Bydd y Cyngor yn dechrau ar gynllun mawr i atgyweirio pont droed Maes-y-Felin ym Mhont-y-clun. Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Mawrth (1 Mehefin) a bydd raid cau'r bont a'r llwybr troed cyfagos er mwyn i'r gwaith fynd rhagddo'n ddiogel.
Mae'r bont droed, sydd wedi'i lleoli ar y llwybr troed i dde-ddwyrain Glan-yr-Afon, wedi cael ei monitro'n agos gan y Cyngor ar ôl i arolygiad ohoni dynnu sylw at ei chyflwr gwael. Bydd y cynllun yn cynnwys gwaith adfer - gan gynnwys ailosod cyfeiriannau'r bont a chael gwared ar yr holl gyrydiad. Yna bydd yr holl strwythur yn cael ei ail-baentio i gwblhau'r cynllun.
Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat UK yn gontractwr sy'n gyfrifol am gyflawni'r gwaith, a fydd yn dechrau Dydd Mawrth, 1 Mehefin. Bydd y bont ar gau o hanner nos ar y dyddiad yma, ac yn parhau felly am ryw 15 wythnos.
Bydd y cynllun hefyd yn golygu bod darn o lwybr troed rhwng Glan-yr-Afon a'r bont hefyd yn cau o hanner nos (1 Mehefin). Bydd llwybr amgen ar gael o Glan-yr-Afon i'r llwybr troed ar ochr arall y bont.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion y Priffyrdd a Thrafnidiaeth:“Mae’r cynllun yma sydd ar y gweill ym Mhont-y-clun wedi’i gynnwys yn Rhaglen Cyfalaf y Cyngor ar gyfer y Priffyrdd a Thrafnidiaeth ar gyfer 2021/22, gwerth £25.025. Mae’r cynllun wedi dyrannu £4.99 miliwn i atgyweirio a gwella strwythurau’r priffyrdd, ynghyd â £750,000 ar gyfer strwythurau’r parciau, yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
“Mae'r dyraniad cyllid yma yn ychwanegol i'r gwaith parhaus sylweddol i sicrhau cyllid cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer atgyweirio seilwaith yn dilyn Storm Dennis, sy'n parhau i fod yn flaenoriaeth ledled y Fwrdeistref Sirol.
“Mae'r Cyngor wedi monitro pont droed Maes-y-Felin oherwydd ei chyflwr gwael, a bydd y gwaith yma'n atgyweirio ac yn amddiffyn y strwythur ar gyfer y dyfodol er budd y gymuned. Diolch i drigolion lleol ymlaen llaw am eu cydweithrediad â'r broses angenrheidiol o gau'r bont i alluogi'r gwaith yma."
Wedi ei bostio ar 25/05/21