Mae'r Cyngor wedi dechrau gwaith ar gynllun draenio ger Teras y Waun a Heol Llanwynno yn Ynys-hir. Diben y gwaith yma, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw sicrhau bod modd i geg y geuffos wrthsefyll glaw trwm.
Dechreuodd y gwaith ar y safle Ddydd Llun, 29 Tachwedd, gan ddefnyddio cyllid gwerth £127,500 . Mae'r cyllid wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i gyflawni gwaith draenio ar raddfa fach. Mae'r cyllid yma'n ategu cyfraniad y Cyngor, £204,000, er mwyn cyflawni'r cynllun yma. Mae'r Cyngor wedi penodi Hammond (ESC) Ltd fel y contractwr sy'n gyfrifol am gwblhau'r cynllun. Bydd y gwaith yn para tua 12 wythnos.
Bydd y gwaith yn cynyddu capasiti'r geuffos bresennol ac yn sicrhau ei bod hi'n fwy cadarn trwy osod sianel wedi'i leinio â choncrid yn lle'r un presennol. Bydd hyn yn lleihau faint o sgwriad a malurion sydd yn y cwrs dŵr, ac hefyd yn gwella sefydlogrwydd strwythurol y glannau sianel.
Does dim angen i gontractwr y Cyngor osod mesurau rheoli traffig ar gyfer y cynllun yma, ac mae'n annhebygol o darfu'n sylweddol ar y gymuned leol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r Cyngor wedi croesawu'r cyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r gwaith yma ger Teras y Waun yn Ynys-hir. Dyma'r cynllun diweddaraf i'n helpu i amddiffyn ein cymunedau rhag llifogydd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd gosod sianel newydd yn lle'r sianel naturiol yn cynyddu capasiti'r cyrsiau dŵr lleol yn ystod cyfnodau o dywydd garw.
“Dyma'r trydydd cynllun wedi'i dargedu sydd wedi'i gynnal yn yr ardal yn ddiweddar. Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni yn rhan o'r ymateb i Storm Dennis ac i wella mesurau gwrthsefyll llifogydd. Ym mis Gorffennaf ac Awst, cynhaliodd y Cyngor waith leinio a gwaith gwella'r system ddraenio yn Nhrem y Faner, ac mae atgyweiriadau sylweddol i gyfres o waliau afon ger Stryd y Groes a Stryd yr Ynys wedi'u cwblhau'r mis yma.
“Mae’r cynllun ger Teras y Waun bellach wedi dechrau a bydd yn cael ei gwblhau dros y 12 wythnos nesaf. Does dim disgwyl y bydd llawer o darfu ar drigolion yn ystod y cyfnod yma. Byddwn ni'n parhau i geisio cyllid allanol ar gyfer cynlluniau draenio fel hyn, er mwyn cyfrannu ymhellach at ein buddsoddiad sylweddol yn y maes blaenoriaeth yma.”
Wedi ei bostio ar 29/11/2021