Mae'r Cyngor wedi cadarnhau ei drefniadau ar gyfer prisiau parcio yn Aberdâr a Phontypridd. O 1 Mehefin, bydd parcio AM DDIM o 3pm ymlaen yn ystod yr wythnos, ac AM DDIM ar ôl 10am ddydd Sadwrn a thrwy'r dydd, ddydd Sul.
Rydyn ni wedi cynnig i bobl barcio am ddim yn y ddwy dref yn ystod cyfnodau allweddol yn y pandemig er mwyn ceisio helpu’r economi leol, cefnogi trigolion i gael mynediad at fusnesau hanfodol yng nghanol y dref ac er mwyn ymateb i'r ffaith bod llai o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael ar adegau pan oedd achosion COVID-19 yn cynyddu.
Mae parcio wedi parhau i fod am ddim yn Aberdâr a Phontypridd ers mis Hydref 2020, trwy gydol 'ail don' y pandemig. Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd yn ail gyflwyno tâl ar gyfer parcio o ddydd Mawrth, 1 Mehefin ymlaen. Fodd bynnag, bydd y cyfnodau amser presennol ar gyfer y talu am barcio (8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn) yn newid i 8am-3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac 8am-10am ar ddydd Sadwrn.
Mae hyn yn golygu y bydd modd parcio am ddim o 3pm ymlaen yn ystod yr wythnos a 10am ymlaen ar ddydd Sadwrn o 1 Mehefin, 2021 - ynghyd â pharhau i barcio am ddim ar ddydd Sul ac ar wyliau banc.
Mae meysydd parcio'r Cyngor yn Aberdâr yn cynnwys meysydd parcio Adeiladau'r Goron, y Llyfrgell, Y Stryd Las, Stryd y Dug, y Stryd Fawr, Rhes y Nant, Rock Grounds a safle Sobell, yr Ynys. Ym Mhontypridd, bydd modd parcio am ddim ym meysydd parcio Heol y Weithfa Nwy, Iard y Nwyddu (dim ond y rhan sy'n eiddo i'r Cyngor), Dôl-y-felin, Heol Berw a Heol Sardis.
Nodwch: Mae meysydd parcio'r Llyfrgell, Y Stryd Las, Stryd y Dug a'r Stryd Fawr yn Aberdâr, a maes parcio Heol y Weithfa Nwy ym Mhontypridd, yn rhai cyfnod byr - am uchafswm o bedair awr.
Wedi ei bostio ar 12/05/21