Skip to main content

Cynigion i fuddsoddi yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog – dweud eich dweud

Bryn Celynnog Comprehensive School investment plans - residents can now have their say

Mae modd i drigolion nawr ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gynlluniau i fuddsoddi'n sylweddol yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog. Bydd y cynlluniau'n darparu cyfleusterau gwell i'r chweched dosbarth a chyfleusterau chwaraeon, yn ogystal â gwelliannau Ysgolion yr 21fed Ganrif ehangach.

Bydd yr ysgol yn y Beddau'n elwa o'r cyfleusterau newydd erbyn mis Medi 2023 yn rhan o fuddsoddiad ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae cyllid o fwy na £55 miliwn ar gyfer buddsoddi ar draws ardal Pontypridd wedi'i ddiogelu trwy'r Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21fed Ganrif.

Bydd Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn cael adeilad newydd ar gyfer y chweched dosbarth, cyfleusterau chwaraeon newydd (yn ogystal â'r trac athletau a'r cae chwaraeon 3G a agorodd yn 2019). Bydd cyfleusterau Ysgolion yr 21fed Ganrif gwell i ddisgyblion Cyfnodau Allweddol 3 a 4 hefyd.  Bydd dau floc dysgu sydd o ansawdd isel yn cael eu dymchwel yn rhan o'r prosiect a chaiff maes parcio ac ardal fynediad newydd eu hadeiladu.

Bydd y gwelliannau yma'n darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i'r gymuned leol, gan gynyddu nifer y cyfleoedd sydd ar gael i'r gymuned ehangach gymryd rhan.

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau a rhoi adborth mewn ymgynghoriad fydd yn dod i ben ddydd Iau, 2 Rhagfyr. Bwriwch olwg ar y cynlluniau trylwyr yma.

Anfonwch adborth trwy e-bost i info@theurbanists.net neu drwy'r post i The Urbanists, The Creative Quarter, 8a Arcêd Morgan, Caerdydd, CF10 1AF. Byddwn ni'n defnyddio'ch aborth i lywio'r prosiect ymhellach ac i fwydo gwybodaeth i adroddiad cynllunio'r Cyngor cyn ei gyflwyno i'r pwyllgor Cynllunio a Datblygu. 

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: "Mae modd i drigolion ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â'r cynllun i fuddsoddi yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, fydd yn darparu bloc addysgu o'r radd flaenaf er mwyn gwella cyfleusterau a chynyddu nifer y disgyblion chweched dosbarth sy'n gallu bod yno. Bydd y cynllun hefyd yn darparu cyfleusterau chwaraeon gwell, cyfleusterau ar gyfer yr 21fed Ganrif i ddisgyblion cyfnodau allweddol 3 a 4 a chyfleusterau bydd modd i gymuned ehangach Beddau eu defnyddio.

“Mae'r prosiect cyffrous yma yn rhan o fuddsoddiad gwerth mwy na £55 miliwn ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun yn cynnwys ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen a chyfleusterau gwell yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Uwchradd Pontypridd. Mae'r Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21fed Ganrif hefyd yn cefnogi prosiectau gwerth £85 miliwn ar draws Llanhari, Cymer, Glyn-coch, Pen-rhys, Llanilltud Faerdref a Thonysguboriau yn ogystal ag ysgol arbennig newydd. Bydd hefyd brosiectau Model Buddsoddi Cydfuddiannol Band B yn Llanilltud Faerdref, Pont-y-clun a Llantrisant.

“Rwy'n annog aelodau'r gymuned i leisio'u barn ar y cynlluniau i fuddsoddi yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog cyn y dyddiad cau ar 4 Rhagfyr. Mae yno Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio sy'n casglu safbwyntiau'r gymuned cyn cyflwyno cais cynllunio a gaiff ei ystyried yn ffurfiol yn y dyfodol. Mae'r broses yn ffordd wych i drigolion gael gweld y cynlluniau manwl, gofyn unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r cynllun a dweud eu dweud ar y cynnig."

Wedi ei bostio ar 16/11/21