Mae cynlluniau arfaethedig gwerth £4.5 miliwn y Cyngor i ehangu Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr a chyflwyno cyfleuster gofal plant ar y safle wedi derbyn caniatâd cynllunio. Mae fideo argraff arlunydd yn dod â'r cynlluniau'n fyw.
Cafodd y cais am ganiatâd cynllunio llawn ei drafod ym Mhwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor ddydd Iau, 20 Mai – a chytunodd yr Aelodau ag argymhellion y Swyddog i gymeradwyo'r datblygiad arfaethedig.
Mae'r prosiect wedi'i gynnwys yn rhan o fuddsoddiad gwerth £23.9 miliwn mewn addysg yng Nghwm Cynon, gan ddefnyddio cyllid Band B o raglen Llywodraeth Cymru, Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif. Bydd buddsoddiad arfaethedig o £3.69miliwn ar gyfer YGG Aberdâr yn cynyddu nifer y lleoedd Cyfrwng Cymraeg sy'n cael eu cynnig gan yr ysgol yng Nghwmdâr – cynnydd o 48, sef cyfanswm o 480 o leoedd.
Bydd hyn yn ategu buddsoddiad ar wahân o £810,000 gan Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru, i sefydlu cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd gyda 30 o leoedd ar safle presennol yr ysgol. Gyda chaniatâd cynllunio bellach wedi'i gadarnhau, mae'r prosiect cyffredinol gwerth £4.5 miliwn ar y trywydd iawn i'w gyflawni yn 2022.
Ddydd Iau, bu'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn ystyried cais y Cyngor yn ymwneud â dwy elfen y buddsoddiad, gan gynnwys:
- Estyniad gyda lefelau gwahân i 'adain' ddwyreiniol yr ysgol – er mwyn cynnig pedair ystafell ddosbarth ychwanegol, toiledau, ardal ymneilltuo ar y llawr gwaelod a chyfleuster gofal plant cwbl hygyrch ar y llawr gwaelod isaf.
- Estyniad i 'adain' ogleddol yr ysgol –- i gynyddu arwynebedd llawr y neuadd bresennol o 80 metr sgwâr.
- Estyniad o'r maes parcio presennol ar ddarn o dir sy'n eiddo i'r Cyngor i ddarparu 21 lle ychwanegol.
- Cael gwared ar ddwy ystafell ddosbarth dros dro sy'n cael eu defnyddio gan yr ysgol ar hyn o bryd (sy'n golygu y bydd y prosiect ar ei ennill o ddwy ystafell ddosbarth mewn gwirionedd).
- Man chwarae wyneb caled ychwanegol i gymryd lle cae chwarae glaswellt presennol nad oes modd ei ddefnyddio yn ystod rhannau helaeth o'r flwyddyn.
- Llwybr troed pwrpasol newydd i gysylltu'r cyfleuster gofal plant newydd â'r maes parcio.
Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno yn y cyfarfod ddydd Iau yn cymeradwyo'r cais, gan nodi y byddai'r datblygiad yn darparu gofod addysgu mawr ei angen a chyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg cwbl hygyrch ar safle ysgol sydd wedi ennill ei phlwyf, a hynny mewn lleoliad cynaliadwy iawn. Ychwanegodd fod y cynigion yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Rwy’n falch iawn bod y cynlluniau cyffrous yma gwerth £4.5 miliwn ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr bellach wedi’u cymeradwyo’n ffurfiol gan y pwyllgor cynllunio. Mae hyn yn garreg filltir bwysig i’r cynllun ac yn rhoi caniatâd i’r datblygiad ddigwydd. O ganlyniad, mae'r prosiect yn parhau i fod ar y trywydd iawn i'w gyflawni yn ystod 2022.
“Gan weithio tuag at y deilliannau sydd wedi'u hamlinellu yn ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, mae'r Cyngor yn parhau i ddangos ei ymrwymiad i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf. Er bod gan fwyafrif helaeth ein hysgolion cyfrwng Cymraeg leoedd dros ben, mae'r Cyngor yn cymryd camau gweithredu mewn ardaloedd lle mae'r galw yn fwy na'r capasiti – gan gynnwys yn YGG Aberdâr lle mae'r ysgol wedi bod yn defnyddio llety dros dro i ymdopi â'r galw.
“Mae'r prosiect yma hefyd yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr â buddsoddiad gwerth £12.1 miliwn i adeiladu bloc addysgu newydd yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ym Mhen-y-waun. Bydd hyn yn ychwanegu 187 o leoedd yn yr ysgol ac yn darparu cyfleusterau modern, llawer gwell gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon. Cafodd y cynllun yma ganiatâd cynllunio ym mis Chwefror.
“Mae'r cynlluniau Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer YGG Aberdâr yn cynnwys adeiladu pedair ystafell ddosbarth newydd, ymestyn neuadd yr ysgol, darparu ardal awyr agored newydd a chynyddu lleoedd parcio. Mae'r prosiect cyffredinol hefyd yn cynnwys cyfleuster gofal plant newydd ar y safle trwy'r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae'n wych gweld fideo argraff yr artist o'r gwelliannau sylweddol, a fydd yn caniatáu i drigolion weld y newidiadau a fydd ar gael i'r gymuned.
“Mae'r Cyngor wedi croesawu cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dwy elfen y cynllun. Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o'r cyfraniad y mae'r Cyngor yn ei wneud tuag at y weledigaeth ‘Cymraeg 2050’ i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru o fewn y 30 mlynedd nesaf.”
Wedi ei bostio ar 25/05/2021