Mae'r Cyngor wedi cadarnhau y bydd parcio AM DDIM o 10am bob dydd yn dychwelyd i Aberdâr a Phontypridd ym mis Rhagfyr, wrth i ni annog trigolion i wneud eu Siopa Nadolig yn Lleol eleni i gefnogi masnachwyr ein stryd fawr.
Am yr wythfed flwyddyn yn olynol, fydd dim rhaid talu i barcio ym mis Rhagfyr - dydd Mercher, 1 Rhagfyr tan ddydd Gwener, 31 Rhagfyr (o 10am bob dydd). Trwy gydol y pandemig, mae busnesau wedi ymateb i gyfyngiadau amrywiol i amddiffyn y GIG ac i'n cadw ni i gyd yn ddiogel, gan gynnwys cau busnesau nad oedden nhw'n hanfodol ar adegau allweddol. Felly mae'n bwysicach fyth ein bod ni'n ystyried siopa'n lleol i roi hwb i fasnachwyr lleol y Nadolig hwn.
Yn Aberdâr, bydd modd parcio AM DDIM ym meysydd parcio Adeiladau'r Goron, Y Stryd Las, y Llyfrgell, Stryd y Dug, Stryd Fawr, Rhes y Nant, Rock Grounds a'r Ynys. Ym Mhontypridd, bydd modd parcio am ddim ym meysydd parcio Heol y Weithfa Nwy, Iard y Nwyddau (dim ond y rhan sy'n eiddo i'r Cyngor), Dôl-y-felin, Heol Berw a Heol Sardis.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae ymgyrch barhaus y Cyngor i Siopa'n Lleol yn ystod tymor y Nadolig yn annog trigolion i wneud cymaint â phosibl o'u siopa Nadolig yn lleol. Mae'n bwysicach fyth rhannu'r neges eleni, gan fod busnesau wedi gorfod gwneud aberthau ar adegau allweddol yn ystod y pandemig - gan atal eu bywoliaeth dros dro i helpu eu cymunedau i gadw'n ddiogel.
“Mae'r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi y bydd cyfle i weld Siôn Corn yn wyth tref eleni, wedi i Siôn Corn fethu â dod i’n gweld ni y llynedd oherwydd y pandemig. Bydd cyfanswm o 13 ogof Siôn Corn ym mhrif drefi’r Fwrdeistref Sirol rhwng 26 Tachwedd ac 18 Rhagfyr.
“Rwy’n falch iawn felly bod parcio am ddim ym mis Rhagfyr yn dychwelyd i Aberdâr a Phontypridd unwaith eto yn 2021 - yr wythfed flwyddyn yn olynol i ni allu gwneud hyn. Bydd parcio am ddim yn parhau tan Nos Galan, gan helpu trigolion i fwynhau popeth sydd gan ein strydoedd mawr gwych i'w gynnig trwy gydol cyfnod yr ŵyl eleni.”
Cofiwch fod meysydd parcio'r Llyfrgell, y Stryd Las, Stryd y Dug a'r Stryd Fawr yn Aberdâr, a maes parcio Heol y Weithfa Nwy ym Mhontypridd, yn rhai cyfnod byr a chewch chi ddim parcio am fwy na phedair awr yno. Hoffwn atgoffa'r rheiny sy'n mynd i ganol y dref, sy'n parcio cyn 10am, fod angen iddyn nhw arddangos tocyn tan 10am yn unig.
Gweddill y cyfleoedd i weld Siôn Corn yn Rhondda Cynon Taf, Rhagfyr
- Canolfan Pennar, Aberpennar – Dydd Gwener 3 Rhagfyr (3pm tan 6.30pm) a dydd Sadwrn 4 Rhagfyr (10am tan 4pm)
- Llyfrgell Tonypandy – Dydd Gwener 3 Rhagfyr (3pm tan 6.30pm) a dydd Sadwrn 4 Rhagfyr (10am tan 4pm)
- Clwb Bechgyn a Merched Treorci – Dydd Gwener 10 Rhagfyr (3pm tan 6.30pm) a dydd Sadwrn 11 Rhagfyr (10am tan 4pm)
- Plaza Porth - Dydd Gwener 10 Rhagfyr (3pm tan 6.30pm) a dydd Sadwrn 11 Rhagfyr (10am tan 4pm)
- Llys Cadwyn, Pontypridd – Dydd Gwener, 17 Rhagfyr (3pm tan 6.30pm)
- Little Ferns, Glynrhedynog – Dydd Sadwrn 18 Rhagfyr (10am tan 4pm)
Wedi ei bostio ar 29/11/2021