Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo'r argymhelliad i roi Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol i bob gweithiwr allweddol yn y sir ac i un o arwyr rygbi Cymru.
Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol yw'r anrhydedd pennaf gall awdurdod lleol ei roi ac mae'n cael ei ddyfarnu ar sail gwasanaeth rhagorol i Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, neu gyflawniad sy'n gysylltiedig â hi.
Mewn cyfarfod llawn o'r Cyngor a gynhaliwyd yn gynharach heddiw, cymeradwywyd dau argymhelliad gan weithgor, a gadeiriwyd yn wreiddiol gan Faer blaenorol Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Susan Morgans, ac sydd bellach dan gadeiryddiaeth Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Jill Bonetto, sef anrhydeddu pob un o weithwyr allweddol yr ardal, yn ogystal â'r chwaraewr rygbi i Gymru ac i garfan y Llewod, Neil Jenkins MBE.
Mae'r Cyngor am roi Rhyddid y Fwrdeistref Sirol i'r holl weithwyr allweddol yn gydnabyddiaeth o'u gwaith di-baid a'u hymrwymiad a achubodd fywydau trwy gydol pandemig COVID-19. O ganlyniad i waith y gweithwyr allweddol roedd modd i wasanaethau cyhoeddus barhau i weithredu trwy gyfnod y cyfyngiadau Bydd Neil Jenkins MBE, sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, hefyd yn derbyn Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol, mewn cydnabyddiaeth o'i wasanaeth i’r undeb rygbi..
Meddai Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Jill Bonetto: "Rydw i'n falch iawn fod y Cyngor wedi cymeradwyo ein hargymhellion i roi Rhyddid Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i Neil Jenkins MBE a'n holl weithwyr allweddol.
“Maen nhw wedi cael effaith enfawr ar ein Bwrdeistref Sirol a'r wlad gyfan. Mae Neil yn Gymro balch sydd wedi denu cydnabyddiaeth cenedlaethol a rhyngwladol i Bontypridd a Rhondda Cynon Taf. Mae ein dyled yn fawr i'n holl weithwyr allweddol am eu gwaith trwy bendemig COVID-19 a'r gwaith maen nhw'n parhau i'w wneud.”
Mae gan Rondda Cynon Taf hanes balch o gydnabod ac anrhydeddu'r rheiny sydd wedi rhoi gwasanaeth eithriadol i'r Fwrdeistref Sirol. Dim ond y rheiny sydd wir yn haeddu'r anrhydedd sy'n derbyn y Rhyddfraint. Mae'r anrhydedd yma'n fawreddog a phrin, trwy fwriad, y mae ei ddyfarnu er mwyn cadw ei bwysigrwydd.
Dyma rai o'r rheiny sydd wedi derbyn Rhyddfraint Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Glöwyr De Cymru; y tenor, Stuart Burrows OBE; Y Cymry Brenhinol; Y Gwarchodlu Cymreig; awdures a dramodydd, y diweddar Elaine Morgan OBE; sylfaenydd y Rasys Nos Galan, y diweddar Bernard Baldwin MBE; goroeswr ymosodiad terfysgol Tiwnisia, Mathew James; y nofiwr, David Roberts CBE; bocsiwr Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd, y diweddar David Dower MBE, y Cory band; a'r Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan a phob aelod o'r Awyrlu Brenhinol, heddiw a ddoe.
Roedd y Cyngor yn annog ei drigolion i ddangos eu gwerthfawrogiad i weithwyr allweddol a staff y GIG yn ystod y pandemig trwy ymuno â miloedd o bobl i sefyll ar stepen eu drysau ac yn eu gerddi a chlapio yn rhan o'r ymgyrch cenedlaethol.
Mae ymdrech, gwaith ac aberthau gweithwyr allweddol ar draws Rhondda Cynon Taf a thu hwnt wedi bod yn hollbwysig wrth ddiogelu eraill.
Mae Neil Jenkins MBE, sydd yn enw cyfarwydd ers iddo chwarae i Glwb Rygbi Pontypridd ar Heol Sardis wedi bod yn rhan o rygbi yng Nghymru, fel chwaraewr a hyfforddwr ers dros 30 mlynedd. Mae hefyd wedi bod yn rhan o bob Taith Carfan y Llewod ers 1997.
Wedi ei ymddangosiad cyntaf yn rhan o Garfan Cymru yn 1991, sgoriodd cyfanswm o 1,049 o bwyntiau dros ei wlad a 41 o bwyntiau ychwanegol i'r Llewod. Dyma oedd y record hyd at 2008.
Wedi ei bostio ar 30/11/2021