Skip to main content

Tanau Gwastraff wedi'u hachosi gan Fatris

Amcangyfrifwyd bod dros 260 o danau mewn safleoedd gwastraff ledled y DU wedi'u hachosi gan fatris yn y flwyddyn ddiwethaf.  

Ym mis Gorffennaf roedd y Cyngor wedi newid y ffordd y mae’n mynd ati i gasglu ac ailgylchu batris i leihau'r risg o danau yma yn Rhondda Cynon Taf. 

Mae batris rhydd wedi achosi nifer o broblemau i'r Cyfleuster Adennill Deunydd (MRF) yn Rhondda Cynon Taf. Mae modd i'r batris fynd yn sownd a thorri'r peiriant neu achosi tân yn y safle ddosbarthu.

Mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion gael gwared ar eu batris mewn modd cyfrifol, trwy gadw gafael arnyn nhw a mynd â nhw i’r Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned pan fyddan nhw'n mynd yno nesaf, i lyfrgell leol, neu un o'r nifer o siopau manwerthu sy'n cymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu batris.  

Does dim modd casglu batris o ymyl y fordd! 

Os bydd batri'n cael ei gasglu yn rhan o gasgliad ailgylchu neu wastraff cyffredinol, yna mae risg y gallai'r peiriant gwasgu ar y cerbyd casglu greu twll yn y batri, a pheri iddo fod yn ansefydlog. Gallai'r batri danio yn sgil hyn, gan achosi tân yng nghefn y cerbyd sbwriel. Bydd angen mynd i’r afael â'r tân yn ddiogel a gallai hyn oedi casgliadau.   

Mae nifer o eitemau o'r cartref hefyd yn cynnwys batris lithiwm ailwefradwy - mae'r eitemau yma hefyd yn beryglus a dylech chi ddim eu rhoi nhw yn eich bagiau gwastraff cyffredinol neu fagiau ailgylchu wrth ymyl y ffordd.  Mae modd mynd â phob cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned.  

Ar hyn o bryd mae chwe Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf:

  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0BX 
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Glynrhedynog, Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS 
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Dinas, Heol y Cymer, Dinas, CF39 9BL. 
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Glantaf, Heol Ffynnon Taf, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT  
  • Canolfan Ailgylchu Llantrisant, Heol Pant-y-Brad oddi ar Heol-y-Sarn, Ystad Ddiwydiannol Llantrisant, CF72 8YT 
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ.

Ar hyn o bryd, mae'r holl Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ledled Rhondda Cynon Taf ar agor rhwng 8am a 5.30pm ac yn gweithredu o dan reolau llym COVID-19.  

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth:

“Byddwn i'n annog trigolion i ddilyn y broses gasglu ac i gael gwared ar eu batris mewn modd cyfrifol.  

"Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn golygu bod gan drigolion fynediad i wasanaethau ailgylchu bob dydd. Yn syml, cadwch eich batris yn ddiogel ac ewch â nhw gyda chi y tro nesaf rydych chi'n mynd iGanolfan Ailgylchu yn y Gymuned. Fel arall, dylai fod gan bob siop manwerthu sy'n gwerthu batris gyfleusterau ailgylchu yn y siop bellach.  

”Mae trigolion RhCT bob amser wedi bod yn ailgylchwyr gwych ac rydw i'n siŵr y byddan nhw'n parhau â'u brwydr yn erbyn gwastraff i helpu RhCT i gyrraedd ei darged o ailgylchu dros 80% o'i wastraff erbyn 2024/25. Daliwch ati RhCT!”

I gael rhagor o wybodaeth am y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned a'r rheolau sydd ar waith ar hyn o bryd, ewch i www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu.

Wedi ei bostio ar 17/11/2021