnogi llawer o elusennau yn ystod ei blwyddyn, gan gynnwys Help for Heroes, 2 Wish Upon A Star ac AP Cymru.
Mae'r Cynghorydd Bonetto yn cymryd yr awenau gan Faer blaenorol Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Susan Morgans, sy'n cynrychioli Ward Glynrhedynog.
Wrth annerch Aelodau a swyddogion y Cyngor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, dywedodd y Cynghorydd Morgans: “Mae hi wedi bod yn anrhydedd enfawr i fod yn Faer Rhondda Cynon Taf, er bod fy nghyfnod yn y swydd wedi bod yn dra gwahanol i'r hyn a wynebodd fy rhagflaenwyr.
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn mor anodd i ni i gyd. Rydyn ni wedi dioddef rhai o'r stormydd mwyaf dinistriol er cof byw, ac wedyn y pandemig byd-eang, sy'n dal i effeithio ar ein bywydau hyd heddiw.
“Mae blwyddyn y Maer fel arfer yn llawn dop o ymrwymiadau lle mae modd cwrdd â chynifer o bobl wyneb yn wyneb a mwynhau cwmni eraill. Dros y flwyddyn yma, rydw i wedi parhau i fod yn weithgar iawn yn fy nghymuned fy hun, ac wedi mynd i'r afael â busnes y Cyngor. ”
Dywedodd y Cynghorydd Morgans fod rhai o'i huchafbwyntiau'n cynnwys cael gwahoddiad i oleuo Neuadd Morlais, Glynrhedynog, ar gyfer Diwrnod y Cofio, Diwrnod Ymwybyddiaeth Polio, Diwrnod y Cynhalwyr a Diwrnod Ymwybyddiaeth y GIG. Cymerodd ran hefyd mewn Gwasanaeth Coffa cyfyngedig fis Tachwedd diwethaf, ger Cofeb Ryfel Glynrhedynog, a gosododd Dorch yn anrhydeddu milwyr ddoe a heddiw.
Yn ogystal â hynny, dadorchuddiodd y blac mewn fferyllfa yn y Maerdy er cof am yr holl drigolion o Gwm Rhondda a fu farw yn ystod y pandemig yma, gan dalu teyrnged i'r bobl hynny ac i'w hanwyliaid sy'n galaru amdanyn nhw.
Yn dilyn ei hurddo fel Maer, dywedodd y Cynghorydd Jill Bonetto: “Rydw i'n edrych ymlaen at fy nghyfnod fel Maer Rhondda Cynon Taf a diolch i chi am roi anrhydedd o'r fath i mi.
“Hoffwn ddiolch i fy rhagflaenydd, y Cynghorydd Susan Morgans, am gyflawni ei dyletswyddau gyda balchder mawr a hyd eithaf ei gallu wrth i ni oll wynebu cyfnod anodd iawn.
“Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i barhau â’i gwaith, a gwaith pob Maer sydd wedi gwisgo’r gadwyn yn y gorffennol. Edrychaf ymlaen at gwrdd â chynifer o bobl a sefydliadau â phosibl mewn modd diogel, ynghyd â helpu i godi arian at elusennau sydd mor agos at fy nghalon.”
Cafodd Dirprwy Faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Treeby, sy'n cynrychioli Ward Gorllewin Aberpennar, hefyd ei phenodi yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Consort y Dirprwy Faer am y flwyddyn i ddod yw Paul Hammett.
Wedi ei bostio ar 28/05/2021