Skip to main content

Adfer Tirlithriad Tylorstown - diweddariad ar y cynnydd yn 2021

Tylorstown updated

Mae'r Cyngor wedi rhoi diweddariad ar y cynnydd pellach a wnaed hyd yma yn 2021 tuag at Gynllun Adfer Tirlithriad Tylorstown. Caiff hyn ei ddangos gan luniau drôn newydd sy'n dangos sut olwg sydd ar y safle ar hyn o bryd.

Digwyddodd y tirlithriad ar ochr bryn Llanwynno yn Nhylorstown yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, pan gofnododd Rhondda Cynon Taf y glaw trymaf a'r llifogydd mwyaf difrifol ers y 1970au. Roedd y tirlithriad yn cynnwys 60,000 tunnell o ddeunydd gwastraff, ac fe rwystrodd dyffryn yr afon, difrodi carthffos fudr, gorchuddio prif gyflenwad dŵr yfed strategol a gorchuddio llwybr troed/llwybr beicio.  

Cafodd cynllun adfer pedwar cam ei nodi gan y Cyngor – gwaith draenio brys (Cam Un), atgyweirio argloddiau (Cam Dau), symud deunydd i safleoedd gwaredu ac adfer llwybrau dros dro (Cam Tri) ac adfer deunydd ar ochr y bryn (Cam Pedwar). Bydd hyn wedyn yn caniatáu i lwybr Teithio Llesol i'r gymunedol gael ei ddarparu o Faerdy i Bont-y-gwaith.

Cafodd Cam Un ei gwblhau fel mesur ar unwaith yn dilyn y tirlithriad, ac fe ddechreuodd mesurau brys Cam Dau a Thri yn ystod Mehefin 2020.

Trwy gydol 2021, mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd pwysig pellach tuag at y ddau gam yma - gan sicrhau caniatâd cynllunio ôl-weithredol gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ar 21 Ionawr ar gyfer y safleoedd gwaredu dros dro. Ar y safle, mae cynnydd allweddol diweddar wedi cynnwys:

  • Tynnu deunydd tirlithriad o lawr y cwm.
  • Ailosod yr afon i'w llinell a'i lefel gywir.
  • Pentyrrau stoc dros dro yn y safleoedd gwaredu sy'n cael eu siapio i broffil addas, gyda gwaith draenio hefyd yn mynd rhagddo ar gyfer y safleoedd yma.
  • Adfer y llwybr gorllewinol.
  • Clirio sianeli draenio.
  • Cwblhau gwaith draenio i ardal ganol y llethr sydd ar ymyl y bryn.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r delweddau diweddaraf o safle Tirlithriad Tylorstown yn dangos y cynnydd sylweddol a wnaed ers y Flwyddyn Newydd - yn benodol, cael gwared ar y deunydd tirlithriad sy’n weddill o lawr y cwm, gyda’r holl 60,000 tunnell o rwbel bellach wedi’i dynnu ers i Gam Dau'r Cynllun ddechrau haf diwethaf.

“Mae contractwr y Cyngor wedi adfer yr afon i’w linell a’i lefel blaenorol, ar ôl iddi gael ei newid yn sylweddol gan y tirlithriad. Bydd yn rhaid i ran o'r llwybr beicio aros ar gau ar ochr ddwyreiniol yr afon ond bydd y llwybrau ar ochr orllewinol yr afon yn cael eu hailagor cyn gynted ag y bydd y cam diweddaraf yma o'r gwaith wedi'i gwblhau.

“Mae'r safleoedd gwaredu yn parhau i gael eu defnyddio i ddal y deunydd gwastraff, gydag un o'r ddau safle bellach yn agos at ei gapasiti llawn ar gyfer yr hyn a gynlluniwyd. Bydd ymarfer ymgysylltu pwysig ar gyfer y misoedd nesaf yn cynnwys ymgynghori â thrigolion a rhanddeiliaid ynghylch defnyddio'r ddau safle gwaredu yma yn y dyfodol - a bydd y Cyngor yn rhannu manylion pellach am y broses yma maes o law.

“Wrth edrych ymlaen at haf 2021, cam nesaf pwysig ar y safle yw sefydlogi wyneb y mynydd, tra bydd y Cyngor hefyd yn ceisio cyflwyno cais cynllunio ar gyfer Cam Pedwar y Cynllun Adfer. Gallai hyn weld gwaith mewn perthynas â'r deunydd ar ochr y bryn yn cychwyn y gaeaf neu'r gwanwyn nesaf.

“Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau cyllid a chyflawni'r gwaith yma i unioni Tirlithriad Tylorstown - a dod â'r ardal i ddefnydd yn rhan o lwybr Teithio Llesol ehangach yn y dyfodol. Byddwn ni'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am yr holl ddatblygiadau mawr wrth i'r prosiect hwn fynd yn ei flaen.”
Wedi ei bostio ar 24/05/21