Mae'r Cyngor unwaith eto'n cefnogi Wythnos Diogelwch y Ffyrdd, sy'n cael ei chydlynu bob blwyddyn gan yr elusen genedlaethol Brake. Bydd nifer o weithgareddau lleol yn cael eu cynnal yn y gymuned a gyda phobl ifainc yn ein hysgolion.
Mae Wythnos Diogelwch y Ffyrdd 2021 yn cael ei chynnal rhwng 15 a 21 Tachwedd. Y thema eleni yw 'Arwyr Diogelwch y Ffyrdd'. Bydd yn dathlu gwaith gweithwyr proffesiynol diogelwch y ffyrdd ac yn canolbwyntio ar sut y gall pob un ohonon ni helpu i wneud teithiau'n fwy diogel i bawb.
Mae'r Cyngor yn annog ysgolion, trigolion a chymunedau i ddathlu gweithwyr proffesiynol sy'n helpu i leihau nifer y bobl sy'n cael eu hanafu'n ddifrifol neu eu lladd ar ein ffyrdd - o'r gwasanaethau brys i hebryngwyr croesfannau ysgolion. Mae'r Cyngor hefyd yn gofyn iddyn nhw fod yn gefn i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddamweiniau ar y ffordd, gwneud safiad dros hawl pob un ohonon ni i wneud teithiau diogel ac iach lle rydyn ni'n byw, ac ymuno â'n cymuned o arwyr diogelwch y ffyrdd.
Yn ystod Wythnos Diogelwch y Ffyrdd 2021, mae Carfan Diogelwch y Ffyrdd y Cyngor a'i sefydliadau partner wedi trefnu nifer o achlysuron yn ein cymunedau. Byddan nhw'n cymryd rhan yn y canlynol yn ein cymunedau a'n hysgolion:
- Dydd Llun, 15 Tachwedd – ymgyrch gwregysau diogelwch ar y cyd â Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Dydd Llun, 15 Tachwedd – hyfforddiant i gerddwyr iau yn Ysgol Gynradd Maes-y-Bryn yn Llanilltud Faerdref
- Dydd Mawrth, 16 Tachwedd – Hyfforddiant Beicio'r Safon Genedlaethol yn Ysgol Llanhari
- Dydd Mawrth, 16 Tachwedd – hyfforddiant i gerddwyr iau yn Ysgol Gynradd Coed-pen-maen ac Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James, Pontypridd
- Dydd Mawrth, 16 Tachwedd – Cwrs Pass Plus Cymru rhithwir i helpu gwella sgiliau a diogelwch gyrwyr 17-25 oed
- Dydd Mercher, 17 Tachwedd – hyfforddiant pellach i gerddwyr iau yn Ysgol Gynradd Maes-y-Bryn ac Ysgol Gynradd Cwm Clydach yn Nhonypandy
- Dydd Iau, 18 Tachwedd – Hyfforddiant Beicio'r Safon Genedlaethol pellach yn Ysgol Llanhari
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch bod modd i'r Cyngor unwaith eto gefnogi Wythnos Diogelwch y Ffyrdd flynyddol gyda chyfres o weithgareddau lleol yn ein cymunedau, er gwaethaf yr heriau parhaus sy'n dod yn sgil y pandemig.
“Bydd ein Carfan Diogelwch y Ffyrdd, sy’n gwneud gwaith gwerthfawr yn ein cymunedau trwy gydol y flwyddyn, yn gweithio’n agos gyda'n sefydliadau partner i ddarparu ymgyrch gwregysau diogelwch, ynghyd â’r hyfforddiant i gerddwyr iau a Hyfforddiant Beicio'r Safon Genedlaethol poblogaidd gyda phobl ifainc yn rhai o’n hysgolion. Mae sesiwn Pass Plus Cymru hefyd yn cael ei chynnal i helpu i wella sgiliau a diogelwch gyrwyr ifanc.
“Thema elusen Brake ar gyfer Wythnos Diogelwch y Ffyrdd 2021 yw Arwyr Diogelwch y Ffyrdd. Dyma gyfle i ni ddathlu'r bobl hynny yn Rhondda Cynon Taf sy'n helpu i leihau anafiadau a damweiniau ar ein ffyrdd lleol bob dydd yn rhinwedd eu swyddi, a dweud diolch iddyn nhw am hynny.”
Wedi ei bostio ar 12/11/21